Toggle high contrast
Mae pryderon trawsbynciol yn rhedeg drwy’r profiadau amrywiol a ddisgrifir uchod. Mae effaith AI ar nodweddion gwarchodedig yn enghraifft nodedig.

Derbynnir yn gyffredinol y gall offer AI arddangos rhagfarn a chreu effeithiau gwahaniaethol yn absenoldeb llywodraethu a defnydd priodol wrth gyflogi, diswyddo a rheoli perfformiad.

Yn ôl pwyllgor gwyddoniaeth a thechnoleg Tŷ’r Cyffredin:

“Gall algorithmau, wrth chwilio am batrymau data a manteisio arnynt, weithiau gynhyrchu ‘penderfyniadau’ diffygiol neu ragfarnllyd... a all arwain, er enghraifft, at wahaniaethu ar sail hil neu rywedd mewn prosesau recriwtio”.

Pryder penodol oedd gohirio barn a gwneud penderfyniadau i systemau cyfrifiadurol, gan ddileu gwybodaeth sy’n berthnasol yn gyd-destunol.

Ar gyfer y cyfranogwyr yn y gwaith ymchwil hwn, roedd defnyddio data heb gyd-destun i gynorthwyo neu wneud penderfyniadau yn codi pryderon ynghylch rhagfarn.

Nododd gweithiwr yn y sector logisteg sut mae’r defnydd cyffredinol o dargedau sydd wedi’u pennu’n algorithmig yn cael eu “gosod heb ystyried oedran neu anabledd” a bod “pobl yn cael eu gwthio allan os nad ydynt yn gallu cyrraedd eu targedau” ni waeth beth yw’r ffactorau eraill.

Mae’n ymddangos bod hyn yn mynd yn groes i ganllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar degwch mewn AI sy’n nodi bod

“Cyd-destun yn allweddol: mae’r amodau ar gyfer gwneud penderfyniadau yr un mor bwysig â’r broses o wneud penderfyniadau ei hun.”

Mae cydraddoldeb a niwed cymdeithasol ehangach yn bryderon trawsbynciol

Dywedodd swyddog undeb llafur ei fod wedi gweld sut y gallai targedau a bennwyd yn algorithmig wahaniaethu yn erbyn pobl â nodweddion gwarchodedig:

“Os yw rhywun yn feichiog, gallai gallu’r unigolyn i wneud gwaith yn gyflym fod yn is,” meddai, “ond nid yw’r algorithm yn ystyried hyn a bydd y gweithiwr yn cael ei gosbi o ganlyniad.”

Cyfeiriodd y cyfranogwyr at niweidiau cymdeithasol ehangach. Cyfeiriodd newyddiadurwr at bryderon ynghylch uniondeb golygyddol ac iechyd yr ecosystem wybodaeth a ddefnyddir gan y cyhoedd:

"O ran y broses o grafu data sy'n llywio modelau AI cynhyrchiol, mae rhagfarnau mewn deunyddiau presennol yn dylanwadu ar y rhain. Os oes llawer llai o fodau dynol yn ymwneud â chreu adroddiadau newyddion, yna bydd y rhagfarnau hyn yn cael eu hatgyfnerthu. Mae’n eithaf brawychus ac yn broblem fawr.”

Trafodwyd effaith AI ar y Gymraeg o safbwynt gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus. Codwyd pryderon ynghylch gallu modelau iaith mawr i ddeall Cymraeg ysgrifenedig anffurfiol yn iawn – nodwyd y gallai hyn fod yn broblem pe bai cyrff cyhoeddus yn dibynnu ar adnoddau AI i ddadansoddi ymatebion i ymgynghoriadau cyhoeddus ac yn peryglu anwybyddu safbwyntiau rhai pobl.

P’un a yw’n ymwneud â gwneud penderfyniadau yn y gweithle neu greu erthyglau newyddion, mae gweithwyr yn poeni y gallai AI gynyddu anghydraddoldeb yn y farchnad lafur ac mewn cymdeithas. Arweiniodd y pryder hwn efallai at y pryder mwyaf i weithwyr ynghylch newid technolegol cyflym, ac mae hynny wedi bod yn destun trafodaeth gyhoeddus ddwys: colli swyddi a dadleoli.

Dywedodd ffotograffydd wrthym:

“Mae AI yn cael ei ddefnyddio i greu delweddau ffotograffig. Mae hyn yn fygythiad i gyfleoedd gwaith ffotograffwyr.”

Gofynnodd un o ddarlithwyr y coleg a fyddai ei nodiadau cwrs yn cael eu defnyddio fel “ffynhonnell o ddeunydd ar gyfer meddalwedd AI i’m diswyddo?”

Dywedodd un swyddog amser llawn ar gyfer undeb sector manwerthu bod staff wedi cael eu diswyddo’n ddiweddar oherwydd technoleg newydd, gan gynnwys AI, gan ddweud

“ar un adeg roedd 1,000 o bobl yn gweithio mewn archfarchnad fawr. 250 sydd yno erbyn hyn ac maen nhw’n weithwyr rhan amser yn bennaf.”

Mae hyn yn ategu pryderon ynghylch cydraddoldeb, gan y gallai hyn effeithio fwyaf ar weithwyr sy’n fwy agored i niwed.

Canfu astudiaeth yn 2019 gan y Royal Society for the Encouragement of Arts, Manufactures and Commerce fod tua 75,000 o swyddi fel cynorthwywyr gwerthu neu weithredwyr tiliau, a arferai gael eu gwneud gan fenywod, wedi diflannu yn ystod y saith mlynedd diwethaf oherwydd awtomeiddio ac e-fasnach.

Er bod dynion wedi colli 33,000 o’r swyddi yn ystod y cyfnod rhwng 2011 a 2018, roedd y rhain yn cael eu gwrthbwyso i raddau helaeth gan gynnydd mewn rolau mewn warysau ac fel dosbarthwyr / gyrwyr.  Fodd bynnag, dywedodd cynrychiolydd undeb y gweithwyr manwerthu bod llawer o’r swyddi hyn yn ansicr ac yn cael eu rhoi ar gontract allanol, sy’n golygu bod cyrraedd a threfnu’r gweithwyr hyn yn arbennig o anodd i gynrychiolwyr undebau.

Mae gwaith ymchwil ddiweddar yn awgrymu mai ‘swyddi proffesiynol’ sydd fwyaf agored i AI. Canfu Llywodraeth y DU fod hynny'n wir

“yn enwedig yn achos swyddi sy’n gysylltiedig â gwaith clerigol ac ar draws rolau cyllid, y gyfraith a rheoli busnes”.

Mae’r effaith yn ôl rhywedd yn wahaniaethol iawn, gyda menywod yn gyffredinol yn llawer mwy agored i effeithiau AI na dynion. Yn nodedig, mae’r diwydiannau sector preifat hyn yn tueddu i fod â dwysedd undebol isel iawn.

Ar draws pob maes cyflogaeth, mae AI yn cael effaith sylweddol ac amrywiol ar ystod o wahanol weithwyr.  Felly, fel cam nesaf, bydd TUC Cymru yn parhau i fonitro datblygiad ac effaith AI yn y gweithle.

Mae cydraddoldeb a niwed cymdeithasol ehangach yn bryderon trawsbynciol
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now