Byw i ddysgu, dysgu byw

Dyddiad cyhoeddi
Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i mor anhapus. Yn y dyddiau hynny os nad oeddet ti'n ffitio'r patrwm “normal” yna roeddet ti'n alltud. Roedd athrawon yn anobeithio am fy agwedd tuag at eu dulliau. Fi oedd cocyn hitio’r jôcs neu ddioddefwr y bwlis.

Pan adewais yr ysgol, ac am rai blynyddoedd sylweddol wedi hynny, gallaf ddweud yn onest fy mod yn wrth-addysg. Paid â'm camddeall, roedd y dysgu'n iawn. Ond roeddwn yn casáu cael fy addysgu, yn enwedig mewn lleoliad ffurfiol neu ystafell ddosbarth.

Es ymlaen i'r coleg yn bennaf o ddyletswydd. Wnes i ddim astudio mecaneg fel roeddwn i bob amser yn meddwl y byddwn i, yn bennaf oherwydd nad oedd gen i'r graddau cywir. Yn lle hynny es i gyfeiriad trin gwallt. Tro pedol llwyr dwi'n gwybod, ond roedd yn ymddangos fel ffit dda ar y pryd.

Roeddwn i'n ei gasáu. Roeddwn i wir yn ei gasáu.

Dilynodd y problemau a gefais gyda'r ysgol fi i'r coleg. Roeddwn i'n teimlo'n gaeth yn yr ystafell ddosbarth. Ni allwn ddod ymlaen gyda fy nhiwtor pan nad oeddwn yn gwneud gwersi ymarferol. Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi cael fy atal, fy nal yn ôl a methu â mynd ar y cyflymder roeddwn i'n gwybod y gallwn i weithio arno. Felly, gadewais, ymneilltuo a dod o hyd i ffordd arall.

Dechreuais weithio mewn salon fach, leol. Roeddwn yn hapusach o fod yn ennill cyflog a gorffennais fy nghymhwyster o fewn blwyddyn. Ond roedd y salon yn colli busnes. Dywedwyd wrthyf un dydd Sadwrn wrth gasglu fy nghyflog fy mod i, gan mai fi oedd yr olaf i mewn, i gael fy niswyddo. Daeth fy swydd i ben y diwrnod hwnnw ac nid oedd gen i unrhyw syniad beth i'w wneud nesaf.

Dysgu yn y swydd

Treuliais beth amser yn gwneud gwaith swyddfa ac yna gwaith dros dro asiantaeth mewn amryw o swyddfeydd. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i mi gyfrifo pethau drosof fy hun - pan fyddi di'n llenwi yn lle rhywun, nid oes llawer o hyfforddiant bob amser, felly rwyt ti'n dysgu'n gyflym neu'n methu.

Roeddwn i'n gwybod y dylwn gael rhai cymwysterau i ategu fy ngwybodaeth felly gwnes i'r cymhwyster Trwydded Yrru Cyfrifiaduron Ewropeaidd (ECDL). Pan basiais yn hawdd fe barodd imi feddwl efallai nad oeddwn i mor ddi-glem ag a oedd profiadau fy nyddiau ysgol wedi gwneud i mi gredu.

Wrth wneud swydd weinyddol cyflenwi mamolaeth yn undeb Usdaw, siaradodd fy rheolwr â mi am gyfleoedd dysgu. Mewn gwirionedd nid oeddwn yn aelod o undeb ar y pryd ond dywedwyd wrthyf y gallwn gael gafael ar gyllid trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) a byddent yn helpu i ddod o hyd i gwrs waeth beth oedd fy statws aelodaeth.

Er bod gen i ddiddordeb erioed mewn dysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL), roedd y syniad o fod yn yr ysgol eto yn fy nychryn. Felly, fe wnes i ei ohirio.

Pan ddechreuais weithio i TUC Cymru roedd fy rheolwr mor gefnogol i'm diddordeb mewn dysgu BSL. Cefais fy llorio, fy syfrdanu a dychryn yn llwyr pan ddywedodd wrthyf y byddai'r TUC yn ariannu fy nghwrs. Felly, gyda’m stumog yn corddi es i i'r apwyntiad cofrestru.

Wynebu fy ofnau yn yr ystafell ddosbarth a'r neuadd arholiadau

Siaradais â'r tiwtor, Sarah, gyda chymorth ei chyfieithydd ar y pryd ac egluro fy ofnau.

Roedd Sarah yn anhygoel. Fe wnaeth i mi deimlo’n gyfforddus, gwneud jôcs, annog camgymeriadau er mwyn dysgu oddi wrthynt ac yn anad dim fe roddodd sylw cyfartal i bob disgybl waeth beth fo'u cyflymder, eu gallu neu eu dealltwriaeth. Roeddwn i'n hapus. Fe wnes i fwynhau fy nghwrs yn fwy nag yr oeddwn i erioed wedi meddwl y byddwn i'n ei wneud. Hyd nes y dywedwyd wrthym byddai gennym arholiad 3 rhan. Yna dychwelodd yr ofn.

Rwyt ti'n gweld, roeddwn i'n casáu arholiadau bron yn fwy na'r ysgol ei hun. Byddwn yn chwysu. Byddwn yn crynu, a byddwn i eisiau dianc. Rwy'n credu bod Sarah wedi gweld bod nifer ohonom ni'n teimlo felly. Felly fe wnaeth hi ein paratoi ni, ymarfer gyda ni a gwneud i ni chwerthin. Cafodd wared a’m straen.

