Mae’n debyg eich bod wedi gweld yr adroddiadau yn y newyddion – mae’r cyfyngiadau o amgylch y byd wedi arwain at gynnydd mewn cam-drin domestig. Mae’n gyfnod brawychus i unrhyw un sy’n profi cam-drin. Efallai eich bod yn poeni am rai o’ch aelodau, cydweithwyr, ffrindiau neu aelodau eich teulu.
Mae mesurau i atal ymlediad coronfeirws yn golygu bod llawer o bobl wedi’u hynysu adref yn awr gyda rhywun sy’n eu cam-drin. Mae’n bosibl y bydd tensiynau ychwanegol hefyd yn y cartref, er enghraifft pryderon ariannol cynyddol. Er, wrth gwrs, ni all y rhain fyth fod yn esgus dros gam-drin.
Mae ynysiad, cadw pellter cymdeithasol a’r ofn sy’n cael ei greu gan y feirws yn darparu cyfleoedd newydd i gamdrinwyr ddychryn a rheoli partneriaid. Mae’r ffactorau hyn yn cynyddu’r risg o drais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Gall hefyd ei gwneud yn anoddach i oroeswyr gael mynediad at rwydweithiau diogelwch a chymorth.
Wrth i’r mesurau cyfyngiadau gael eu llacio, mae’n bosibl y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n ceisio gadael sefyllfaoedd ymosodol yn y cartref. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gan y gweithle yn ystod y cyfnod hwn.
Gall cam-drin domestig effeithio ar unrhyw un a gall fod ar sawl ffurf.
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn diffinio cam-drin domestig fel: “un unigolyn yn rheoli unigolyn arall mewn perthynas bersonol neu deuluol agos; gall y cam-drin fod yn rhywiol, corfforol, ariannol, emosiynol neu seicolegol.”
Mae enghreifftiau o gam-drin yn cynnwys:
Dilorni, sarhau, neu fychanu rhywun gyda geiriau – ar eu pen eu hunain neu o flaen eraill.
Unrhyw fath o drais yn erbyn rhywun gan gynnwys gwthio, taro, pwnio, cicio, tagu neu ddefnyddio arfau.
Ceisio cyfyngu pwy y mae rhywun yn ei weld neu’n siarad gyda hwy. Eu hatal rhag cymdeithasu gyda ffrindiau neu deulu.
Tanseilio neu ddylanwadu ar rywun drwy’r amser, er mwyn iddynt amau eu callineb eu hunain neu maent yn dechrau meddwl mai hwy yw’r broblem.
Cymryd rheolaeth dros arian rhywun i’w hatal rhag cael arian a chyfyngu eu hannibyniaeth.
Cymell neu orfodi rhywun i gael rhyw pan nad ydynt eisiau (treisio), cyffwrdd neu deimlo, gorfodi rhywun i wylio pornograffi.
Sarhau neu fygwth rhywun drwy’r cyfryngau cymdeithasol, negeseuon, neu e-bost.
Er enghraifft anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod.
Gall cam-drin domestig ddigwydd i unrhyw un, ond mae rhyw’r dioddefwr a’r cyflawnwr yn dylanwadu ar y risg, difrifoldeb a’r niwed a achosir. Mae tua 1 o bob 3 o ferched yn profi cam-drin domestig yn ystod eu bywydau.
Gan amlaf, y cyflawnwr yw partner neu gynbartner. Ond gall aelodau eraill o’r teulu neu ofalwyr gyflawni cam-drin domestig hefyd,
Er y gall unrhyw un gael eu heffeithio, gall fod risgiau a rhwystrau gwahanol i bobl o wahanol grwpiau. Er enghraifft:
Mae rhai pobl yn ystyried cam-drin domestig fel mater personol neu breifat. Ond mewn gwirionedd gall effeithio ar bob agwedd ar fywyd person ac, fel undebwyr llafur, gwyddom fod hyn yn cynnwys eu bywyd gwaith.
Gall hyn gael effaith ehangach hefyd ar gydweithwyr. Mewn rhai achosion, gall camdriniaeth a bygythiadau gorlifo i’r gweithle. Neu mae’n bosibl bod y camdriniwr a’r dioddefwr/goroeswr yn gweithio yn yr un gweithle.
Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gofal i weithwyr. Felly, mae’n bwysig eu bod yn cydnabod cam-drin domestig fel mater difrifol y gallant hwy gyfrannu i’w helpu i’w hatal.
Gall arwyddion cam-drin fod yn gynnil, yn arbennig oherwydd gall pobl ymdrechu’n galed iawn i’w cuddio. Mae hyn yn aml oherwydd ymdeimlad o stigma neu ofn. Gall fod yn fwy anodd i sylwi ar yr arwyddion rhybudd ar hyn o bryd gyda chymaint o bobl yn gweithio gartref a’r arferion arferol wedi’u tarfu. Ond efallai y byddwch yn sylwi ar ymddygiad rhywun neu effaith ar bethau fel patrymau cyfathrebu a pherfformiad gwaith.
Gall y gweithle fod yn lleoliad seibiant i bobl sy’n profi camdriniaeth yn y cartref. I’r rhai sy’n gweithio gartref yn awr ac nad ydynt yn gallu cyfarfod â ffrindiau a’u teulu ehangach oherwydd mesurau cyfyngiadau symud, mae’n anoddach fyth i bobl gael cymorth. Gall rhai deimlo mewn mwy o berygl adref.
Mae’n bosibl mai rheolwyr llinell, cydweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur fydd cyswllt mwyaf rheolaidd rhywun y tu allan i’r cartref. Gallant hwy helpu drwy sylwi ar yr arwyddion a darparu cymorth. Mae’n bwysig yn ystod y cyfnod hwn, bod cyflogwyr yn gwneud popeth yn eu gallu i gefnogi gweithwyr a allai fod wedi’u heffeithio gan y mater hwn.
Wrth i’r mesurau cyfyngu gael eu llacio mae’n bosibl y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n ceisio gadael sefyllfaoedd ymosodol yn y cartref. Gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt gan y gweithle yn ystod y cyfnod hwn.
Fel cynrychiolydd undeb, gallwch chi fod yn bwynt cyswllt i aelodau a’u helpu i gael mynediad at gymorth. Hefyd, mae yna bethau y gallwch ofyn i’ch cyflogwr eu gwneud i gefnogi gweithwyr sy’n profi cam-drin domestig.
Mae gan bob cyflogwr rwymedigaeth i ddiogelu eu cyflogeion rhag camdriniaeth yn y gwaith. Mae ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i hyrwyddo lles a diogelwch pob aelod o staff. Nodir hyn o dan
Yng Nghymru, mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswyddau o dan Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) (VAWDASV). Mae’r gyfraith hon yn ceisio hyrwyddo ymateb ar y cyd gan y sector cyhoeddus, arweinyddiaeth gryfach a ffocws mwy cyson ar y ffordd mae’r materion hyn yn cael eu trin yng Nghymru. Yn ogystal â darparu fframwaith o gymorth i ddioddefwyr/goroeswyr camdriniaeth, mae’n ceisio atal y gamdriniaeth rhag digwydd o gwbl.
Mewn rhai gweithleoedd, mae undebau wedi trafod polisïau penodol ar gyfer y gweithle ar gam-drin domestig. Neu weithiau gwneir darpariaeth o dan y polisïau iechyd a diogelwch, cydraddoldeb, urddas yn y gwaith, absenoldeb presennol neu bolisïau eraill.
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru’n datgan y dylai bod gan bob cyflogwr gwasanaethau cyhoeddus bolisi yn y gweithle ar VAWDASV a’u bod yn rhoi ystyriaeth i bolisi penodol sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig. Dylai polisïau ddarparu arweiniad ar weithdrefnau ar gyfer rheolwyr llinell a chydweithwyr pan fydd pryderon wedi’u codi ynghylch cam-drin domestig, yn ogystal â disgwyliadau swyddogol mewn cysylltiad ag ymddygiad ymosodol.
