Gwybodaeth i weithwyr yng Nghymru, yn ystod pandemig Coronafeirws Covid-19, am iechyd a diogelwch yn y gwaith, cymryd amser i ffwrdd a gweithio gartref.

Mae Llywodraeth Cymru yn glir – os gallwch weithio gartref, yna mae'n rhaid i chi wneud hynny. Os yw eich cyflogwr yn eich atal rhag gwneud hynny hyd yn oed pan fydd yn bosibl, siaradwch â'ch undeb llafur ar unwaith. 

Neidiwch i: 

Ein gwaith efo'r llywodraeth i gefnogi gweithwyr

Ble bynnag rydych chi'n gweithio a beth bynnag rydych chi'n ei wneud, mae gennych yr hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith. Drwy gydol yr argyfwng hwn rydym wedi bod yn ymgyrchu dros yr hawl hwn i bob gweithiwr yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod cyflogwyr yn cynnal asesiadau risg, cyflwyno mesurau newydd i atal Covid fel PPE a sgriniau rhag lledaenu, ac amser i ffwrdd â thâl ar gyfer  profion Covid,  hunanynysu a brechu. Ac mae hefyd yn golygu na wahaniaethir yn erbyn unrhyw un oherwydd eu bod mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael efo Covid.

Drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, rydym wedi sicrhau bod diogelwch gweithwyr yn yr argyfwng hwn bob amser yn cael ei ystyried. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfraith dau fetr i orfodi ymbellhau cymdeithasol mewn gweithleoedd ac offeryn asesu risg unigol i helpu i ddiogelu gweithwyr sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol oherwydd Covid. 

Mae'r effaith ariannol ar weithwyr hefyd yn bwysig iawn. Mae undebau wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i ddarparu tâl salwch teilwng i weithwyr gofal yng Nghymru a grantiau i weithwyr sydd wedi llithro drwy'r rhwyd ddiogelwch fel gyrwyr tacsis a gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.  

Mae TUC Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i gefnogi gweithwyr yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan bandemig y Coronafeirws.

Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd o ran sicrhau diogelwch gweithwyr drwy gyflwyno'r gyfraith ymbellhau gymdeithasol 2 fetr. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru ac rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau:

•    Bod pob gweithiwr allweddol yn gwybod bod ganddynt hawl i brofion a'u bod yn gallu cael gafael ar y cyfarpar diogelu personol (PPE) cywir i'w diogelu hwy a'u cydweithwyr
•    Bod y gyfraith cadw pellter cymdeithasol 2 fetr yn parhau i gael ei chymhwyso'n drylwyr

Mae TUC Cymru a'n hundebau cysylltiedig wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i dynhau'r rheolau ar iechyd a diogelwch yn y gwaith.

Gwrandawodd y llywodraeth ar ein pryderon ac, yn Ionawr 2021, cyflwynodd gyfraith newydd ar yr hyn y mae'n rhaid i gyflogwyr ei wneud i gadw eu gweithwyr yn ddiogel yn ystod yr argyfwng Covid.

Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar yr hyn y dylai eich cyflogwr fod yn ei wneud i leihau eich risg o ddod mewn cysylltiad â coronafeirws.

Mae diogelu ein GIG a chadw gweithwyr yn ddiogel yn hollbwysig. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi a chadw swyddi da yng Nghymru drwy'r argyfwng ac wrth inni symud tuag at adferiad.

Yr ydym yn galw ar Lywodraeth y DU i godi cymorth cyflog i weithwyr yng Nghymru

Cyngor am y coronafeirws – eich iechyd a diogelwch yn y gwaith

  • A ydych chi’n gallu cadw’n ddiogel rhag coronafeirws yn eich gweithle?
  • A ydych chi’n cael y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) rydych ei angen i’ch cadw’n ddiogel?
  • A ydych chi’n gallu cadw pellter cymdeithasol yn y gwaith?
  • A ydych chi’n gallu golchi eich dwylo pan fo angen?

Os ateboch 'na' i unrhyw rai o’r cwestiynau hyn neu os ydych yn pryderu am iechyd a diogelwch, llenwch ein ffurflen ar bryderon iechyd a diogelwch. Fe wnawn rannu eich pryderon yn ddienw â Llywodraeth Cymru ac â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE). Os cytunwch, fe wnawn hefyd roi eich manylion i’ch undeb llafur fel y gallant godi eich pryderon â’ch cyflogwr a rhoi cyngor ichi ar beth i’w wneud nesaf.

Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar yr hyn y dylai eich cyflogwr fod yn ei wneud i leihau eich risg o ddod mewn cysylltiad â coronafeirws.

Am gyngor am beth i’w wneud os credwch fod COVID-19 arnoch ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu wefan GIG.

Coronafeirws – yr effaith ar weithwyr BME

Mae undebau llafur yn bryderus iawn ynghylch adroddiadau am y nifer anghymesur o uchel o farwolaethau Covid-19 sy'n effeithio ar weithwyr rheng flaen o gefndiroedd BME (ddu a lleiafrifoedd ethnig). Mae TUC Cymru wedi galw am gasglu data mwy eglur er mwyn deall pam fod ethnigrwydd yn ffactor risg cryf.


Nid oes gennym esboniad gwyddonol eto pam mae Covid-19 yn effeithio ar rai pobl yn fwy nag eraill, ond gwyddom fod pobl BME yn y DU wedi profi blynyddoedd o wahaniaethu systematig yn y gweithle, ac mewn cymdeithas yn ehangach o ganlyniad i effaith polisïau Llywodraeth y DU.

Gwyddom, er enghraifft, eu bod yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tai gorlawn, yn llai tebygol o allu cael gofal iechyd da, ac yn fwy tebygol o gael eu dal mewn swyddi â chyflog isel, risg uchel.

Rydym hefyd yn gwybod bod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi cael eu heffeithio'n anghymesur gan ddegawd o galedi Llywodraeth y DU a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus.

Gwyliwch Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj yn siarad am y mater hwn ar ITV Cymru.

Darllenwch ein blog (yn Saesneg) ynghylch pam mae hiliaeth strwythurol yn peryglu bywydau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y coronafeirws.

Arolwg gweithwyr BME 

Mae arnom eisiau cefnogi gweithwyr BME i roi tystiolaeth o’u profiad yn y gwaith, yn enwedig gan fod eich lleisiau wedi bod ar goll i raddau helaeth o’r drafodaeth bresennol. Mae arnom eisiau i weithwyr BME rannu eu profiadau o weithleoedd yng Nghymru ac awgrymu beth sydd angen newid.

Gwnewch yn siŵr bod eich pryderon yn cael eu clywed. Llenwch ein harolwg.
 

Llenwi’r arolwg

Mae pawb yn meddwl tybed sut ydyn ni’n mynd i ymdopi dros y misoedd nesaf, yn poeni am ei swydd neu am yr her o weithio gartref a bod â’r teulu 24/7. Ond mae yna ffyrdd ichi ddiogelu eich iechyd meddwl a hyd yn oed wella eich iechyd meddwl.

Edrychwch ar ein sesiynau dysgu byr 'Coping with Covid' sy'n rhoi offer a thechnegau i chi i'ch helpu i ofalu amdanoch chi eich hun ac ymdopi â heriau'r pandemig. 

Darllenwch ein blog am awgrymiadau ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl ystod argyfwng y coronafeirws

Gwyliwch ein gweminar (yn Saesneg) ddod i'r afael ag unigedd.

Cyngor ar y coronafeirws – help yn y gwaith

Cysylltwch â’ch cynrychiolydd neu’ch swyddog undeb am gyngor ynglŷn â sut gallai’r coronafeirws effeithio arnoch chi yn y gwaith. 

Ddim yn aelod o undeb? Defnyddiwch ein hofferyn ar ymuno ag undeb i ddod o hyd i’r un iawn ichi. 

Os ydych chi’n bryderus ynglŷn â’r hyn mae eich cyflogwr yn ei wneud llenwch ein ffurflen ar-lein. Caiff y ffurflen hon ei defnyddio i gasglu gwybodaeth am effaith y coronafeirws yn ein gweithleoedd, yn enwedig o safbwynt diogelu swyddi, hawliau a chyflogau. Dywedwch wrthym am eich pryderon iechyd a diogelwch ar y ffurflen hon.

Mae’r TUC wedi cynhyrchu arweiniad helaeth i gynrychiolwyr undebau llafur. Ei nod yw rhoi ichi ddealltwriaeth o’r problemau mewn gweithleoedd yng nghyd-destun y pandemig COVID-19. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar sut i drafod yn effeithiol â chyflogwyr y camau y gellir eu cymryd i warchod iechyd a diogelwch orau yn y gweithle.

Darllenwch gyngor y TUC ar y coronafeirws i gynrychiolwyr

Darllenwch ein blog ar 10 peth y gallwch ei wneud i drefnu ar y coronafeirws yn y gwaith

Gwliwch ein gweminarau (yn Saesneg): coronafeirws yn y gwaith - C&A  a sut i drefnu yn ystod y coronafeirws.

