Ble fydden ni heb fenywod Undebau Llafur?

Dyddiad cyhoeddi
Mae ein mudiad yn seiliedig ar ein holl weithredoedd ar y cyd. Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, hoffwn ddiolch a chanmol y menywod yn ein mudiad sydd wedi brwydro dros ein hawl i fod yma ac sy’n parhau i ymgyrchu, bargeinio ac ymladd dros genedlaethau’r dyfodol.

Wrth i’r don ddiweddaraf o streiciau ddigwydd ledled y DU, mae’r cyhoedd wedi arfer gweld naratif penodol am Undebau Llafur. Maen nhw’n gwybod ein bod ni’n amddiffyn gweithwyr ac yn gwneud safiad dros gyflog teg, amodau gwaith tecach ac i weithwyr gael llais yn y ffordd maen nhw’n cael eu trin.

Yr hyn nad yw’r cyhoedd yn ei weld yn aml yw’r gwaith sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r llenni, fel yr oriau o drafodaethau nad ydynt byth yn cael eu darlledu ar y teledu. Mae gymaint o lwyddiannau ein mudiad wedi cael eu hanghofio, yn syml, am eu bod wedi cael eu trefnu gan fenywod.

Felly, gadewch i ni dreulio rhywfaint o amser ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn cydnabod gwaith menywod gwerthfawr ein mudiad. Yn aml, nid yw menywod y mae eu cyfraniadau a’u penderfyniad i sefyll dros weithwyr yng Nghymru a’r byd wedi cael eu cydnabod.

“Addysgu, ymgyrchu a threfnu”

Elizabeth Andrews
Elizabeth Andrews (Credit: Hidden Heroines)

Mae arwyddair Elizabeth Andrews o “addysgu, ymgyrchu a threfnu” yn dal i ysbrydoli llawer.  Roedd yn Undebwr Llafur o Hirwaun, yn Rhyng-genedlaetholwraig, yn Etholfreintiwr ac yn un o arloeswyr y mudiad Llafur.

Sefydlodd Elizabeth ‘prifysgolion menywod sy’n gweithio’ a rhoddodd gyfle i fenywod gael addysg ar ôl gadael yr ysgol. Roedd hi’n allweddol yn y gwaith o wella iechyd gweithwyr pyllau glo drwy arwain y galwadau am faddonau pen pyllau. Bu hefyd yn arwain y ffordd o ran eiriol dros bensiynau menywod.

Roedd hefyd yn gyfrifol am agor yr ysgol feithrin gyntaf yng Nghymru yn y Rhondda yn 1938.

Brwydro dros wella safonau gartref a thramor

Thora Silverthorne
Thora Silverthorne (Credit: UNISON)

Roedd Thora Silverthorne o Abertyleri yn undebwr Llafur ac yn nyrs a gyd-sefydlodd y gymdeithas nyrsys genedlaethol. Tynnodd sylw at gyflogau ac amodau gwaith gwael nyrsys Prydain.

Teithiodd Thora i Sbaen yn ystod rhyfel cartref Sbaen a bu’n ymwneud â’r gwaith o greu’r ysbyty cyntaf ym Mhrydain. Arweiniodd Thora ddirprwyaeth ac fe wnaeth hi gwrdd â Clement Attlee i drafod sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd hefyd yn swyddog llawn amser o Gymdeithas Glerigol y Gwasanaeth Sifil.

Sefyll dros weithwyr yn y cyfnodau anoddaf

Shavanah Taj, Wales TUC General Secretary

Gan symud ymlaen i gyfnodau mwy diweddar, mae ein mudiad Undebau Llafur yng Nghymru yn cael ei arwain gan Shavanah Taj.

Fel Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru yn ystod pandemig Covid-19, bu’n brwydro dros yr hawl i weithwyr gael mynediad at gyfarpar diogelu personol priodol a gweithio i chwalu’r hiliaeth strwythurol sy’n dal i ddifetha ein gweithleoedd a’n cymdeithas.

Mae gwaith Shavanah wedi arwain at gytundeb ffurfiol o ran sut mae’r Llywodraeth yn ymgysylltu ag Undebau Llafur yng Nghymru, sy’n golygu bod gan weithwyr sedd o gwmpas y bwrdd i negodi’r newidiadau sydd eu hangen arnynt.

Pa fenywod o Gymru sy’n eich ysbrydoli chi? 

Mae’r menywod gwych hyn yn ein mudiad yn fy ysbrydoli i beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to a dod o hyd i ffyrdd o negodi, bargeinio a gwneud gwahaniaeth bob amser.

Pwy sy’n eich ysbrydoli chi? Dywedwch wrthyn ni ar Twitter!

Ydych chi eisiau gwybod mwy am hanes mudiad llafur Cymru? Edrychwch ar yr arddangosfa wych hon am hanes undebau llafur ar-lein gan UNSAIN.