Toggle high contrast

Mae plastig yn ddeunydd defnyddiol sydd â llawer o gymwysiadau cadarnhaol – er enghraifft mewn meysydd fel gofal iechyd ac er mwyn cadw a storio bwyd.

Ond mae sawl anfantais hefyd i’r ffordd mae plastigau’n cael eu cynhyrchu a’u defnyddio. Mae plastigau’n aml yn cael eu defnyddio’n ddiangen neu mewn ffordd broblemus.

Plastigau - beth yw’r problemau?
Photo credit: iStock

Er enghraifft, mae’r defnydd gormodol o blastig untro wedi creu problem enfawr o ran sbwriel a llygredd plastig yn yr amgylchedd.

Roedd rhaglen Blue Planet II gan y BBC wedi tynnu sylw at effaith ddinistriol plastig ar ein moroedd ac anifeiliaid morol.  Yn fyd-eang, mae llai na 10% o wastraff plastig yn cael ei ailgylchu

Mae pryderon iechyd hefyd am effaith bosibl llygredd micro-blastig ar iechyd pobl. Mae microblastigau yn ronynnau mân iawn o blastig sy’n mynd i’r aer, i’r dŵr ac i’n bwyd, ac maent yn mynd i mewn i’n cyrff. Mae ansicrwydd o ran effeithiau hirdymor microblastigau ar iechyd, ond mae gwyddonwyr yn credu y gallai beri pryder.

Ond nid dim ond effaith llygredd plastig yw hyn. Drwy gynhyrchu plastig newydd, mae hyn yn defnyddio tanwyddau ffosil. Os nad yw’r defnydd o blastigau newydd yn cael ei leihau, gallai hyn rwystro ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mewn gwirionedd, gallai cynnydd yn y defnydd o blastigau newydd ddileu’r rhan fwyaf o’r manteision o leihau allyriadau a geir o beidio â defnyddio tanwydd ffosil ar gyfer trafnidiaeth.

Dywedodd Human Rights Watch bod y broses o gynhyrchu, defnyddio a gwaredu plastigau yn cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd, ac y bydd yn gallu achosi niwed sylweddol i hawliau dynol pobl ledled y byd. Mae’n dweud bod yn rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael â’r broblem yn y ffynhonnell, gan na fydd gwella’r broses o symud ac ailgylchu gwastraff yn rhoi terfyn ar y niwed y mae llygredd plastig yn ei achosi i hawliau dynol.

Problem ychwanegol yw nad oes digon o gapasiti ar hyn o bryd i ailgylchu ein holl wastraff plastig yng Nghymru. Yn 2017, o’r holl blastig a gafodd eu hanfon i’w hailgylchu, cafodd tua 61% o’r plastigau hynny eu hailgylchu y tu allan i Gymru. Codwyd pryderon ynghylch effeithiau amgylcheddol a moesegol o ran cludo gwastraff plastig dramor.

Un o’r ffyrdd allweddol o fynd i’r afael â defnyddio gormod o blastigau yw cadw’r plastigau mewn defnydd economaidd am gyn hired â phosibl, a pheidio â gadael iddynt ddiflannu yng nghanol yr amgylchedd.  

Camau gweithredu ar gyfer plastigau - rhestr wirio:

  • Cael gwared ar blastigau untro diangen – e.e. mae modd cael gwared ar rai eitemau’n gyfan gwbl, neu mae’n bosibl y bydd dewisiadau eraill ar gael i ailddefnyddio’r eitemau.
  • Blaenoriaethu plastigau wedi’u hailgylchu yn hytrach na phlastigau newydd wrth gaffael.
  • Gwnewch yn siŵr bod plastigau y gellir eu hailgylchu’n hawdd yn cael eu dewis o flaen plastigau sy’n anoddach eu hailgylchu.
  • Mae angen bod yn ofalus gyda rhai cynlluniau casglu corfforaethol/sy’n cael eu noddi’n breifat ar gyfer plastigau a deunyddiau cyfansawdd sy’n anodd eu hailgylchu. Nid yw’r rhain bob amser cystal ag y maent yn ymddangos. Gallant arwain at eitemau’n cael eu ‘hisgylchu’ – hynny yw, eu hailgylchu unwaith yn eitemau na ellir eu hailgylchu eu hunain. Yn y pen draw, bydd y rhain yn mynd i safleoedd tirlenwi.
  • Cofiwch, mae’n bwysig osgoi demoneiddio un deunydd yn ormodol. Mewn rhai achosion, gall dewisiadau amgen ar gyfer plastig gael effeithiau amgylcheddol gwaeth, neu gallant fod yn anaddas i’r diben. Mae angen asesu cynaliadwyedd ac addasrwydd deunyddiau eraill yn llwyr.
Plastigau - beth yw’r problemau?
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now