Gall cynrychiolwyr undebau weithio gyda chyflogwyr i gyflwyno polisïau newydd pan na fydd rhai’n bodoli neu addasu trefniadau presennol os bydd angen unrhyw newidiadau mewn ymateb i faterion penodol a gyflwynir gan y pandemig Covid-19.
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi cynhyrchu canllaw ymarferol i reolwyr ar ddarparu cymorth yn ystod y pandemig.
Gall polisi yn y gweithle ar gam-drin domestig helpu i ddangos yn glir i weithwyr y cymorth sydd ar gael a gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus yn datgelu camdriniaeth a cheisio cymorth.
Ymhlith y meysydd allweddol o gymorth y gellir eu negodi fel rhan o bolisi’r gweithle, mae:
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllaw ar gyfer datblygu polisi effeithiol i gyflogwyr yng Nghymru.
Gallwch siarad gyda’ch undeb i weld a oes ganddynt unrhyw ganllawiau neu adnoddau, gan gynnwys enghreifftiau o bolisïau model, sydd ar gael.
Mae nifer o undebau wedi datblygu canllawiau ac enghreifftiau o bolisïau enghreifftiol y gweithle ar gam-drin domestig. Er enghraifft, mae UNSAIN wedi datblygu canllaw manwl sy’n cynnwys rhestr wirio a pholisi enghreifftiol, ac mae’r UCU a’r GMB wedi cynnwys polisïau enghreifftiol.
Os ydych yn credu bod ymddygiad rhywun yn anarferol, mae’n well holi yn hytrach na thybio. Ystyriwch y defnydd o gwestiynau caeedig (cwestiynau y gallant ateb “ie” neu “na” iddynt) rhag ofn y bydd rhywun arall yn gwrando.
Bydd pobl yn ymddwyn yn wahanol oherwydd y cadw pellter cymdeithasol, ynysiad a gorbryder, ond mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r posibilrwydd o gam-drin.
Byddwch yn wyliadwrus o newidiadau i ymddygiad neu newidiadau i batrymau cyfathrebu arferol, mae’n well holi mewn ffordd sensitif yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau.
Dyma rai o’r arwyddion i gadw golwg amdanynt a allai eich helpu i adnabod camdriniaeth:
Fel arfer yn weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol, maent yn anarferol o dawel yn awr. Mae rheoli neu ddileu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ddull rheoli a ddefnyddir yn aml gan gamdrinwyr.
A ydynt wedi trafod cenfigen, natur reoli eu partner yn y gorffennol, neu gamddefnydd o sylweddau yn y gorffennol?
A yw eu personoliaeth wedi newid, a ydynt yn ymddangos yn ddistaw ac yn llai hyderus nac arfer?
Os ydych wedi’u gweld yn rhithwir neu mewn person, a ydynt yn ymddangos yn anarferol o flêr neu a oes ganddynt unrhyw anafiadau anesboniadwy?
Wrth gwrs, mae llawer ohonom yn fwy blêr, wrth i’n harferion ddiflannu, ac efallai ein bod yn dioddef hwyliau isel, ond mae’r rhain yn parhau i fod yn arwyddion i gadw golwg amdanynt.
Maent yn gwneud esgusodion dro ar ôl tro ac nid ydynt ar gael ar gyfer galwad neu we sgwrs. Efallai eich bod hyd yn oed wedi sylwi ar newid yn arddull eu negeseuon testun neu e-bost?
Mae’n ymddangos bod angen iddynt gadarnhau gyda rhywun neu ofyn eu caniatâd cyn y gallant gyfathrebu. Maent yn orbryderus ynglŷn â phlesio eu partner.
A yw eu partner yn torri ar draws neu’n amharu ar alwadau neu sgyrsiau fideo? A oes unrhyw fathau eraill o ymddygiad sy’n ymddangos fel ymddygiad rheoli?
Cadwch mewn cysylltiad. Wrth i’r mesurau cyfyngiadau symudiadau a chadw pellter cymdeithasol barhau i fod mewn grym, gellir gwneud hyn drwy alwadau fideo neu ffôn rheolaidd, neu drwy negeseuon e-bost neu destun os yw hyn yn ddull mwy diogel. Byddwch yn ofalus a sensitif.
