Toggle high contrast
Gwneir yr argymhellion canlynol ar gyfer y camau nesaf gan awduron yr adroddiad yn seiliedig ar ganfyddiadau’r gwaith ymchwil. Eu bwriad yw cefnogi’r gwaith o gyflawni’r nodau penodol ym mhenderfyniad TUC Cymru 2022.

Y camau nesaf i TUC Cymru

Mae’n fwriad gan TUC Cymru i gymryd y camau canlynol:

A. Llunio fwy o adnoddau a hyfforddiant wedi’u targedu ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur

Mae’n hanfodol bod gweithwyr ar lawr y siop yn deall pryd a sut mae’r technolegau hyn yn cael eu defnyddio a pha ddulliau y gellir eu defnyddio i negodi gyda chyflogwyr.

Mae angen rhaglenni ac adnoddau hyfforddi sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd:

  • Sy’n benodol i gynulleidfa, e.e. ar gyfer cynrychiolwyr lleyg neu swyddogion;
  • Sy’n benodol i’r sector, gan dargedu mathau penodol o AI a thechnolegau digidol y gallai gweithwyr ddod ar eu traws;
  • Sy’n rhagarweiniol, yn ymarferol ac yn gysylltiedig â dulliau negodi cyfarwydd, e.e. cydraddoldeb, iechyd a diogelwch, cyflog ac amodau gwaith, yn ogystal â phryderon penodol sy’n ymwneud ag AI a digideiddio, e.e. diogelu data a hawlfraint.

B. Parhau i fonitro datblygiad ac effaith AI yn y gweithle a chynnal gwaith ymchwil pellach

Mae rhaglenni AI yn cynyddu ac yn newid yn gyflym wrth i’r dechnoleg esblygu. Yn absenoldeb gofynion clir i gyflogwyr ddatgelu pa dechnolegau sydd wedi cael eu defnyddio, bydd angen i TUC Cymru gynnal y gallu i gasglu gwybodaeth, er mwyn llywio cyfleoedd ar gyfer gweithredu.

Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • Rhagor o grwpiau ffocws ac arolygon gweithwyr, yn ôl sector ac yn ôl nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys gwaith dilynol ar gyfranogwyr y gwaith ymchwil hwn;
  • Cynnal gwaith ymchwil i sectorau sy’n debygol o gael eu heffeithio’n ddifrifol gan AI a lle mae cyfraddau undebaeth yn isel ar hyn o bryd. Gallai hyn gefnogi cyfle sylweddol i recriwtio gweithwyr newydd i’r mudiad undebau llafur.

C. Parhau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac eirioli syniadau polisi undebau llafur sy’n diogelu ac yn ymestyn hawliau gweithwyr yn y gweithle, ac yn eu grymuso

Mae’r drefn gyfreithiol bresennol yn llesteirio grymuso gweithwyr yn effeithiol yn gyffredinol, ac yn benodol o ran digideiddio ac AI.

  • Bydd TUC Cymru yn ystyried sut i gefnogi mabwysiadu arferion a mentrau polisi newydd ymhellach i fynd i'r afael â hyn.

D. Cefnogi undebau cysylltiol i rannu profiadau ac arferion gorau o ran deall, defnyddio a thrafod AI, gan gynnwys ymgorffori cytundebau cydfargeinio

Bydd sefydlu strwythurau rheolaidd ar gyfer cynnull cyrff cysylltiol ac undebwyr llafur yn helpu i gyflymu dysgu ac yn meithrin gallu ar draws y mudiad.

  • Gellid sefydlu gweithgor rheolaidd o gyrff cysylltiol o Gymru i rannu a chydweithio ar AI yn y gweithle.
  • Datblygu arferion gorau a chanllawiau penodol i’r sector i gefnogi undebau cysylltiol i ymgorffori materion sy’n ymwneud â data, technoleg ac AI mewn cydfargeinio. 

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyngor Partneriaeth y Gweithlu

Gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol dylai Llywodraeth Cymru a gweithgor AI y WPC:

1. Datblygu ymhellach, hyrwyddo a monitro’r defnydd o ganllawiau ar gyfer arferion gorau ar gyfranogiad gweithwyr

  • Dylai partneriaid cymdeithasol adeiladu ar gytundeb presennol WPC i wireddu ymgysylltu cynnar a pharhaus â gweithwyr ynghylch cyflwyno neu ddefnyddio technoleg yn y gweithle. Dylai’r rhain gynnwys sbectrwm eang o faterion, gan gynnwys cydraddoldeb, amodau gwaith, sgiliau a thryloywder.
  • Dylai’r sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru fod yn esiampl o ran mabwysiadu AI. Dylid mabwysiadu cytundeb presennol WPC ar y cyd â chamau eraill i ddiogelu gweithwyr a gwella gwasanaethau pan fydd technolegau newydd yn cael eu cyflwyno. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant digonol ar risgiau; adolygiadau rheolaidd a hyfforddiant ar y sgiliau newydd angenrheidiol.
  • Ystyried defnyddio dulliau ar gyfer cymell a gwobrwyo arferion gorau gan gyflogwyr, gan gynnwys drwy gaffael ac amodoldeb ar gyfer cymorth ariannol yn unol ag egwyddorion y Contract Economaidd rhwng busnesau a Llywodraeth Cymru.

2. Ystyried effaith AI ar reoleiddio datganoledig sy’n ymwneud â’r gweithle

  • Datblygu dealltwriaeth sy’n benodol i gyd-destun mewn gwahanol barthau. Er enghraifft, tynnodd addysgwyr sylw at y ffaith y bydd angen i fyrddau arholi ac eraill adolygu gweithdrefnau i ymateb i'r defnydd o AI.

3. Dylanwadu ar Lywodraeth y DU ar faterion sydd heb eu datganoli a fydd yn effeithio ar weithwyr Cymru

Lle bo modd, dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â phrosesau sydd heb eu datganoli a fydd yn effeithio ar weithwyr Cymru.

  • Cadw golwg ar brosesau a deddfwriaeth berthnasol, er enghraifft Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU.
  • Ymyrryd i gyflwyno sylwadau, a defnyddio pwerau Llywodraeth Cymru lle bo hynny’n briodol i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth sydd heb ei datganoli.
Camau nesaf ac argymhellion
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now