Toggle high contrast
Mae gweithwyr hefyd yn edrych ar enghreifftiau blaenllaw o gydfargeinio effeithiol sy’n canolbwyntio ar rôl AI.

Er enghraifft, cyfeiriodd cynrychiolwyr yn y diwydiannau creadigol at gytundeb mis Medi 2023  a wnaed rhwng y Writers Guild of America a’r Alliance of Motion Picture and Television Producers ar ôl streic uchel ei phroffil a barodd am bum mis. Mae gan y cytundeb ddarpariaethau penodol ynghylch AI a mesurau diogelu ar gyfer gweithwyr creadigol. Siaradodd cyfranogwyr mewn grŵp ffocws o swyddogion o undebau’r sector creadigol yn fanwl am gydfargeinio datblygol sy’n ymgorffori’n llawn yr heriau a achosir gan AI cynhyrchiol.

Ynghyd â darpariaethau newydd ar gyfer technolegau penodol, cadwodd arferion undebau llafur craidd presennol eu gwerth. Dywedodd un swyddog fod “egwyddorion undebau allweddol yn parhau i fod yn hollbwysig” yn ei phrofiad o gynrychioli staff canolfannau galwadau, e.e. “ymarfer rhesymol”, y gellid ei ddefnyddio mewn canolfan alwadau i herio amrywiaeth o dechnegau rheoli AI, fel cuddwylio gormesol.

Fodd bynnag, cydnabuwyd, o ystyried amrywioldeb a chymhlethdod cymharol AI, y byddai angen i undebwyr llafur ddatblygu gwell dealltwriaeth a thactegau i ddeall ac ymateb i AI.

O ganlyniad, fel cam nesaf, bydd TUC Cymru yn cefnogi undebau cysylltiedig i rannu profiad ac arferion gorau ar ddealltwriaeth, defnyddio a negodi AI, gan gynnwys ei ymgorffori mewn cytundebau bargeinio ar y cyd.

Deallusrwydd artiffisial a chydfargeinio
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now