Ar ddiwrnod y papur amlddewis roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n sâl. Llusgais fy nhraed ac ymlusgo i'r dosbarth. Yn rhyfedd iawn, edrychais o amgylch yr ystafell ac am y tro cyntaf gwelais 15 wyneb arall i gyd yn edrych fel roeddwn i'n teimlo. Doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun, roedden ni i gyd yn arswydo am hyn. Felly, gan gymryd anadl ddofn sefais yr arholiad.

My certificate in BSL

Ar gyfer yr arholiad ymarferol roeddwn wedi paratoi cyflwyniad 3 munud yn gyfan gwbl mewn arwydd, yn seiliedig ar wyliau yr oeddwn wedi'u cymryd. Aeth cystal fel na allwn gredu; atebais ychydig o gwestiynau eto mewn arwydd yn hapus, gan anghofio yn sydyn fy mod yn cael fy ffilmio ar gyfer yr aseswyr yr holl amser.

3 mis yn ddiweddarach cefais fy nhystysgrif BSL lefel 1 ac roeddwn mor hapus fy mod yn crio. Mi gefais i hefyd ymdeimlad o falchder nad wyf yn credu fy mod erioed wedi’i deimlo o'r blaen.

Y cam nesaf: dysgu Cymraeg

Ers dysgu BSL rwyf wedi synnu fy hun ymhellach trwy ddechrau dysgu Cymraeg.

Nid oeddwn erioed wedi cael gafael ar ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Roedd yn un o’r pethau roeddwn i bob amser yn difaru oherwydd, er i mi gael fy ngeni dros y bont, mae fy nhad yn Gymro, rydw i wedi byw yma ers pan oeddwn i’n 4 oed ac wedi sefydlu fy hunaniaeth Gymreig fy hun. Pan gefais gyfle i fynd i ysgol haf ym Mhrifysgol Caerdydd neidiais ar y cyfle.

Ond fi, yn y Brifysgol?

Roedd yn ystafell ddosbarth ddwys. Doeddwn i ddim yn gyffyrddus. Fodd bynnag, roeddwn wedi gwneud y dewis felly penderfynais ei ddal ati i’r diwedd. Fe wnes i 6 wythnos lawn ac, ar ôl cyfuno’r wybodaeth honno gyda’r ap Say Something in Welsh, darganfyddais yn sydyn fy mod yn siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio’n aml, mewn symiau bach o leiaf.

Dod yn Gynrychiolydd Dysgu'r Undeb

Ychydig fisoedd yn ôl gwahoddodd ein cynrychiolydd undeb bobl i sefyll am swydd Cynrychiolydd Dysgu Undeb (ULR). Gwnaeth hyn i mi sylweddoli bod gen i chwilen neu ddyhead nad oeddwn i erioed wedi'i chael o'r blaen - i ddysgu, i hyrwyddo dysgu. Datblygu fy sgiliau fy hun ond yn bwysicach na hynny, i helpu fy nghydweithwyr i wneud yr un peth drostyn nhw eu hunain. Fe wnes i gais, ennill pleidlais a dod yn ULR newydd ar gyfer TUC Cymru.

Tra roedd y bleidlais yn cael ei chynnal, gwnaethom gynnal ein cynhadledd flynyddol ULRs Cymru. Dechreuais fynd yn ddagreuol pan wnaeth un dysgwr o’r enw Mark Church siarad am sut roedd dysgu trwy ei undeb wedi effeithio ar bob agwedd ar ei fywyd mewn ffordd gadarnhaol. Sylweddolais hefyd wir werth Cynrychiolwyr Dysgu'r Undeb. Eu nod yw helpu pobl i ddod o hyd i gyfleoedd i ddysgu, hyrwyddo buddion dysgu i weithwyr a chyflogwyr, a chreu gweithle hapusach.
A’r hyn sy’n wych am ULR yw y gallant helpu pawb y maent yn gweithio gyda nhw, nid aelodau undeb yn unig.

Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu

Felly dyma fi, y casäwr ysgol gwrth-addysg a drodd yn hyrwyddwr dysgu. Rwy'n hyfforddi i fod yr ULR gorau y gallaf fod. Cafodd yr arholiad Cymraeg yr oeddwn am ei wneud ei ganslo oherwydd Covid-19 ond byddaf yn ei sefyll cyn gynted ag y gallant eu cynnal.

Pwy fyddai wedi meddwl y byddwn i'n sefyll unrhyw fath o arholiad o ddewis dim ond i gael darn o bapur sy'n dweud y gallaf wneud yr hyn rwy'n gwybod y gallaf ei wneud?

Rwy'n gweld nawr nad yw'n rhy hwyr i newid fy set sgiliau fy hun neu ddatblygu fy rhestr cymwysterau fy hun. Ac nid yw'n rhy hwyr i ti chwaith.

Tyrd o hyd i gwrs (edrycha ar y cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim hyn), tyrd o hyd i ULR, gofynna am rywbeth. Tyrd o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i ti p'un a yw hynny'n ddysgu Cymraeg (yr wyf yn ei argymell yn fawr), adnabod adar, uwchraddio dy TGAU neu addurno cacennau. Dim ond edrych, meddwl a dewis rhywbeth.

Dysga!

Tyfa!

A'i basio ymlaen.

Dw i’n dysgu a dw i’n hapus iawn!