Efallai na allant siarad yn ddiogel, neu efallai nad ydynt yn teimlo’n barod i siarad am yr hyn sy’n digwydd iddynt. Ond bydd sgyrsiau cyffredinol a negeseuon cyfeillgar yn dangos iddynt eich bod yna iddynt os ydynt yn barod i siarad ar ddyddiad diweddarach. Parhewch i gadw mewn cysylltiad â hwy, mewn ffyrdd sy’n teimlo’n ddiogel, hyd yn oed os nad ydynt eisiau ceisio cymorth eto.
Mae’n cymryd llawer iawn o ddewrder i wneud datgeliad. Byddwch yn ofalus a sensitif ynglŷn â’r ffordd rydych yn cynnig neu’n darparu cymorth. Os bydd rhywun mewn sefyllfa ymosodol, gallai fod yn anodd iawn iddynt ei gadael. Efallai nad ydynt yn gallu gadael. Hwy sy’n adnabod eu sefyllfa orau, felly dylech gael eich arwain ganddynt hwy.
Gall Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ddarparu cymorth i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol. Gallant ddarparu cyngor hefyd i’r rhai sy’n poeni am gydweithiwr, ffrind neu aelod o’r teulu. Mae eu llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gallant ddarparu cyngor a chymorth hefyd drwy:
Nid yw’r cyfyngiadau symudiadau a gyflwynwyd yn ystod y pandemig yn berthnasol mewn sefyllfaoedd pan fydd angen i bobl adael eu cartrefi eu hunain i geisio cymorth oherwydd cam-drin domestig.
Os byddant yn datgelu cam-drin domestig difrifol, dylech eu hannog i ffonio 101, neu 999 os yw’r sefyllfa’n ddifrifol iawn. Os yw rhywun mewn perygl a bod angen help arnynt ar unwaith, gallant wneud galwad ‘mud’ i’r gwasanaethau brys. Gallant ddeialu 999 a phwyso ‘55’ pan fydd y cysylltydd ffôn yn ateb i nodi bod angen help arnynt ond na allant siarad.
Byddwch yn sensitif bob amser i’r sefyllfa a chofio nad yw dianc rhag y camdriniwr yn opsiwn o bosibl. Gallwch roi cyngor i bobl ar sut i gadw eu hunain yn ddiogel a lleihau’r risg o drais. Gallant:
Mae yna rai pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi ar gyfer sut y byddwch yn cynnig cymorth:
Mae Cymorth i Ferched Cymru wedi cynhyrchu pecyn cymorth ar gyfer gwylwyr COVID-19 sy’n gynnwys gwybodaeth bellach a chyngor ymarferol ar sut i gefnogi rhywun sy’n profi camdriniaeth.
Mae llinell ffôn Respect yn darparu cymorth am ddim i helpu cyflawnwyr i ddewis rhoi’r gorau iddi. Mae ganddynt linell ffôn am ddim sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 0808 802 4040.
Gall y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ddarparu cymorth i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol. Gallant ddarparu cyngor hefyd i’r rhai sy’n poeni am gydweithiwr, ffrind neu aelod o’r teulu. Mae eu llinell gymorth ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar 0808 80 10 800.
Gallwch gael cyngor a chymorth hefyd drwy:
• Testun ar 07860077333
• Gwe sgwrs ar bywhebofn.org.uk
• E-bost info@livefearfreehelpline.wales
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i ddiddymu cam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn merched. Maent wedi cynhyrchu pecyn cymorth gwylwyr COVID-19 ac mae ganddynt wybodaeth a chymorth ar eu gwefan ar gyfer unrhyw un sydd angen help a’r rhai sy’n poeni am rywun arall.
