Toggle high contrast

Mae nifer o gynrychiolwyr a swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn negodi polisïau a chytundebau newydd ynghylch gweithio gartref o ganlyniad i’r newidiadau mawr a gafwyd yn sgil y pandemig COVID-19. Bydd rhai o’r pynciau canolog yn y negodiadau hyn yn ymwneud hefyd â’r defnydd o dechnoleg. Mae rhai enghreifftiau isod o’r hyn sydd wedi’i negodi eisoes yn y maes hwn.

Enghraifft: Cytundeb gweithio o bell yng ngwasanaethau cyhoeddus Sbaen

Mae ffederasiynau undebau gwasanaethau cyhoeddus FSC-CCOO a FeSP-UGT yn Sbaen wedi llofnodi cytundeb newydd ar weithio o bell sy’n cynnwys 2.5 miliwn o gyflogeion y sector cyhoeddus. Mae’r cytundeb yn cynnwys yr egwyddorion sylfaenol y dylai trefniadau gweithio o bell fod yn wirfoddol a gwrthdroadwy ac yn destun amodau ar ddarpariaethau allweddol ar iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, tryloywder a gwrthrychedd. Mae’r cytundeb yn diogelu hawliau cyflogeion yn ogystal â gwarantu gwasanaethau i ddinasyddion. Rhai elfennau pwysig eraill yw ‘hawl i ddatgysylltu’, diogelu data a’r hawl i breifatrwydd.

Enghraifft: Gweithio o bell yn Cyllid a Thollau EM

Mae undeb PCS wedi dod i gytundeb newydd yn ddiweddar â Cyllid a Thollau EM sy’n cynnwys ‘ymagwedd flaengar’ at weithio o bell. Bydd contractau newydd yn rhoi hawl i’r holl gyflogeion weithio gartref ar o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos. Mae Lorna Merry yn PCS yn dweud bod Cyllid a Thollau EM hefyd wedi cytuno i ymgynghori ag undebau ar newidiadau mewn amodau gweithio yn y dyfodol. “Er ein bod ni wedi cytuno ar rai newidiadau mewn arferion gweithio, drwy ein negodiadau â Cyllid a Thollau EM, rydyn ni wedi sicrhau mesurau lliniaru a diogelu ar gyfer aelodau sy’n cael eu heffeithio.”

Enghraifft: Cytundeb CWU a Santander ar ffyrdd newydd o weithio

Torrwyd tir newydd mewn cytundeb rhwng CWU a Santander ar ddulliau newydd blaengar ac arloesol o weithio yn y cyfnod ar ôl y pandemig COVID.

Mae’r cytundeb yn cadw swyddi ac yn osgoi diswyddo gorfodol a fyddai wedi bod yn anochel fel arall wedi i Santander gyhoeddi ei fod yn cau nifer mawr o swyddfeydd.

Cyflwynir contractau ‘dau leoliad’ newydd a fydd yn caniatáu gweithio gartref yn bennaf ar gyfer mwyafrif y cyflogeion ar safleoedd sy’n cau neu’n cyfuno, ond bod gofyn iddynt fynychu ‘canolfan gydweithio’ gyfagos yn rheolaidd. Ar yr un pryd, mae buddiannau’r rheini na allant weithio gartref wedi cael eu diogelu hefyd ar ôl cytuno ar broses rhwng yr undeb a’r banc i sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi wrth ddyrannu lle mewn swyddfeydd i’r rheini sydd mewn amgylchiadau eithriadol. Mae’r cytundeb yn cynnwys y cymalau canlynol:

  • Cymhelliad ariannol ar gyfer trefniadau ‘dau leoliad’ sy’n cynnwys cyfandaliad gros untro o £500 (ar yr un lefel ar gyfer cyflogeion rhan-amser) ar gyfer graddau S1/G1 a S2/G2 (a graddau cyfatebol yn Santander Technology) cyn blwyddyn gyntaf y trefniadau ffurfiol ar gyfer gweithio mewn dau leoliad. Ei bwrpas yw galluogi unigolion (yn cynnwys gweithwyr rhan-amser) i greu gweithfan addas yn y cartref – er y bydd y banc yn darparu cadair a’r holl gyfarpar TG.
  • Ar ôl y flwyddyn gyntaf, telir lwfans gros o £500 y flwyddyn drwy daliadau misol (yn ôl y gyfradd ar gyfer gweithwyr rhan-amser) ar gyfer graddau S1/G1 a S2/G2 (a graddau cyfatebol yn Santander Technology) i ddeiliaid contractau ‘dau leoliad’ ar ôl y flwyddyn gyntaf o weithio o dan y trefniadau newydd.
  • Cyflwyno ‘Siarter Dau Leoliad’ newydd a fydd yn gosod terfynau pendant ac yn darparu cymorth ar gyfer gweithio gartref a fydd yn cyd-fynd â rhaglen les flaengar bresennol y banc ‘sydd gyda’r gorau yn y diwydiant’.

Mae’r cytundeb yn cynnig dewis gwirioneddol i gyflogeion ynghylch eu dyfodol wrth i’r banc ddechrau ar newid hanesyddol i fodel gweithredu sy’n seiliedig ar weithio gartref yn bennaf ar gyfer y rheini a effeithir gan y newidiadau a gyhoeddwyd yn ei ystad eiddo.

Yn ôl swyddog cenedlaethol CWU Sally Bridge: “Mae tîm cenedlaethol yr undeb ar gyfer Santander yn credu’n bendant nid yn unig ein bod ni wedi cyflawni’r amcan hwnnw ond ein bod ni hefyd, wrth wneud hynny, wedi negodi nifer o ddewisiadau, mesurau diogelu a lwfansau ad-daliadol ar gyfer gweithwyr cymwys sydd gyda’i gilydd yn becyn arloesol sy’n gosod meincnod cwbl newydd ar gyfer mesurau sy’n diogelu gweithwyr, a ninnau ar drothwy cyfnod y ‘normal newydd’ pan fyddwn ni’n debygol o weld datblygiadau tebyg ar draws yr economi.”

Enghraifft: Cytundeb, telerau hyblyg a chyfraddau ‘ar alwad’ sefydlog EVG

Mae’r cytundeb Arbeit 4.0 yn rheoleiddio’r egwyddorion a’r fframweithiau ar gyfer gweithio symudol. Mae’n datgan bod hawl gan bob gweithiwr, mewn egwyddor ac ar sail wirfoddol, i ymgymryd â gweithio symudol neu weithio symudol bob yn ail â gweithio mewn lleoliad penodol. Er hynny, rhaid i’r gweithiwr gadw porth gweithredol ar gyfer cyfathrebu. Mae tri math o weithio symudol:

  • Gweithio gartref bob yn ail â gweithio mewn lleoliad penodol (gweithio gartref am ran o’r amser ar sail wirfoddol)
  • Gweithio symudol (ar wahanol leoliadau ar sail wirfoddol, lle mae’r gweithle gweithredol yn ganolbwynt)
  • Gweithgareddau symudol a drefnir gan y cwmni (yn gyfan gwbl neu’n rhannol mewn gwahanol leoliadau a bennir gan y cwmni).

Mae’r cytundeb hefyd yn safoni cyfraddau isafswm tâl ar gyfer gwaith ‘ar alwad’ ac yn datgan:

  • Na ddylid amharu ar faterion gweithredol er anfantais broffesiynol i’r cyflogai.
  • Bydd y cyflogwr yn darparu’r dyfeisiau symudol sydd eu hangen.

Lle mae’r gweithle y tu allan i safleoedd y cwmni, rhaid iddo fod yn addas ar gyfer cyflawni gwaith, h.y. rhaid sicrhau bod data a chyfrinachedd wedi’u diogelu.

Gweithio o bell
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now