Partneriaeth gymdeithasol gryfach

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus wedi cael ei gyhoeddi heddiw, sy’n ddechreuad newydd yn y berthynas rhwng undebau, y llywodraeth a chyflogwyr.

Mae’n darparu sail statudol ar gyfer beth sydd wedi dod yn ffordd o weithio unigryw yng Nghymru - gan ddod â gweithwyr i’r maes creu polisïau fel nad yw eu buddion yn cael eu disodli gan fuddion eu cyflogwyr cyfoethog.

Felly, mae partneriaeth gymdeithasol yn ymgais i wella anghydraddoldeb. Mae hyn yn hynod bwysig mewn gwlad lle mae traean o’r plant yn cael eu magu mewn tlodi mae dros un ym mhob wyth o weithwyr yn cael eu dosbarthu yn ansicr. Dylai gwella anghydraddoldeb fel hyn fod yn flaenoriaeth ganolog i’r llywodraeth, ac mae llywodraethau sy’n gwahardd undebau llafur o’r broses benderfynu yn ategu anghydraddoldebau.

Mae’r Bil yn cryfhau’r bartneriaeth gymdeithasol drwy ddod ag undebau i’r broses benderfynu sy’n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (WFGA). Yn y cyrff cyhoeddus y mae’n berthnasol iddynt, mae’n rhaid i’r corff geisio cyfaddawdu neu ddod i gonsensws gyda’i undeb(au) cydnabyddedig ar ei amcanion llesiant a’r camau strategol a fydd ar waith i geisio cyflawni hyn. Bydd Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol - yn cynnwys nifer gyfartal o gynrychiolwyr undebau, cyflogwyr a llywodraeth - yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i lywio’r broses hon ar lefel genedlaethol a rhoi cyngor ar y Targed Llesiant Cymru Llewyrchus. Ac mae’n creu Dyletswydd Caffael Cyhoeddus Cyfrifol yn Gymdeithasol i alinio gwariant caffael y sector cyhoeddus datganoledig ag amcanion strategol yr WFGA, gan gynnwys Gwaith Teg.

Mabwysiadu dull myfyriol o ran partneriaeth gymdeithasol

Mae beirniaid yn bendant o ddweud mai cydweithio dosbarth yw hyn; ei fod yn dod â ni’n llawer rhy agos at y llywodraeth a chyflogwyr. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ofalus iawn amdano fel mudiad, a dyma pam dydy pob undeb llafur ddim mor frwdfrydig am bartneriaeth gymdeithasol. Mae’n golygu ein bod yn mabwysiadu dull myfyriol o ran partneriaeth gymdeithasol, ystyried beth sy’n cyflawni i weithwyr a ble yw’r lle gorau ar gyfer ein hymdrechion.

Ond yn bwysicach na dim, partneriaeth gymdeithasol yw’r cyfeiriad y mae ein mudiad wedi’i fabwysiadu drwy ein proses ddemocrataidd. Yn ein Cyngres y mis diwethaf, bu i undebau ail-gefnogi’r dull partneriaeth gymdeithasol gan ei fod wedi cyflawni ar gyfer gweithwyr.

Mewn gwirionedd, mae hyn yn golygu llywodraeth a wnaeth gymryd iechyd a diogelwch o ddifrif yn ystod y pandemig drwy fandadu asesiadau risg a rhoi cynllun cyflog salwch ar waith i weithwyr gofal cymdeithasol a oedd angen hunanynysu. Mae’n golygu llywodraeth sy’n cydnabod y bydd gweithwyr ar gyflogau is bob amser yn gweld effaith yr argyfwng costau byw. Ac mae’n golygu llywodraeth sy’n gwneud yr hyn y mae’n gallu ei wneud i amddiffyn hawl sylfaenol gweithwyr i ddod yn rhan o undeb ac yn parhau i fuddsoddi i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.

Tra bod Llywodraeth y DU yn parhau i wneud tro gwael â gweithwyr gyda’i ffug addewid o Fil Cyflogaeth, edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r weledigaeth hon ar gyfer partneriaeth gymdeithasol gryfach.