Toggle high contrast
Mewn gwrthgyferbyniad, dywedodd cynrychiolwyr undebau mewn sectorau eraill fod AI yn dwysáu hen bryder i weithwyr: cuddwylio ac amhariadau ar ymreolaeth a phreifatrwydd.

Dywedodd gwas sifil ei fod o'r farn bod cuddwylio yn y gweithle sy’n seiliedig ar feddalwedd yn cael ei

“yrru gan ddiffyg ymddiriedaeth mewn staff, a phwysau ar gyllidebau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bawb weithio’n galetach byth”.

Dywedodd ei fod yn cael effaith wrthgynhyrchiol ar forâl gweithwyr.

Dywedodd un o weithwyr cwmni dosbarthu mawr:

Cuddwylio gweithwyr â phŵer AI

“Mae fy nghydweithwyr wedi gweld technoleg yn cael ei defnyddio’n ormodol er mwyn gwella perfformiad. Erbyn hyn, mae gweithwyr yn cael dyfeisiau electronig sy’n cynnwys traciwr GPS. Os byddwn ni’n stopio gweithio am funud, bydd dot melyn yn ymddangos ar fap – ac mae rheolwr yn cael gwybod am hynny.”

Cyfeiriodd y cynrychiolydd at y modd yr oedd cuddwylio electronig yn cael effaith ddad-ddyneiddiol ar weithwyr, gyda mesurau disgyblu annheg yn cael eu cymryd oherwydd bod systemau seiliedig ar ddata yn methu â deall materion cyd-destunol:

“Mae’n bosibl bod rhesymau da iawn dros stopio gweithio am funud. Er enghraifft, gallech chi fod yn siarad â chwsmer. Mae’r system newydd yn golygu bod pobl yn gallu cael eu galw i mewn am sgwrs a chael gwybod eu bod ‘wedi stopio gweithio am bymtheg munud dros yr wythnos; i bob pwrpas, doeddech chi ddim yn gweithio bryd hynny’. Gofynnir iddyn nhw gyfiawnhau eu hunain.”

Yn ôl gweithwyr ar safle gweithgynhyrchu mawr, mae hyn hefyd yn bresennol mewn arferion Adnoddau Dynol sy’n dad-ddyneiddio’r gweithle:

“Y risg yw ein bod yn colli'r elfennau dynol mewn adnoddau dynol trwy awtomeiddio a gweithio o bell. Nid oes unrhyw hyblygrwydd, dim amwysedd. Yr honiad yw nad yw cyfrifiaduron yn gwneud camgymeriadau, ond maen nhw’n gallu cael pethau’n anghywir. Maent yn gwneud yr hyn a ddywedir wrthynt. Does dim elfen ddynol yno.”

Yn 2022, rhybuddiodd y TUC fod risgiau o ran AI a thechnoleg cuddwylio ymwthiol ar gyfer gweithwyr yn “mynd allan o reolaeth” heb reoleiddio cryfach i ddiogelu gweithwyr. Dangosodd arolygon a gynhaliwyd gan Britain Thinks fod 60% o ymatebwyr yn credu eu bod wedi bod yn destun rhyw fath o guddwylio a monitro yn eu swydd bresennol neu ddiweddaraf.

Yn 2021, adroddodd Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Ddyfodol Gwaith ar effaith cuddwylio ar weithwyr, gan ganfod bod

“monitro treiddiol a thechnolegau gosod targedau, yn benodol, yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol amlwg ar lesiant meddyliol a chorfforol wrth i weithwyr brofi pwysau eithafol micro-reoli cyson, amser real ac asesu awtomataidd.”

Cuddwylio gweithwyr â phŵer AI
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now