Rydym hefyd wedi llunio canllaw rhyngweithiol i gynrychiolwyr ar drefnu drwy'r argyfwng coronafeirws (yn Saesneg).

Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn parhau i gynnig cymorth ac ystod eang o gyfleoedd dysgu i weithwyr yn ystod y cyfnod hwn. Gweler mwy o fanylion ar ein tudalen we WULF. Gallwch hefyd gwylio ein gweminar ar brentisiaid a Cofid-19.

Cyngor ar y coronafeirws – gweithio gartref

Mae Covid-19 yn golygu bod gofyn i lawer o weithwyr weithio gartref felly dyma ein hawgrymiadau da ar gyfer pobl sy’n gweithio o gartref. 

Darllenwch ein blogiau ar beth i feddwl am wrth weithio gartref, sut i ofalu am eich iechyd a diogelwch wrth weithio gartref, a sut i ddysgu rhywbeth gartref yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Rhannwch eich awgrymiadau chi â ni ar Twitter

Gwyliwch ein gweminar ar iechyd a diogelwch wrth weithio gartref

Gall gweithio o gartref olygu bod gweithwyr yn agored i wahanol beryglon iechyd a diogelwch, ac mae rhai cyflogwyr yn anwybyddu eu cyfrifoldeb i gynnal asesiad risg. Gall cynrychiolwyr y gweithle helpu i newid hyn. I gael gwybod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud os ydych yn gynrychiolydd yn y gweithle, edrychwch ar ein canllaw rhyngweithiol ar asesiadau risg ar gyfer gweithwyr cartref.

Tâl salwch 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansion nifer o gynlluniau i gefnogi gweithwyr: 

Ar £94.24 yr wythnos, rydym yn credu nid yw’r tâl salwch yn ddigon o bell. Dylai llywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno deddfwriaeth frys sydd:

Llofnodwch ein deiseb #SickPayForAll

Cyngor ar y coronafeirws – beth yw fy hawliau i gael amser i ffwrdd gan fod ysgolion ar gau?

Os oes gennych blant, mae’n bosibl y bydd angen ichi gymryd amser i ffwrdd gan fod meithrinfeydd ac ysgolion ar gau.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau bod rhieni plant sy’n methu â gweithio oherwydd bod ganddynt angen gofalu am blant yn gymwys i gael eu rhoi ar ‘ffyrlo’ fel rhan o’r Cynllun Cadw Swyddi. Mae’r cynllun hwn yn golygu y bydd y llywodraeth yn talu 80 y cant o’ch cyflog tra byddwch yn methu â gweithio. Ond mater i gyflogwyr unigol yw cytuno i’r gweithiwr fynd ar absenoldeb ffyrlo. Siaradwch â’r cynrychiolydd undeb i gael help neu gyngor.

Efallai y bydd gennych hawl i gymryd 18 wythnos o absenoldeb rhiant digyflog, os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am 12 mis neu ragor. Mewn rhai gweithleoedd, mae undebau wedi trafod yn llwyddiannus i absenoldeb rhiant gael ei dalu. Dylai eich contract gadarnhau pa drefniadau sy’n berthnasol yn eich gweithle chi, ond gallwch hefyd gysylltu â’ch rheolwr neu’ch cynrychiolydd undeb os ydych chi’n ansicr.

Fodd bynnag, mae rhai gweithwyr nad oes ganddynt yr hawliau hyn, ac maent yn wynebu misoedd heb gyflog. Ni ddylai neb wynebu colli ei incwm na’i swydd am wneud y peth iawn.

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno gwarant absenoldeb rhiant â thâl i un prif ofalwr. Dylent ad-dalu cyflogwyr, fel y gwnânt ar hyn o bryd ar gyfer absenoldeb mamolaeth.

Darllenwch ein blog i ddysgu mwy am hawliau i gael amser ffwrdd i rieni a llofnodwch ein deiseb a chefnogi rhieni sy'n gweithio.

Cyngor ar y coronafeirws – beth yw’r rheolau os collwch eich gwaith dros dro?

Mae’r coronafeirws wedi rhoi economi’r Deyrnas Unedig dan straen aruthrol, gyda busnesau ar draws y wlad yn cau er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

Ar ôl trafod â’r undebau llafur, mae’r llywodraeth wedi buddsoddi biliynau o bunnau mewn cynllun ffyrlo a fydd yn golygu bod y trethdalwr yn rhoi i fusnesau 80 y cant o gyflogau’r gweithwyr hynny sydd wedi colli eu gwaith dros dro. Bydd y cynllun presennol yn parhau tan Wanwyn 2021.

