Dyddiad cyhoeddi
Mae’n sefyllfa sy’n wynebu llawer o weithwyr heddiw – mae eich swydd yn dod i ben ac mae gofyn i chi wneud swydd wahanol.

Ond, beth ydych chi’n ei wneud pan mae’r swydd newydd yn gofyn am sgiliau cwbl wahanol – sgiliau nad ydych chi’n siŵr sydd gennych chi?

Pan gafodd Mark Church ei symud o’i swydd cynnal a chadw i swydd newydd, fwy technegol o fewn Dŵr Cymru, roedd yn poeni nad oedd ganddo’r sgiliau cywir.

Bellach, diolch i gyrsiau a ariannwyd gan Gronfa Dysgu Undebau Cymru (WULF), nid yn unig mae Mark wedi ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ei swydd newydd ond mae hefyd wedi datblygu cariad at addysg ac wedi concro’r problemau gyda darllen ac ysgrifennu sydd wedi bod gydag o drwy gydol ei oes. 
 

Mae’n disgrifio’r gwahaniaeth y mae’r hyfforddiant Sgiliau Hanfodol wedi’i wneud “fel cael fy rhyddhau o gell.”
 

Darllenwch sut Mae TUC Cymru yn dathlu 20 mlwyddyn o gyrsiau WULF

Anawsterau ers dyddiau ysgol 

Fel llawer ohonon ni, cafodd Mark brofiad gwael o addysg yn yr ysgol. “Doeddwn i ddim yn mwynhau” esbonia. “Roeddwn i’n ei chael yn anodd clywed yr athro ac roedd yn anodd canolbwyntio pan roedd sŵn yn y cefndir a phethau’n tynnu fy sylw yn y dosbarth.” 


Roedd Mark hefyd yn teimlo’n hunanymwybodol ynglŷn â gofyn cwestiynau gan ei fod yn teimlo nad oedd yn dysgu mor gyflyn gyflym â phawb arall. 

Erbyn iddo adael yr ysgol roedd Mark yn dal i gael trafferth gyda darllen ac ysgrifennu. Mae’n dweud, “Doeddwn i ddim yn gallu codi a darllen llyfr neu bapur newydd fel pobl eraill. Byddwn i wastad yn methu geiriau, ac yn gorfod ei ail ddarllen sawl gwaith er mwyn ceisio ei ddeall”. Er bod hon yn broblem oedd yn ei boeni’n aml, doedd Mark ddim yn meddwl bod llawer y gallai wneud am y peth. 

Gyda pheth rhyddhad gadawodd Mark yr ysgol a dechreuodd weithio gyda Dŵr Cymru yn 18 oed. Am flynyddoedd lawer bu’n mwynhau gweithio yn adran gwasanaethau cynnal a chadw’r cwmni. 
 

Mark Church has seen huge benefits from his WULF-funded courses
Mark Church has seen huge benefits from his WULF-funded courses

Her swydd newydd 

Wedi blynyddoedd gyda Dŵr Cymru cafodd Mark wybod fod bod ei swydd cynnal a chadw yn dod i ben oherwydd gwaith moderneiddio a’i fod yn mynd i gael swydd newydd fel Arolygydd Rhwydwaith. Roedd y swydd newydd yn golygu llawer mwy o waith ysgrifenedig ac roedd gofyn iddo ddefnyddio cyfrifiadur. “Mi wnes i ddychryn”, meddai Mark, “a sylweddoli na fuaswn i’n gallu gwneud y swydd gyda’r lefel o sgiliau roedd gen i.” 


Roedd Mark eisiau gwneud y gwaith orau y gallai ond nid oedd eisiau codi’r mater gyda’i reolwr. Felly, siaradodd â’i gynrychiolydd dysgu drwy undeb o GMB, Garry James. 


