Toggle high contrast
Penderfyniad Cyngres TUC Cymru 2022: Data a Deallusrwydd Artiffisial

Mae’r Gyngres yn cydnabod bod gallu technoleg newydd i gasglu, storio a phrosesu llawer iawn o ddata wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae wedi cyflymu datblygiad AI perthnasol.

Mae’r Gyngres yn nodi y gallai hyn greu cyfleoedd posibl ar gyfer arloesi ar draws pob sector o’r economi, ond mae’r Gyngres yn nodi ymhellach bod yn rhaid ystyried canlyniadau anfwriadol posibl AI yn ofalus, sy’n gwneud penderfyniadau ar sail algorithm.

Mae’r Gyngres yn credu bod yn rhaid rhoi gwybod i weithwyr o’r cychwyn cyntaf pan fydd unrhyw fath newydd o dechnoleg newydd yn cael ei gyflwyno i’r gweithle, ac mae’n deall y gall technoleg newydd gyflwyno heriau penodol.

Mae’r Gyngres hefyd yn credu y dylai pob gweithiwr allu cael gafael ar y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen i addasu i fyd gwaith sy’n newid.

Felly, mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith lle gallai’r canlynol fod yn berthnasol fel ystyriaethau pan fydd sefydliadau’n gofyn am gymorth, ariannol neu fel arall, ar gyfer datblygu technoleg newydd yn y gweithle:

  • Llais y Gweithiwr – mae gweithwyr yn ganolog i’r trafodaethau ynghylch gweithredu technoleg newydd;
  • Cyfiawnder Data – cesglir data gan weithwyr gyda’u cydsyniad, a gwneir pob ymdrech i ddileu canlyniadau rhagfarn algorithmig;
  • Cuddwylio Data – nid yw’r data a gesglir yn cael effaith niweidiol ar weithwyr;
  • Dadleoli Swyddi – darparu a chynnwys gweithwyr mewn cyfleoedd hyfforddi a buddsoddiad parhaus mewn sgiliau, gan gynnwys drwy ymrwymiad parhaus i Union Learning;
  • Amgylchedd sy’n canolbwyntio ar weithwyr – cynnal llesiant, iechyd a diogelwch gweithwyr.

Ar ben hynny, mae’r Gyngres yn galw ar bob parti perthnasol a chyfrifol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru ond heb fod yn gyfyngedig i Lywodraeth Cymru, i wneud y canlynol:

  • Ymgyrchu i ddiwygio elfennau o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988;
  • Cydlynu ymateb undeb byd-eang gyda chwaer-undebau, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Atodiad
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now