Toggle high contrast

Un o’r pryderon mwyaf ynghylch technoleg newydd yw bod data am weithwyr yn cael eu casglu’n annheg a bod hyn yn arwain at fwy o fonitro a gwyliadwriaeth gan gyflogwyr. Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod nifer cynyddol o weithwyr sydd â’u holl symudiadau yn y gwaith yn cael eu tracio, er nad yw nifer mawr ohonynt yn gwybod bod hynny’n digwydd hyd yn oed. Un enghraifft yw’r defnydd o deledu cylch cyfyng ond, yn ogystal â hyn, ceir meddalwedd sy’n mesur trawiadau ar fysellfwrdd a mathau eraill o feddalwedd sy’n monitro gweithgarwch ar gyfrifiaduron, ‘technoleg wisgadwy’ ac algorithmau a ddefnyddir fel offer ‘rheoli’.

Heb fod cytundebau wedi’u gwneud, mae llawer o’r gwaith gan undebau yn y maes hwn wedi bod o natur adweithiol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, y gwrthwynebiad gan GMB i gyflwyno technoleg ymyrgar i dracio swyddogion diogelwch Churchill, ac Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr yn atal y Telegraph rhag defnyddio synwyryddion gwres a symud i fonitro’r amser y mae newyddiadurwyr yn ei dreulio wrth eu desgiau.

Mae’r undebau addysg UCU, NASUWT a NEU hefyd wedi annog eu canghennau i sicrhau cytundebau ynghylch y newid i ddysgu cyfunol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion a ddigwyddodd yn ystod y pandemig. Roeddent am sicrhau bod cymorth a hyfforddiant digonol ar gyfer defnyddio’r dechnoleg, na fyddai’r llwyth gwaith yn cynyddu ac na fydd yr un aelod staff yn cael ei recordio neu ei arsylwi heb gael caniatâd. Yng nghyd-destun sesiynau hyfforddi a recordir yn benodol, mae ystyriaethau’n codi o ran diogelu data a hawliau eiddo deallusol.

Y prif egwyddorion a gytunwyd gan undebau mewn perthynas â data a thechnoleg newydd yw y dylid diogelu data gweithwyr, a’u cofnodi drwy gydsyniad yn unig ac y dylid cadw preifatrwydd gweithwyr.

Mae undeb Prospect yn argymell bod cynrychiolwyr undeb yn cymryd rhan mewn Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIAs) wrth gyflwyno unrhyw ddulliau newydd o gasglu data personol gweithwyr – mae dyletswydd ar y cyflogwr i gynnal asesiad o’r math hwn o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Mae Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU wedi datgan bod ymgynghori â thestunau data yn rhan allweddol o’r broses hon. Dylai cynrychiolwyr a swyddogion undeb ofyn i gyflogwyr a ydynt yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran cynnal DPIAs a chael cadarnhad am unrhyw DPIAs sydd wedi’u cynnal mewn perthynas â phrosesu data personol gweithwyr. Gallant hefyd ofyn am gael eu hysbysu a’u cynnwys wrth gynnal unrhyw DPIAs yn y dyfodol.

Enghraifft: Cadw data personol yn breifat yn y Post Brenhinol

Mae CWU wedi cytuno na fydd y system adnoddau dynol awtomataidd newydd yng Ngrŵp y Post Brenhinol, sy’n cynnwys y defnydd o gardiau clyfar, yn cael ei defnyddio i gasglu rhagor o ddata am weithwyr. Mae’r cylch gorchwyl yn nodi:

“Mae’r ddau barti’n cydnabod bod y camau ymlaen yng ngallu technoleg o’r math hwn wedi trawsnewid tryloywder ein gweithredoedd ym mywyd gwaith pob dydd. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd ar gyfer arloesi wrth ganfod anghenion am hyfforddi a ffyrdd o wneud gweithrediadau’n fwy effeithlon, ond mae hefyd yn creu pryderon gwirioneddol ymysg cyflogeion mewn perthynas ag ymyrgarwch a phreifatrwydd yr unigolyn. Felly ailddatgenir y bydd yr holl ddefnydd o ddata’n llwyr gydymffurfio â thelerau Adran 17 o Gytundeb y Pedair Colofn.

Ni fydd symudiadau staff rhwng mannau gwaith neu dasgau yn cael eu monitro na’u cofnodi gan y galedwedd cofnodi oriau gwaith.

Ni chesglir data mewn perthynas â thasgau a gyflawnir neu gynhyrchiant unigolion.

Lle y mae toiledau/cyfleusterau lles y tu allan i lawr y gwaith, ni chedwir cofnodion o nifer neu hyd yr ymweliadau gan unrhyw aelod staff penodol.”

Enghraifft: Diogelu data yng nghytundeb Arbeit 4.0 EVG/DB

Yn y cydgytundeb Arbeit 4.0 a wnaeth EVG, mae gwaharddiad penodol ar ‘reolaeth fecanyddol ar berfformiad ac ymddygiad’ ac mae’r telerau’n mynd yn bellach na chyfreithiau diogelu data yn yr Almaen.

Diogelu data gweithwyr
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now