Toggle high contrast
Gwastraff bwyd – beth yw’r problemau?

Mae angen gweithredu ar frys ar wastraff bwyd. Mae gwastraff bwyd yn achosi effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod tua thraean o fwyd y byd yn cael ei golli neu ei wastraffu, a bod y broses o gynhyrchu’r bwyd sy’n cael ei wastraffu yn cyfrannu at 8% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hynny’n fwy na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu gan unrhyw wlad unigol, ac eithrio’r Unol Daleithiau a Tsieina.

Gwastraff bwyd
Photo credit: iStock

Mae gwastraff bwyd yn rhyddhau methan, sef math cryf o nwy tŷ gwydr. Ond nid dyna’r unig broblem.  Mae taflu bwyd hefyd yn golygu bod yr holl adnoddau sydd wedi cael eu defnyddio i’w gynhyrchu wedi cael eu gwastraffu. Gall hyn gynnwys pethau fel y dŵr a’r tir sydd wedi cael eu defnyddio, yn ogystal â thrafnidiaeth a phecynnu.

Mae ymchwil wedi canfod nad yw Mae teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £700 a mwy o fwyd bob blwyddyn..

Mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd yn digwydd gartref, ond mae’n broblem mewn gweithleoedd hefyd. Ac mae pethau fel oriau gwaith hir, gwaith shifft, teithiau hir a chydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith yn gallu cael effaith ganlyniadol ar wastraff bwyd gartref.

Oherwydd gall hyn olygu nad oes gan bobl ddigon o amser i gynllunio a pharatoi prydau bwyd a lleihau gwastraff. Mae teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £700 a mwy o fwyd bob blwyddyn.

Effeithiau o ran dewis bwyd

Yn ogystal â’r bwyd rydym yn ei wastraffu, mae’r mathau o fwyd rydym yn dewis ei fwyta yn gallu cael effaith fawr ar yr amgylchedd hefyd. Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain wedi llunio taflen ffeithiau ddefnyddiol am ddeietau cynaliadwy, ac mae ganddi restr ddefnyddiol o awgrymiadau cyflym ar sut i ddechrau arni.

A oes gan eich gweithle ffreutur, neu a oes modd trefnu digwyddiadau gyda gwasanaeth arlwyo? Gallai fod cyfleoedd i wneud gwahaniaeth drwy gynnwys dewisiadau mwy cynaliadwy wrth gynnig bwydydd.

Gwastraff bwyd – rhestr wirio:

  • A yw’r rheolwyr a’r aelodau’n ymwybodol o’r cysylltiad rhwng gwastraff bwyd a newid hinsawdd?
  • A yw eich gweithle yn cynnig cyfleusterau casglu ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd? O 6 Ebrill 2024 ymlaen, rhaid i bob gweithle yng Nghymru gasglu gwastraff bwyd ar wahân.
  • Pa gyfleusterau sydd ar gael i weithwyr storio, paratoi ac yfed bwyd neu ddiod yn y gwaith?
  • A oes ffreutur, caffi neu siop yn y gweithle? Faint o wastraff bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i leihau gwastraff bwyd?
  • A oes cyfleoedd i gyfrannu at gynlluniau ailddosbarthu bwyd? Y Gymuned - fareshare.cymru/cy Oergell Cymunedol circularcommunities.cymru/cy/community-fridge ac apiau rhannu bwyd ac ati.
  • A oes cyfleoedd ar gyfer compostio ar y safle?
  • A yw’r gweithle’n cynnig cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith ac opsiynau gweithio hyblyg?

Adnoddau gwastraff bwyd:

Mae gan yr ymgyrch The Wasting Food: It’s out of date a www.lovefoodhatewaste.com adnoddau sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth gydag unigolion

Mae gan WRAP gyfres o adnoddau am ddim ar atal gwastraff bwyd yn y gweithle:  wrap.org.uk/taking-action/food-drink/actions/action-on-food-waste

Mae gan WRAP Cymru becyn cymorth ‘Map Llwybr Gwastraff Bwyd’ newydd sydd wedi’i anelu at sefydliadau yn y sector bwyd a diod

Ac mae wedi cynhyrchu hierarchaeth benodol o wastraff bwyd

Gwastraff bwyd – beth yw’r problemau?
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now