Toggle high contrast

Mark Otten yw Swyddog Amgylcheddol UNSAIN yng Nghyngor Abertawe. Mae wedi cymryd camau i leihau plastigau untro yn yr awdurdod:

“Fel Swyddog Amgylcheddol i Unsain Cyngor Abertawe, rydw i bob amser yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda’r cyflogwr i leihau ein hôl troed carbon. Mae hyn yn bwysicach fyth oherwydd cyhoeddiad gan llywodraethau ein gwlad bod argyfwng hinsawdd.

“Roeddwn i’n gweithio yng Ngwasanaethau Eiddo ac Adeiladu Corfforaethol Cyngor Abertawe, ac maen nhw’n gwneud amrywiaeth o waith gan gynnwys cynnal a chadw stoc tai cyngor ac adeiladau cyhoeddus, yn ogystal â chynnal a chadw adeiladau newydd ac uwchraddio eiddo er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau Cymru. Tra’r oeddwn i yno, roeddwn i’n awyddus i fynd i’r afael â’r broblem o ran plastigau untro yn y gweithle.  Roedd delio â throsiant mawr iawn o amrywiaeth o stoc wedi agor fy llygaid i faint o ddeunydd pecynnu untro oedd mewn siopau.

Astudiaeth achos: Camau gweithredu UNSAIN Abertawe ar blastigau untro
Photo credit: iStock

“Byddai mynd i’r afael ag un eitem, sef potel ddŵr, yn golygu y byddai gostyngiad enfawr mewn plastig untro mewn siopau.  I roi syniad o hyn, yn ystod y cyfnod rhwng mis Mawrth 2018 a mis Mawrth 2019, cafodd 990,000 o boteli ei gofnodi ar gyfer caffael poteli dŵr (plastig untro) i staff a oedd yn gweithio ar safleoedd neu’n gweithio wrth deithio.

O un flwyddyn i’r llall, roedd gwariant poteli dŵr wedi parhau i godi, yn bennaf oherwydd y gost o’u darparu.  Fy mhryder i oedd yr effaith yr oedd hyn yn ei chael ar yr amgylchedd.

Yn ystod cyfarfod iechyd a diogelwch ddiwedd 2018, cyflwynwyd awgrym i staff ddefnyddio poteli dŵr eu hunain.  Tynnais sylw at y ffaith y byddai dilyn y llwybr hwn yn fuddiol i’n hamgylchedd, a byddai’n lleihau’r gost i’r Gwasanaethau Eiddo ac Adeiladu Corfforaethol.  Dros y misoedd wedyn, cafodd amrywiaeth o boteli eu darparu a’u profi.  Ar 20 Mawrth 2019, cafodd 500 o boteli alwminiwm maint litr eu caffael a’u dosbarthu i staff.  Hyd yma (19/11/2020), mae 900 o boteli wedi cael eu caffael a’u dosbarthu i staff.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Gwasanaethau Eiddo ac Adeiladu Corfforaethol wedi arbed £10,000.  Hefyd, mae’r staff eu hunain yn teimlo’n hapus eu bod wedi helpu i fynd i’r afael â rhan o’n problem amgylcheddol, sef llygredd plastig.  Yn ogystal â hyn, mae adrannau eraill yn yr awdurdod lleol wedi dilyn hyn drwy fabwysiadu’r un arfer.”

Astudiaeth achos: Camau gweithredu UNSAIN Abertawe ar blastigau untro
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now