Er ein bod yn croesawu mesurau i ddiogelu swyddi, mae’n bwysig bod cyflogwyr yn dilyn y rheolau wrth roi staff ar ffyrlo. Ac os ydych chi’n un o’r gweithwyr sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, sicrhewch eich bod yn gwybod eich hawliau. 

Darllenwch flog y TUC i ddysgu mwy am eich hawliau fel gweithiwr 'ar ffyrlo'

Gwyliwch ein gweminarau ar y Cynllun Cadw Swyddi ac ar y cymhorthdal ​​cyflog.

Colli swyddi – cyngor a chymorth

Drwy’r cynlluniau i gyflogwyr megis y Cynllun Cadw Swyddi a’r cynllun ffyrlo gellir arbed y rhan fwyaf o swyddi yn y tymor byr ar draws Cymru.

Ond mae pobl yn dal i golli eu swyddi. A gellid bod gwaeth i ddod wrth i’r argyfwng ddatblygu ac effeithio ar ein heconomi.

Darllenwch ein tudalen gyngor ar gymorth colli swydd yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Gwyliwch ein gweminar ar gefnogi aelodau sydd dan fygythiad o golli eu swyddi:

Hyfforddiant a dysgu yn ystod Covid

Mae prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn parhau yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae mwy o fanylion ar ein tudalen WULF

Mae amrywiaeth o gynlluniau ariannu ar gael hefyd i helpu gweithwyr i ddychwelyd i ddysgu, neu ddilyn cyfle hyfforddi newydd. Mae angen i gynrychiolwyr a swyddogion undebau wybod am y cyfleoedd hyn a siarad â'u cydweithwyr a'u cyflogwyr am sut y gellir eu defnyddio yn ystod Covid. Darllenwch am y cyllid sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant sgiliau yng Nghymru.

Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn fater sy'n tyfu yn ystod y pandemig. Gwyliwch Swyddog Cenedlaethol TUC Cymru Deri Bevan yn siarad am faint y broblem a sut y gall cynrychiolwyr undebau llafur gefnogi gweithwyr ifanc yn eu gweithle.

Gweithwyr anabl a Covid - addasiadau rhesymol wrth weithio gartref

Mae Covid-19 yn golygu bod angen i fwy o bobl nag erioed o'r blaen i weithio gartref.

Ond os ydych yn weithiwr anabl ac os oes gennych addasiadau rhesymol yn y gwaith, gall y newid hwn eich atal rhag gwneud eich gwaith yn iawn.

Mae gan gyflogwyr ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol i'r gweithle ar gyfer pobl anabl. Mae hyn i atal gweithiwr anabl rhag cael ei roi o dan anfantais o gymharu â gweithiwr nad yw'n anabl. Gall hyn fod o ganlyniad i'r ffordd y trefnir y gweithle, nodweddion ffisegol yr amgylchedd gwaith neu absenoldeb cymorth neu wasanaeth ychwanegol.

Darllenwch ein blog i gael gwybod mwy am eich hawliau i addasiadau rhesymol fel gweithiwr anabl wrth weithio o gartref.

Gweithwyr beichiog a Covid – beth yw eich hawliau?

Mae arweiniad llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi menywod beichiog yn y grŵp ‘pobl agored i niwed’ a ddylai ddilyn ‘mesurau cadw pellter cymdeithasol’.

Mae hyn yn cael effaith aruthrol ar fenywod beichiog sy’n methu â gwneud eu gwaith gartref, y mae eu cyflogwyr yn methu â rhoi mesurau gweithio diogel rhesymol ar waith a/neu y mae eu siwrnai i’r gwaith yn eu hatal rhag gallu cadw pellter cymdeithasol priodol.

Ceir fframwaith cyfreithiol y mae’n rhaid i bob cyflogwr weithredu ynddo o safbwynt gweithwyr beichiog a mamau sy’n bwydo ar y fron. Mae rheidrwydd cyfreithiol ar gyflogwyr i asesu’r risgiau yn y gweithle i fenywod beichiog a’u plant yn y groth, a hefyd famau sy’n bwydo ar y fron sydd wedi dychwelyd i’r gwaith.

