Gamblo Problemus – mater i undebau llafur

Dyddiad cyhoeddi
Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae’r diwydiant gamblo wedi newid yn sylweddol. Ers pasio Deddf Gamblo 2005, mae’r sector wedi tyfu ar raddfa frawychus.

Heb gynnwys y Loteri Genedlaethol, mae’r ffigurau diweddaraf ar elw gamblo dros £14 biliwn (yr elw mae gweithredwyr gamblo yn ei gadw ar ôl talu’r enillion, ond cyn tynnu’r costau gweithredu). Mae hyn yn gynnydd o 60% ers 2010. Un o’r prif elfennau sy’n gyrru’r twf hwn yw technoleg.

Mae haws nag erioed i gamblo

Mae fwy o fynediad nag erioed at gyfleoedd i gamblo. Dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweld twf anferthol mewn gamblo ar-lein. Bellach, mae eich ffôn symudol yn fwci, yn neuadd fingo ac yn gasino yn eich poced. Nawr, gallwch fetio ar unrhyw beth, ar unrhyw adeg o’r dydd ac mewn unrhyw le y mae’ch dyfais yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Does dim modd gwylio’r teledu neu sgrolio drwy’r cyfryngau cymdeithasol heb weld llu o hysbysebion gan weithredwyr gamblo.  
Ochr yn ochr â thwf y diwydiant, mae effeithiau pryderus, ac yn aml, dinistriol, gamblo problemus.

Effaith Gamblo Problemus ar yr unigolyn

Gall niwed canlyniadol gamblo effeithio ar unrhyw un. Gall ddigwydd i unrhyw oedran, i unrhyw ryw ac i bobl o unrhyw gefndir ethnig. Mae’r ymchwil diweddaraf yn frawychus.

Dengys data YouGov diweddar bod gan bron 3% o boblogaeth y DU broblem gamblo – mae hynny’n 1.4 miliwn o bobl. Mae miliynau o bobl eraill yn cael eu heffeithio’n andwyol gan gamblo rhywun arall.

Gall gamblo problemus arwain at deuluoedd yn torri i lawr, problemau iechyd meddwl a gweithgarwch troseddol er mwyn ariannu gamblo gormodol, all arwain at gost i gyflogwyr. Yn anffodus, mae’r cysylltiad rhwng gamblo niweidiol a hunanladdiad yn amlwg. Rydym yn clywed straeon torcalonnus yn y wasg, a thystiolaeth gadarn sy’n profi bod bron 1 ym mhob 5 o bobl sy’n ymwneud â gamblo problemus wedi ystyried hunanladdiad yn y flwyddyn ddiwethaf.

Effaith Gamblo Problemus ar gyflogwyr a’r gweithle

Gamblo Problemus – mater i’r undebau llafur

Mae bwlch yn nata’r DU ar effeithiau gamblo problemus ar y gweithle. Fodd bynnag, mae data rhyngwladol a thystiolaeth anecdotaidd y DU yn awgrymu y gall gamblo problemus gael effaith sylweddol ar gyflogaeth.

Yn ôl y Ganolfan Ymchwil Barn Genedlaethol:

  • nododd 61% o gamblwyr problemus eu bod wedi colli’r gwaith er mwyn gamblo
  • dywedodd 59% eu bod yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio yn y gwaith oherwydd meddwl am gamblo a dyledion
  • nododd 36% eu bod wedi colli swyddi oherwydd gamblo

Gall cynrychiolwyr undebau fod yn allweddol i lwyddiant

Yn yr un modd ag y mae’r undebau wedi bod yn yrrwr allweddol wrth leihau’r stigma am iechyd meddwl yn y gweithle, gall undebau chwarae rôl debyg i leihau’r stigma ynghylch gamblo problemus. Bydd hyn yn rhoi’r amser sydd ei angen ar y gamblwr i ofyn am gymorth a cheisio cefnogaeth pan fo angen, heb boeni am gael ei feirniadu.

Gallwn hefyd geisio deall yr effeithiau y gall niwed gamblo ei gael ar yr unigolyn, ei deulu a’i gydweithwyr. Gallwn fod yno i’w cefnogi bob cam o’r ffordd.

Beth allwch chi ei wneud heddiw i gefnogi cydweithiwr sy’n cael ei effeithio gan Gamblo Problemus

Mae TUC Cymru wedi creu pecyn cymorth i gynrychiolwyr i’w helpu i gefnogi aelodau sy’n wynebu effeithiau gamblo problemus. Ei nod yw helpu cynrychiolwyr i adnabod pwy sydd mewn perygl, a beth gall yr effeithiau fod. Mae’n rhoi cyngor a chymorth ymarferol am gyfeirio at gymorth pellach.

Llwythwch ein pecyn cymorth Gamblo Problemus i lawr heddiw 

Cael cymorth gyda Gamblo Problemus

Mae’r Llinell Gymorth Gamblo Cenedlaethol yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth cyfrinachol i unrhyw un yr effeithir arno gan broblemau gamblo yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Gallwch ffonio’r llinell gymorth 24 awr y dydd ar 0808 8020 133