Corff proffesiynol ac undeb llafur i bodiatryddion.
- Rydym yn cynorthwyo podiatryddion yn y GIG a lleoliadau preifat.
- Rydym yn ceisio diogelu eich hawliau, trafod tâl ac amodau, a gwella iechyd a diogelwch.
- Rydym yn cynnig cymorth unigol, cyngor a chynrychiolaeth, yn ogystal â buddion eraill.
- Mae aelodaeth yn costio hyd at £458 y flwyddyn.
Prif Fasnachau
Iechyd
Iechyd - sector preifat
Iechyd - sector cyhoeddus
Aelodaeth
Gwrywod 2,622 | Benywod 7,580 | Arall 104 | Cyfanswm 10,306
Rhai o’r cyflogwyr a gynrychiolir
Ciropodyddion a phodiatryddion y GIG, Ymarfer Annibynnol ac ymarfer preifat
Ysgrifennydd Cyffredinol
Manteision Aelodaeth
Maent yn darparu cymorth a chynrychiolaeth arbenigol i aelodau:
- Yswiriant sy'n arwain y farchnad: gan gynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chamarfer meddygol ac yswiriant atebolrwydd cynnyrch. Mae crynodeb llawn o'r yswiriant sydd ar gael ar gais.
- Cymorth cyflogaeth - mynediad ar unwaith at gyngor a chymorth proffesiynol mewn cysylltiadau diwydiannol a materion proffesiynol; ynghyd â chynrychiolaeth ffurfiol mewn HCPC a gwrandawiadau lleol a disgyblu
- Cyngor ar gychwyn a rheoli practis preifat a manylion cynllun achredu ymarfer y Gymdeithas. Yn ogystal â hyn ceir cyfleoedd rhwydweithio yn lleol ac yn genedlaethol
- Cyngor a chymorth cyfreithiol - cynrychiolaeth ar lefel leol yn ogystal â chenedlaethol, ynghyd â llinell gymorth gyfreithiol
- Cymorth undebau llafur – rhwydwaith cenedlaethol o gynrychiolwyr undebau achrededig i'ch helpu gyda materion undebau llafur ar lefel leol
- Mynediad at wefan aelodau
- Canllawiau clinigol a dogfennau eraill e.e. canllawiau gwaredu gwastraff, canllawiau safonau gofynnol
- Cymorth Iechyd a Diogelwch gan gynnwys cyngor ar ddadhalogi offerynnau, rheoli heintiau ac asesu risg
- Amrywiaeth o opsiynau adnewyddu taliadau tanysgrifio gan gynnwys taliadau untro blynyddol drwy siec, cerdyn credyd (Access/Visa) neu ddebyd uniongyrchol (gyda disgownt ar gyfer taliad llawn drwy ddebyd uniongyrchol); taliadau debyd uniongyrchol chwarterol neu fisol