Undeb Mark yn ei helpu 


Trefnodd Garry fod Mark yn cael asesiad diagnostig o’i sgiliau hanfodol (sgiliau darllen, ysgrifennu, cyfathrebu, TG a rhifedd). Trefnodd Garry a Mike Wilson y prif gynrychiolydd dysgu drwy undeb yn Dŵr Cymru fod Mark yn cael hyfforddiant ond roedd Mark yn nerfus. Mae’n dweud, “Roeddwn i’n teimlo fel ffŵl os oedd rhaid i mi ofyn cwestiwn ac roeddwn i’n poeni y byddai pobl eraill yn chwerthin. Roedd gen i lawer o waith ar y pryd hefyd ac felly roedd hi’n anodd mynd i’r holl sesiynau a dal i fyny.” 


Siaradodd Mark â Mike am ei bryderon a llwyddodd Mike i wneud newidiadau gan gynnwys sesiynau un i un mewn ystafell dawel ac amseroedd cychwyn hyblyg. Roedd hyn yn gweithio’n dda i Mark ac mae’n dweud, “roedd yn llawer haws canolbwyntio yn y sesiynau un i un ac roeddwn i’n gallu mynd dros y gwaith fwy nag unwaith nes fy mod yn deall, heb deimlo’n dwp neu boeni fy mod yn dal pobl eraill yn y dosbarth yn ôl.” 
 

Buddion anferth o’r hyfforddiant 


Mae hyfforddiant Mark wedi cael effaith anferth ar ei fywyd a’i allu i gwblhau tasgau hanfodol yn ei waith. 


Mae’n dweud, “Rydw i’n teimlo fel person newydd – mae’n un o’r pethau gorau rydw i erioed wedi’i wneud. Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth nawr fy mod i’n gallu darllen a deall ysgrifen yn glir. Rydw i’n gallu llenwi’r ffurflenni sydd angen i mi eu cwblhau yn fy ngwaith heb feddwl ddwywaith. Cyn yr hyfforddiant byddwn i wedi cael trafferth.” 


Ynghyd â bod yn hwb anferth i’w hyder yn y gwaith, mae Mark yn dweud bod y cwrs wedi cael effaith gadarnhaol gartref hefyd. “Mae wedi rhoi hyder i’r teulu i gyd gael addysg well,” meddai. “Mae fy ngwraig yn mynd i’r coleg ac rydw i wedi gallu ei helpu gyda’i chwrs. Rydw i hefyd yn gallu helpu fy merch gyda’i gwaith cartref a rhoi cyngor ar syniadau ysgrifennu. Yn ddiweddar mae ei graddau wedi gwella yn yr ysgol.”


O ystyried, mae Mark yn disgrifio canlyniadau ei hyfforddiant Sgiliau Hanfodol “fel cael fy rhyddhau o gell”


Cyngor i ddysgwyr eraill - dydy hi byth yn rhu rhy hwyr


Nid yn unig mae’n awyddus i ddysgu mwy ei hun ac i help ei deulu, ond mae Mark bellach yn Gynrychiolydd Dysgu Drwy Undeb GMB fel ei fod yn gallu helpu ei gydweithwyr i ddod o hyd i gyfleoedd dysgu. 


Mae’n esbonio, “Doedd gen i ddim yr hyder i wneud gwaith fel hyn yn y gorffennol ond bellach rydw i’n teimlo fy mod yn gwybod y galla i ei wneud, a wna i ddim rhoi’r gorau iddi. Mae fy mhrofiad i’n brawf nad yw hi bydd yn rhu rhy hwyr i ddysgu sgiliau newydd. Rydw i bellach yn hapus i fynd ar gyrsiau newydd hyd yn oed os nad ydw i’n adnabod neb. Diolch i’r cyrsiau rydw i wedi cyfarfod llawer o bobl newydd ac wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae gen i gymaint mwy o hyder ac mae’r cymwysterau rydw i wedi’u hennill wedi creu cyfleoedd newydd i mi. 
 

Siariwch i'ch Cynrychiolydd Dysgu Undeb i ddarganfod cyfleoedd ddysgu yn eich gweithle. 

Darllenwch mwy am sut rydym yn dathlu 20 mlynedd o WULF

Beth yw eich stori WULF chi?

Rydym eisiau clywed eich stori chi! Os ydych wedi cymryd rhan mewn prosiect WULF neu wedi dysgu drwy’r undeb llafur yn y gorffennol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar-lein: