Pam mae RCM yn cefnogi gweithwyr i ddefnyddio a dysgu Cymraeg

Dyddiad cyhoeddi
I mi, nid yw siarad Cymraeg yn sgil ychwanegol ond yn hytrach yn rhan reiddiol ohonof. Mae defnyddio’r iaith Gymraeg yn cyfoethogi fy mhrofiad o fod gyda merch wrth esgor a geni. Ac mae’n cyfrannu tuag at fy moddhad yn y gwaith.

Rydw i’n fydwraig, ac rydw i hefyd yn ysgrifennu PhD ar y pwnc o ddefnyddio’r iaith Gymraeg o pryd mae rhywun yn esgor a geni babi. 

Wrth gyflawni fy ymchwil siaradais efo llawer o fydwragedd a merched. Disgrifiai rhai bydwragedd bod elfen fwy personol, neu gartrefol wrth weithio yn y Gymraeg. Mae eraill yn cydnabod nad yw’r ddarpariaeth o ofal yn llai yn y Saesneg ond bod y cysylltiad gyda’r ferch yn wahanol. 

Mae bydwragedd a merched yn cytuno bod defnyddio’r Gymraeg yn rhoi boddhad, teimlad saff a chysylltiadau mwy personol i’r profiad geni.

Profiad geni mwy cartrefol trwy ddefnyddio’r Gymraeg

Fel merch yn esgor a geni mewn ysbyty yng Nghymru, mae gennyf brofiad personol o dderbyn gofal yn y Gymraeg a Saesneg. Ac er i mi astudio yn y Saesneg a bod yn rhugl yn y ddwy iaith teimlais fod gofal yn y Gymraeg wedi gwneud y profiad yn fwy cartrefol a llai chwithig. 

Pan oeddwn i’n geni fy mabi i, roedd y cyfathrebu yn fwy rhwydd ac effeithiol wrth ddisgrifio fy mhryderon a theimlad o bartneriaeth yn y gofal.

Gwyliwch mam a bydwragedd o Ysbyty Bronglais yn trafod pa mor bwysig yw hi i ddefnyddio Cymraeg yn y maes yma: 

Mynegi poen trwy eich iaith cyntaf

Yng ngofal mamolaeth, mae perthynas merch a bydwraig yn un byr ond pwysig, gyda’r bartneriaeth yn seiliedig ar ymddiriedolaeth, rhannu gwybodaeth cyfoes a chefnogaeth emosiynol.

Mae ymchwil yn dangos bod defnyddio eich iaith cyntaf yn cyfrannu at ddealltwriaeth unigolyn o’i gyflwr iechyd, yr hyn sydd yn digwydd o’i gwmpas, a sut i ymateb i’r gofal a ddaw yn y dyfodol. Mae hunanfynegiant, emosiwn a phoen hefyd yn cael eu gyfleu yn well wrth i’r claf ddefnyddio’r famiaith. 

Rydw i wedi siarad efo merched sydd yn dweud bod defnyddio’r Gymraeg yn fater angenrheidiol pan ar ei gwanaf. Mewn rhai sefyllfaoedd gallu i siarad Saesneg yn dianc pan yn esgor a geni. 

Wrth ddarparu gwasanaeth mamolaeth yn y Gymraeg, caiff y bartneriaeth rhwng merch a bydwraig ei seilio ar y gyd-ddealltwriaeth o hanes, diwylliant a nodweddion penodol pwysig i Gymry Cymraeg. Canlyniad hyn yw bod merched yn fwy tebygol o deimlo yn ddiogel, ac o dan hunan rheolaeth well, gyda phrofiad gofal mamolaeth fwy personol.

Profiad sy’n aros gyda chi am byth

Mae profiad geni yn aros gyda merched am byth ac yn gallu eu newid hwy a dyfodol y plentyn. Mae’r teimladau o ryddhad a chysurus a ddisgrifiodd y merched Cymraeg a gafodd y cynnig a defnydd y Gymraeg wrth eni, yn siapio eu profiad ond hefyd sut y maent yn myfyrio arno. 

Trwy stori a rhannu profiadau rhwng merched, mae rhan fwyaf yn dysgu am feichiogrwydd, geni a magwraeth. Mae’r Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg yn rhan bwysig o’r stori.

Manteision i fydwragedd fel gweithwyr

Mae’r manteision o ddefnyddio’r Gymraeg yng ngwasanaethau mamolaeth yn debyg ar ddwy ochr y bartneriaeth. Mae bydwragedd a merched yn cydnabod bod y teimlad a gafwyd wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn fuddiol ac yn ychwanegu at y profiad. 

Mae cael fy nghefnogi i ddefnyddio fy mamiaith yn y gweithle yn bwysig iawn i mi. Mae fy iaith yn rhan o bwy ydw i. Fel y merched dwi’n helpu yn fy ngwaith, rydw i fy hun yn teimlo’n fwy gartrefol yn y gweithle wrth allu sgwrsio efo cydweithwyr yn y Gymraeg heb unrhyw rwystrau. 

Hefyd, mae bydwragedd sydd yn siarad Cymraeg yn cael y cyfle i ddefnyddio a chael eu cydnabod am eu sgil ieithyddol fel rhinwedd gwerthfawr i’r gwasanaeth. 

Mae gwasanaethau newydd anedig yn gyfle hefyd i hyrwyddo buddion defnyddio'r Gymraeg i rieni sydd yn magu'r genhedlaeth nesaf o blant, ac felly yn gallu dylanwadu ar ddyfodol yr iaith.  

Swyddi Cymraeg mewn cymuned Cymraeg

Yng Nghymru, mae modd hyfforddi i fod yn fydwraig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae’r bydwragedd newydd hyn yn aml eisiau aros o fewn eu milltir sgwâr, ble mae ei mamiaith yn rhan o’u bywydau dyddiol. Mae swydd o fewn amgylchedd sydd yn hyrwyddo’r iaith, yn atyniad ac yn fuddsoddiad hir dymor i’r GIG.

Y cynnig rhagweithiol 

Mae’r cynnig rhagweithiol wedi bodoli ers 2012. Nod y polisi yw y dylid cynnig gwasanaethau trwy’r Gymraeg i gleifion, heb iddynt orfod gofyn am hyn.  

Dylai gweithwyr proffesiynol osgoi rhagdybio a yw’r claf yn siarad Cymraeg, wrth ddibynnu ar enw, ardal neu acen a glywir i ddyfalu eu hiaith ddewisol. Nid oes angen cynnig rhagweithiol os mai Cymraeg sydd yn cael ei ddefnyddio yn ganiataol, er enghraifft mewn ardaloedd mwyafrifol Gymraeg.

Er ymdrechion polisi a fframweithiau, dros y degawd diwethaf does dim llawer o ymwybyddiaeth o’r cynnig rhagweithiol ymysg pobl gyffredin. Yn wir, nid yw ei ddefnydd i’w weld yn aml nag yn gyson o fewn unedau mamolaeth Gogledd Cymru. 

I’r ferch mae cael y cynnig o’r iaith yn dileu gorfod gofyn am fydwraig iaith Gymraeg, sydd prin yn digwydd, gan eu bod ofn creu ffỳs, gofid mewn atal gofal prydlon neu fod yn ddigywilydd. 

Ar hyn o bryd mae’n gallu bod yn fater o lwc os ydych chi’n cael derbyn gwasanaethau trwy eich mamiaith. 

Brwydro dros ddarpariaeth sydd ddim yn fater o lwc

Rhai o’r rhesymau pam nad yw’r cynnig rhagweithiol yn ymarferol yw diffyg cyflogadwyedd ac addysg uwch o siaradwyr Cymraeg, gwybodaeth weledol, ac ymrwymiad parhaus gwasanaeth i hyrwyddo darpariaeth y Gymraeg yn gyson. 

Rydw i’n credu bod angen brwydro dros ddarpariaeth fwy cyson a sefydlog, sydd yn arferol yn hytrach nag yn fater o lwc.    

Mae RCM Cymru yn rhan bwysig o’r frwydr hon. Mae’r undeb yn gwneud gwaith positif yn annog bydwragedd i ddefnyddio’u Cymraeg, i ddefnyddio gwisg sy’n cynnwys y bathodyn ‘iaith gwaith’ ac i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg. Mae hefyd yn cefnogi bydwragedd i ddysgu Cymraeg yn y gweithle.

Siarter Twf

Mae TUC Cymru wedi creu Twf – Siarter y Gymraeg yn y Gwaith. Bydd Siarter Twf yn creu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol, ac yn cefnogi’r broses o gynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.