Rhaid iddynt adolygu’r risgiau hyn yn barhaus wrth i amgylchiadau newid ac wrth i’r beichiogrwydd fynd rhagddo, os yw hynny’n berthnasol. Dylent ddilyn y pedwar cam hwn os caiff risg, fel dod i gysylltiad â COVID-19, ei chanfod:

1. Rhaid iddynt geisio dileu neu atal eich cysylltiad â risgiau.

2. Os nad yw hynny’n bosibl, dylent addasu eich amodau gweithio dros dro, er mwyn ichi allu gweithio gartref.

3. Os nad yw hynny’n bosibl, dylech gael cynnig cyflogaeth amgen addas ar yr un cyflog, os oes gwaith ar gael. 

4. Os nad yw hynny’n bosibl, rhaid iddynt eich atal dros dro o’r gwaith ar gyflog llawn am gyhyd ag y bo angen i warchod eich iechyd a’ch diogelwch chi a’ch baban. Dylai eich cyflog llawn fod yn seiliedig ar eich enillion arferol, ac nid yn seiliedig ar yr oriau yn eich contract.

Os ceir risg iechyd a diogelwch sy’n eich atal rhag cyflawni eich rôl arferol ac ni ellir eich adleoli, dylech gael eich atal dros dro ar 100% o’ch cyflog llawn. 

Fodd bynnag, os cewch eich rhoi ar ffyrlo gan nad oes risg iechyd a diogelwch benodol, ond fod diffyg galw, er enghraifft, yn effeithio ar eich cyflogwr, neu oherwydd ei fod yn cyflawni gwaith nad yw’n waith hanfodol, dylech gael eich rhoi ar ffyrlo ar yr un telerau â’r gweithwyr eraill nad ydynt yn feichiog.

Darllenwch ein blog am ragor o wybodaeth am eich hawliau a chael eich amddiffyn rhag camwahaniaethu fel gweithiwr beichiog.

Cam-drin domestig – helpu aelodau yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae’r cyfyngiadau symud ym mhob cwr o’r byd wedi arwain at gynnydd mewn cam-drin domestig.

Mae’r mesurau i atal y feirws rhag lledaenu yn golygu bod llawer o bobl yn awr wedi’u hynysu gartref gyda’r drwgweithredwr. Mae asiantaethau cymorth wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sy’n troi atynt am gymorth.

Darllenwch ein tudalen wybodaeth i ddysgu mwy am sut gallwch chi helpu aelodau a chydweithwyr sy'n dioddef cam-drin domestig

Gall y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn roi help i unrhyw un sy’n dioddef o gam-drin domestig neu drais rhywiol. Gallant hefyd roi cyngor i rywun sy’n pryderu am gydweithiwr, ffrind neu aelod o’r teulu. Mae’r llinell gymorth hon ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 10 800. Gallwch hefyd gael cyngor a chymorth drwy:

Cyngor ar y coronafeirws – ffynonellau gwybodaeth eraill

Mae gan Shelter Cymru gyngor i bobl sy'n pryderu sut gallai Covid-19 effeithio ar eu tai

Mae blog ymchwil y Senedd wedi llunio rhestr ddefnyddiol lle cewch wybodaeth am bethau fel tai, budd-daliadau, iechyd ac addysg. 

Mae’r Gwasanaeth Cymorth Cynghori ar Gydraddoldeb yn cynnig cyngor a help i unigolion ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’n dal i gynnig cyngor drwy ei linell gymorth rhad ac am ddim ar 0808 800 0082, Gwasanaeth cynghori BSL a gwe-sgwrs a ffôn testun. Gallwch hefyd lenwi’r ffurflen gyswllt ar www.equalityadvisoryservice.com

Mae Anabledd Cymru wedi llunio 'rhestr o atebion i'ch cwestiynau' mewn ymateb i gwestiynau cyffredin gan bobl anabl am Covid-19 a rhestr o gysylltiadau lleol defnyddiol  yng Nghymru.

Mae gan GamCare gymorth ar gael dros y ffôn ac ar-lein i unrhyw un sy’n pryderu am ei arferion gamblo ei hun neu rywun arall.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gwybodaeth ar aros yn iach gartref.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi llunio tudalennau cynghori ar coronafeirws a'ch arian a coronafeirws - beth mae'n ei olygu a beth mae gennych hawl iddo.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi llunio rhestr o ddolenni sy'n ymwneud â Covid-19 ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn cydweithfeydd a mentrau cymdeithasol.

Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi llunio rhestr o adnoddau dysgu defnyddiol ac offer digidol ar y testunau canlynol:

Mae gan yr elusen iechyd meddwl Mind Cymru wybodaeth am y coronafeirws - helpu eich hun a'ch tîm a’r coronafeirws a'ch llesiant.