Er enghraifft, Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU yw’r unig ddeddfwriaeth sy’n benodol i AI sydd wedi ei gyflwyno yn ystod y senedd hon. Mae’r Bil yn cynnig gwanhau’r gofynion ar gyfer ymgynghori, adolygiad dynol o wneud penderfyniadau awtomataidd, yn ogystal â chyfyngu mynediad at ddata a all helpu gweithwyr i ddeall ar ba sail y maent yn cael eu rheoli.
Adeg cyhoeddi’r adroddiad hwn, mae’r Bil yn dechrau ar gam Tŷ’r Arglwyddi y broses ddeddfwriaethol.
Mae cynlluniau i fynd i’r afael â hyn hefyd wedi deillio o’r mudiad undebau llafur. Galwodd y TUC am ddyletswydd statudol i ymgynghori ag undebau llafur cyn i gyflogwr gyflwyno AI a systemau gwneud penderfyniadau awtomataidd.
Mae’r TUC hefyd wedi dechrau drafftio Bil Deallusrwydd Artiffisial a Chyflogaeth, sy’n cynnwys yr hawl i ddatgysylltu, hawliau digidol i wella tryloywder o ran defnyddio technoleg cuddwylio, a hawl gyffredinol i adolygiad dynol o benderfyniadau risg uchel a wneir gan dechnoleg.
Bydd y meysydd hyn yn bwysig iawn i weithwyr yng Nghymru, felly rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio dylanwadu ar lywodraeth y DU ar faterion heb eu datganoli a fydd yn effeithio ar weithwyr yng Nghymru mewn perthynas ag AI.
Er eu bod yn poeni am y ffyrdd anatebol y mae AI yn cael ei gyflwyno mewn llawer o weithleoedd, mynegodd cynrychiolwyr a swyddogion yr awydd i feithrin agwedd gadarnhaol at AI a digideiddio yn gyffredinol.
Dywedodd swyddog amser llawn: “Rhaid i undebau dderbyn nad yw AI yn ddrwg yn ei gyfanrwydd – e.e. defnyddio offer diagnostig mewn gofal iechyd. Os yw’n gwella canlyniadau cleifion, mae’n beth da.”
Y prif bryder oedd sut gall pobl siapio technoleg, nid y ffordd arall, a sut bydd y manteision a’r risgiau’n cael eu dosbarthu. Fel y dywedodd swyddog arall, ar hyn o bryd:
“AI ddylai fod y cart, a’r undebau ddylai fod y ceffylau sy’n ei arwain ymlaen. Ond ar hyn o bryd rydym ni’n cael ein llusgo. Y cwestiwn yw sut mae rhoi ein hunain yn ôl o flaen y cart?”
Yn wyneb rhwystredigaethau o’r fath, mae rhai gweithwyr yn ceisio achub y blaen a datblygu arferion o ddefnyddio AI mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar weithwyr.
Mewn coleg addysg bellach, mae cynllun peilot rheoli undebau ar y cyd yn cael ei ddatblygu i staff ddefnyddio offer AI gyda ffocws ar ddefnyddio AI i leihau a rheoli llwythi gwaith.
Dywedodd cynrychiolydd yn y coleg:
“Mae’n debygol iawn bod AI yn gwneud ei ffordd i’r ystafell ddosbarth, ond gyda’r cynllun peilot hwn, byddwn yn ceisio mynd i’r afael â’r mater. Un o’r pethau y gallwn ni ei wneud yw ei sbarduno.”
Mae cynrychiolwyr y coleg yn cydnabod y risg o wreiddio AI ymhellach – o gael ei gyfethol gan reolwyr neu greu problemau pellach o ran llwythi gwaith a gwaith gweinyddol. Ond maen nhw wedi ymrwymo i achub y blaen ar newid technolegol.
Fel y dywedodd un o’r cynrychiolwyr:
“Gwella, nid dad-ddyneiddio”, dyna ddylai fod y nod ar gyfer unrhyw ddarn o dechnoleg arloesol!”
Cododd trafodaethau am y cynllun peilot faterion ehangach ynghylch goblygiadau AI. Fel y nodwyd uchod, roedd pryder ynghylch cyngor a datganiadau anghyson gan fyrddau arholi ac eraill ar dderbynioldeb gwaith myfyrwyr a oedd wedi defnyddio AI, a lle’r oedd y cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â llên-ladrad.
Mae enghraifft bwysig arall o ymgysylltu â gweithwyr yn digwydd ar lefel genedlaethol. Mae'r WPC wedi sefydlu gweithgor ar AI gyda nifer cyfartal o seddi ar gyfer undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Bydd y grŵp yn adolygu'r cynnydd yn erbyn camau gweithredu argymhellion adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, 'Dyfodol gwaith: effaith technoleg arloesol ar y gweithlu'.
Ar ben hynny, bydd y grŵp yn ystyried goblygiadau AI i weithlu'r sector cyhoeddus ac yn pennu'r egwyddorion, y wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad sydd eu hangen i wreiddio partneriaeth gymdeithasol a hawliau gweithwyr mewn arferion cyflogwyr.
To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).