Canolbwyntiodd chweched Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach TUC Cymru ar ddatblygu sgiliau gwyrdd.

Mae newid yn yr hinsawdd yn golygu newid yn y gweithle. Er mwyn cyrraedd targedau sero net erbyn 2050, bydd y byd gwaith yn trawsnewid; i weithwyr, rhaid i hyn olygu cyfleoedd newydd a newid cadarnhaol. Y bobl sy’n gweithio, drwy lais yr undeb ar y cyd, sy’n gorfod sbarduno’r newid hwn. Mae negodi ar gyfer sgiliau newydd drwy gydfargeinio yn hanfodol i’r broses hon.  

Yn ystod y cyfarfod, ystyriwyd y diffiniad o sgiliau gwyrdd a materion cysylltiedig. Hefyd, fe wnaethom glywed am gynllun sgiliau sero net sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru ac astudiaeth achos ymarferol ar sgiliau gwyrdd o Abertawe.  

 

Rhoddodd Heather Davidson o Lywodraeth Cymru gyflwyniad i ni gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun sgiliau sero net sy’n cael ei ddatblygu. Dywedodd fod diffiniad o swyddi gwyrdd a sgiliau gwyrdd yn cael ei ddatblygu. Maent yn ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid. Hefyd, mae gwaith ymchwil ar sgiliau sero net, y system sgiliau a chydraddoldeb ar y gweill. Sefydlwyd gweithgor traws-bolisi mewnol. Bydd y grŵp yn adolygu’r polisïau presennol ar draws Llywodraeth Cymru i nodi pa bolisïau a rhaglenni sydd ar waith i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflawni’r cynllun. Byddent yn dechrau’r fframwaith Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a datblygu cymwysterau.  

Ar hyn o bryd, mae’r llywodraeth yn cwmpasu opsiynau i gyflwyno cynllun peilot o fis Medi 2022 i gefnogi, profi a darparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar sero net mewn amrywiaeth o sectorau. Byddant yn dechrau edrych ar opsiynau i wneud y system sgiliau’n fwy hyblyg, ymatebol ac ystwyth er mwyn sicrhau bod y cymwysterau cywir yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion cyflogwyr a’r economi.  Ar ben hynny, byddant yn edrych ar opsiynau ar gyfer adolygu fframweithiau prentisiaeth ar sero net a chynaliadwyedd.  

Rhannodd Deri Bevan o TUC Cymru wybodaeth gyda ni am y newid sgiliau. Mae llawer o heriau i Gymru. Er enghraifft, mae 66% o oedolion yn brin o sgiliau i ryw raddau ac mae gan 13.6% o oedolion sgiliau hanfodol gwael. Nid oes amheuaeth bod angen i weithwyr Cymru ddatblygu sgiliau newydd neu gael eu hailsgilio. Fodd bynnag, mae rhai heriau. Er enghraifft, ceir dryswch ynghylch diffiniadau, dealltwriaeth wael o’r effaith ar swyddi, a diffyg ymgynghori ar gynllunio’r gweithlu. Rydyn ni angen system sgiliau sy’n adlewyrchu blaenoriaethau undebau’n well, fel gwella cyfranogiad, chwalu rhwystrau i ddysgu a mynediad a darparu hyblygrwydd i ddarpariaeth.  

Dywedodd Deri y gall gweithwyr gael gafael ar gyllid a chymorth gan wahanol bartïon, fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF), neu gyllid Llywodraeth Cymru (sef prentisiaethau, cyfrifon dysgu personol, y gronfa sgiliau hyblyg, Cymru’n Gweithio, ReAct) i ddatblygu eu sgiliau.  

Yna, cyflwynodd Deri y cysyniad o gytundebau trawsnewid. Eglurodd fod tair elfen allweddol i gytundebau trawsnewid yn ei farn ef: ffurfioli ymgynghori, gwarantau ar gyfer diswyddo a swyddi, a rhannu gwybodaeth a chynllunio’r gweithlu. Soniodd fod angen i ni gael trafodaeth ar frys a chanfod anghenion sgiliau drwy archwiliadau sgiliau. Hefyd, gall cynrychiolwyr undebau helpu drwy siarad ag aelodau i ganfod rhwystrau a thrwy roi cymorth i weithwyr drwy gyllid a chyfeirio. Byddai sicrhau cytundebau trawsnewid rhwng canghennau a’r gweithle yn gam nesaf ardderchog.  

 

Ac yn olaf, rhoddodd Richard Jackson o Unite Wales enghraifft ymarferol inni o undebau’n datblygu sgiliau gwyrdd. Siaradodd â ni am enghraifft o hyfforddiant cynnal a chadw cerbydau trydan cyngor Abertawe a wnaeth lwyddo i gadw llawer o swyddi da a pharatoi y cyngor ar gyfer y dyfodol. Gallwch ddarllen mwy am yr achos yma.