Toggle high contrast

Rhannwch eich stori am fod yn aelod o undeb

Mae eich straeon yn bwerus. Fel rhan o wythnos CaruUndebau, mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl glywed eich stori chi, er mwyn i bobl eraill elwa hefyd.

Gorau po fwyaf o bobl sy’n gwybod am waith ein hundebau llafur sy’n newid bywydau, oherwydd bydd hynny’n golygu bydd ein mudiad yn tyfu ac yn dod yn fwy pwerus

Sut mae cymryd rhan?

Eleni rydyn ni’n defnyddio StoryTagger, ap symudol sy’n ei gwneud hi’n hawdd iawn i chi rannu eich stori ar fideo gan ddilyn y cwestiynau a’r awgrymiadau rydyn ni wedi’u creu. 
Rhannwch eich stori erbyn 20fed Chwefror 2022

Dechrau arni

I recordio eich fideo, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw eich ffôn symudol:

  1. Llwythwch ap StoryTagger i lawr o’r App Store neu Google Play.
  2. Rhowch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair i greu cyfrif.
  3. Mewngofnodwch gyda'ch ID Ymgyrch arbennig: HUSC2022 (neu heartunions22 i gyfrannu yn Saesneg)
  4. Byddwch yn cael neges e-bost i ddilysu eich cyfrif.
  5. Cliciwch ar ‘Start your story’ i gynllunio, recordio a llwytho eich fideo i fyny gan ddefnyddio’r awgrymiadau.

Cyn i chi ddechrau:

  • Chwiliwch am le tawel i sicrhau na fydd sŵn cefndir
  • Rhowch eich ffôn i sefyll ar rywbeth sefydlog fel bwrdd a'i osod mewn ffordd sy’n golygu eich bod yn gallu gweld eich wyneb ar y sgrin
  • Anelwch eich camera mewn ffordd sy’n golygu bod y golau’n dda
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin

Gallwch ail-recordio pob adran os oes angen, a sweipio i’r chwith i symud drwy’r anogwyr. Edrychwch ar y canllaw i ddefnyddwyr ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: support@storytagger.com. Mae tîm StoryTagger wrth law i’ch helpu.

Cyfle i rannu eich stori am sut mae’r undeb wedi eich helpu chi, eich teulu neu’ch cydweithwyr. Bydd y straeon hyn yn cael eu rhannu drwy ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod wythnos CaruUndebau i ddathlu undebau a dangos y gwaith da maen nhw’n ei wneud.

Gadewch i ni ddweud wrth y wlad am bŵer gweithredu ar y cyd.

Cyflwyniad gan Ceri Williams, TUC

-

Jo Galazka - Unite Wales Women’s & Equalities Officer:

Ava Payne, GMB member:

Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now