Yn ôl cynrychiolwyr, roedd technolegau’n cael eu cyflwyno i’r gweithle gan gyflogwyr gyda’r nod penodol o wella cywirdeb ac effeithlonrwydd. Fodd bynnag, roedd dealltwriaeth wan a defnydd amhriodol o’r technolegau, a methiant i ymgorffori dealltwriaeth gweithwyr gan gyflogwyr, yn arwain at amgylchedd lle mae gweithwyr yn cael eu dadrymuso ymhellach.
Dywedodd gweithwyr manwerthu fod ganddynt dystiolaeth gadarn nad oedd targedau a gynhyrchwyd gan AI yn caniatáu’n ddigonol ar gyfer y gweithgaredd dan sylw, ond nad oedd ganddynt lawer o ffyrdd o herio rheolwyr. Dywedodd un gweithiwr manwerthu:
“Mae pobl yn cael eu disgyblu am fethu targedau. Ond pan fyddwn ni’n herio cyflogwyr am dargedau anghywir o ran amser tasgau, maen nhw’n dweud bod ‘AI yn fwy clyfar na chi’.”
Cyfeiriodd gweithiwr llywodraeth leol at enghraifft lle’r oedd cydweithiwr beichiog wedi cael ei chosbi am fethu â chyrraedd targed nad oedd yn cynnwys addasiadau rhesymol.
To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).