Mae Bawso yn darparu gwasanaethau arbenigol i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME). Maent yn cefnogi pobl BME yng Nghymru sy’n profi cam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod, masnachu pobl. Mae ganddynt linell gymorth 24 awr 0800 731 8147
Mae Dyn Wales yn darparu cymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thraws sy’n profi cam-drin domestig gan bartner: 0808 801 0321
Mae canllawiau diogelu Llywodraeth Cymru ar gael yma. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau hanfodol i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin ac esgeulustod. Mae yna hefyd Ap Diogelu Cymru Gyfan ar gael ar Google Play a fersiwn ar yr App Store
Mae New Pathways yn darparu Canolfannau Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCS). Yn aml, gall dioddefwyr trais ac ymosodiadau rhywiol deimlo nad oes llawer o ddewisiadau ar gael iddynt ac maent yn credu y bydd dweud wrth rywun beth sydd wedi digwydd iddynt yn golygu y bydd digwyddiadau’n mynd y tu hwnt i’w rheolaeth yn gyflym. Mae gwasanaethau SARC yn canolbwyntio’n llwyr ar y cleient ac maent wedi’u cynllunio i sicrhau bod cleientiaid yn derbyn y wybodaeth gywir i’w galluogi i wneud eu dewisiadau eu hunain ynglŷn â beth sy’n digwydd nesaf. Mae hyn yn cynnwys gallu cyfeirio eu hunain i SARC a derbyn cymorth ar unwaith heb orfod cysylltu â’r heddlu. Ffôn: 01685 379 310; e-bost enquiries@newpathways.org.uk
Mae Respect yn darparu cymorth i helpu cyflawnwyr i reoli eu hymddygiad. Maent hefyd yn darparu cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd a phobl ifanc sy’n profi trais mewn perthnasoedd agos: 0808 8024040
Mae’r Mens Advice Line yn llinell gymorth gyfrinachol i ddioddefwyr gwrywaidd cam-drin domestig a’r rhai sy’n eu cefnogi. Gellir cysylltu â hwy ar 0808 801 0327.
Os ydych yn aelod o’r gymuned LGBT+, mae gan Galop linell gymorth arbenigol ar 0800 999 5428 neu gallwch anfon e-bost i help@galop.org.uk
Os ydych yn poeni am sut y gallai’r coronafeirws fod yn effeithio ar eich sefyllfa ariannol a’ch gadael yn agored i gam-drin economaidd, gweler y cyngor gan Drysorlys Ei Mawrhydi ar y cymorth sydd ar gael. Mae’r elusen Surviving Economic Abuse hefyd wedi darparu canllawiau a chymorth ychwanegol.
Llinell gymorth gyfreithiol genedlaethol cyfraith teulu: 020 7251 6577 neu www.rightsofwomen.org.uk
Mae Hestia yn darparu ap symudol am ddim i’w lawrlwytho, Bright Sky, sy’n darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un a allai fod mewn perthynas
Mae Chayn yn darparu cymorth ac adnoddau mewn nifer o ieithoedd, gan amrywio o nodi sefyllfaoedd ystrywgar a sut y gall ffrindiau gynorthwyo’r rhai sy’n cael eu cam-drin.
Gall Uned Priodas Dan Orfod y Swyddfa Gartref (FMU) gynnig cyngor os ydych yn ceisio atal priodas dan orfod neu os angen cymorth arnoch i adael priodas yr ydych wedi’ch gorfodi iddi. Mae ganddynt linell cymorth: 020 7008 0151 a gellir cysylltu â hwy ar fmu@fco.gov.uk.
Mae gan yr elusen blant, NSPCC dudalen gwe a llinell gymorth am ddim ar gyfer unrhyw un sy’n poeni bod plentyn mewn perygl o, neu sydd eisoes wedi cael Anffurfio Organau Cenhedlu Benywaidd (FGM). Ffôn: 0800 028 3550 neu e-bost fgmhelp@nspcc.org.uk.
Mae SafeLives yn darparu canllawiau a chymorth i weithwyr proffesiynol a’r rhai sy’n gweithio yn y sector cam-drin domestig, yn ogystal â chyngor i’r rhai mewn perygl.
Domestic violence and the workplace
Ein hadroddiad ar effaith cam-drin domestig ar fywydau gwaith merched.
Unequal, trapped and controlled
Adroddiad ar y cyd y TUC a Cymorth i Ferched ar brofiad merched o gam-drin ariannol.
Adroddiad ETUC ar strategaethau undebau llafar i atal, rheoli a dileu trais yn erbyn merched.