Toggle high contrast
Ochr yn ochr ag AI cynhyrchiol a chuddwylio a alluogir gan AI, mae gweithleoedd yn cyflwyno systemau ‘gwneud penderfyniadau awtomataidd’ (ADM) sy’n effeithio ar annibyniaeth gweithwyr, ansawdd gwaith a llwythi gwaith.

Dywedodd gwas sifil a oedd yn delio â materion gwaith achos sensitif gan ddinasyddion fod ADM yn cael yr effaith o roi mwy o bwysau ar y gweithwyr, yn hytrach na’i liniaru.

Dywedwyd nad oedd prosesau olrhain bras y system yn ystyried agweddau ansoddol ar wahanol waith achos. Mae'r system yn “cofnodi pan fyddwch chi’n dechrau darn o waith a phan fyddwch chi’n gorffen darn o waith, ond nid y cyfnod yn y canol pan rydych chi’n ystyried yr ochr gyfreithiol fanwl”.

Roedd rheolwyr wedyn yn gorfodi gweithwyr i ymgysylltu â phrosesau disgyblu a rheoli perfformiad yn seiliedig ar y data gor-syml hwn, gan honni bod gweithwyr yn cymryd mwy o amser na’r angen heb y cyd-destun angenrheidiol.

Dywedodd un cyn-weithiwr mewn cwmni trydan ei fod ef a channoedd o gydweithwyr eraill wedi cael eu diswyddo gan eu cyflogwr a ddefnyddiodd ddadansoddiad algorithmig i lywio’r penderfyniadau ynghylch dileu swyddi:

“Dywedodd y rheolwyr ‘rydym wedi defnyddio’r algorithm o’r blaen, mae wedi’i brofi, ac mae’n gywir iawn yn ei ragfynegiadau’. Ond yr hyn rwy’n ei glywed yw eu bod yn sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad enfawr. Maent yn awr yn edrych ar recriwtio pobl eto”.

Dywedodd staff mewn ffatri weithgynhyrchu, a oedd yn fedrus iawn wrth ddefnyddio peiriannau, bod AI yn cael ei ychwanegu at beiriannau awtomataidd sy’n heneiddio, gyda’r canlyniad nad oedd bob amser yn gweithio:

“Os yw’r system AI newydd yn dod ar draws problem,” meddai un gweithiwr, “mae wedyn yn gofyn i aelod staff gymryd yr awenau. Unrhyw bryd y byddai’n dod ar draws rhywbeth anghyfarwydd, byddai’n dweud ‘gallwch ei gael yn ôl nawr.’”

Roedd yr achosion hyn yn dangos thema sy’n codi dro ar ôl tro o’r grwpiau ffocws, sef nad yw rheolwyr a chyflogwyr yn aml yn deall yn llwyr beth yw’r technolegau a’r ffordd y maent yn cael eu defnyddio gyda phrosesau gwaith.

P'un a yw AI yn cynhyrchu testun a delweddau, yn monitro gweithwyr neu'n gwneud penderfyniadau, mae'n cael effaith sylweddol ar bob maes gwaith.  Bydd rhai o'r rhain yn ymwneud â swyddogaethau rheoleiddio Llywodraeth Cymru a'i chyrff noddedig. Mae pryder darlithwyr addysg bellach am asesu gwaith cwrs yn enghraifft o hyn. Gallai fod yn fater i Gymwysterau Cymru ei ystyried.

Mae'n debygol y bydd achosion eraill yn codi mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus datganoledig. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru a'r WPC yn ystyried effaith AI ar reoleiddio datganoledig sy'n gysylltiedig â'r gweithle, er enghraifft mewn addysg ac iechyd.

Awtomeiddio’r broses o wneud penderfyniadau
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now