Read this page in English
Mae Urdd Awduron Prydain Fawr (WGGB) yn cynrychioli awduron mewn teledu, ffilm, theatr, radio, llyfrau, barddoniaeth, animeiddio a gemau fideo.
Rydym yn cynrychioli awduron proffesiynol ac mae gennym hefyd haen aelodaeth arbennig (ddisgownt) ar gyfer awduron sy'n datblygu/darpar awduron. Rydym yn lobïo ac yn ymgyrchu ar ran awduron, i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed mewn byd digidol sy'n newid yn gyflym.
Undeb ar gyfer awduron ym myd teledu ffilm, theatr, radio, llyfrau, barddoniaeth, animeiddio a gemau fideo.
- Rydym yn lobïo ac yn ymgyrchu i leisiau awduron gael eu clywed.
- Mae gennym gytundebau ar gyflogau ac amodau gyda’r BBC, Pact ac eraill.
- Rydym yn cynnig gwasanaeth fetio contractau, cyngor, hyfforddiant a chynigion disgownt.
- Mae ffioedd aelodaeth yn amrywio yn ôl incwm.
Prif Fasnachau
Adloniant a'r celfyddydau
Cyfryngau digidol
Darlledu a Ffilm
Theatr a sinema
Cyhoeddi ac argraffu
Aelodaeth
Gwrywod 862 | Benywod 788 | Arall 98 | Cyfanswm 1,748
Rhai o’r cyflogwyr a gynrychiolir
Mae gennym gytundebau cenedlaethol (sy'n cwmpasu cyflogau ac amodau) gyda chyrff mawr yn y diwydiant gan gynnwys y BBC, ITV a Pact; Theatr Genedlaethol, y Llys Brenhinol a Chwmni Brenhinol Shakespeare.
Ysgrifennydd Cyffredinol
General secretary: Ellie Peers
Cost aelodaeth
- Aelodaeth lawn: £198 am y flwyddyn gyntaf, yna bandiau tanysgrifio sy'n seiliedig ar enillion ar gyfer blynyddoedd dilynol
- Aelodaeth ymgeiswyr: £108 y flwyddyn
- Aelodaeth myfyrwyr: £30 y flwyddyn
- Aelodaeth gyswllt (e.e. ar gyfer asiantau awduron neu ar gyfer gweithwyr addysg uwch proffesiynol mewn adrannau ysgrifennu creadigol £300 y flwyddyn
- Gellir talu tanysgrifiadau drwy daliad untro neu drwy Ddebyd Uniongyrchol, ar wahân i aelodaeth myfyrwyr, sy'n daladwy mewn taliad untro yn unig
Manteision Aelodaeth
- fetio contractau am ddim, cyngor a chymorth
- efwletin wythnosol
- rhan benodol i aelodau’n unig ar wefan WGGB
- digwyddiadau i aelodau gan gynnwys ffilmiau sy’n cael eu sgrinio am ddim
- gostyngiadau unigryw
- hyfforddiant di-dâl a gyda gostyngiad
- cynllun pensiwn (aelodau llawn yn unig)
- cronfa les
- mynediad yn ein cyfeiriadur ar-lein Find A Writer (aelodau llawn yn unig)
Mae WGGB yn cynnig amrywiaeth o fuddion i'w aelodau, yn dibynnu ar lefel eu haelodaeth (llawn, ymgeiswyr, myfyriwr neu gyswllt). Mae'r rhestr ganlynol yn rhoi amlinelliad o rai o'r prif fuddion, ond mae manylion llawn am ba fuddion sydd ar gael i ba lefel o aelodaeth i'w gweld yn: writersguild.org.uk/member-benefits.