Dyw dynion ddim yn meddwl bod eu hiechyd meddwl yn bwysig – sut gallwn ni newid hynny

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’n siŵr ein bod ni i gyd wedi sylweddoli ei bod hi’n fwy derbyniol, yn fwy ffasiynol hyd yn oed efallai, i drafod iechyd meddwl. Ond a ydyn ni’n siarad go iawn? A beth sy’n digwydd wedyn? A ydyn ni’n gweithredu ar ôl siarad er mwyn gwella ein hiechyd meddwl? Neu a ydyn ni’n dilyn yr un hen drefn ddinistriol o niweidio ein hiechyd meddwl, ond y tro hwn, yn siarad amdano wrth i ni fynd ati i wneud hynny?

Mae llawer o ddynion yn ysgwyddo’r baich annheg sydd wedi’i roi iddynt. Wrth dyfu i fyny, rydym yn clywed ‘bydd yn gryf, bydd yn ddyn’, neu, yn wyneb adegau anodd, clywn ‘nid yw bechgyn yn crio’. O oedran ifanc, mae bechgyn yn cael eu cyflyru i ddangos eu bod nhw’n gryf, gyda rheolaeth dros bethau, ac mae merched yn dysgu sut i ofalu am bobl eraill. Mae’r rolau hyn yn rhan o’n realiti wrth i ni dyfu i fyny, a gallent gael canlyniadau niweidiol iawn i bob un ohonom.

Fel dynion, rydym yn fwy tebygol o deimlo pwysau i ennill arian ac, pan fydd perthnasoedd yn torri i lawr, rydym yn fwy tebygol o gael ein gwahanu rhag ein plant. I lawer o ddynion, gall sgyrsiau fod yn eithaf arwynebol, ac nid ydynt bob tro’n delio â gwraidd y broblem na’r hyn sy’n bod mewn gwirionedd.

Mae’r diwylliant hwn o beidio â mynegi ein hiechyd meddwl yn oedi neu’n ein hatal ni rhag cael gafael ar gymorth. Weithiau, gall hyn arwain at ddulliau ymdopi niweidiol megis dibynnu ar alcohol, cyffuriau neu gamblo. Yn anffodus iawn, mae llawer yn dioddef yn sylweddol, ac mae cyfraddau hunanladdiad yn uwch ymysg dynion.

Dyw dynion ddim yn meddwl bod eu hiechyd meddwl yn bwysig – sut gallwn ni newid hynny

Mae angen i’n diwylliant newid

O’r foment y cânt eu geni, mae angen dweud wrth fechgyn a merched bod edrych ar ôl eu hunain a phobl eraill yn beth da, a bod crio a gofyn am gymorth yn normal. Fel dynion, mae gennym freintiau, ond nid yw hynny’n golygu nad ydym yn teimlo fel ein bod yn boddi weithiau.

Efallai ein bod yn gwybod sut mae siarad mewn cyfarfodydd, ond nid sut mae mynegi ein teimladau drwy siarad. Efallai ein bod yn edrych yn hyderus ac â rheolaeth dros bethau, ond gall hynny guddio dyn sydd angen cymorth.

Mae ein gweithle’n gymuned hefyd, ac fel Undebwyr Llafur, gallwn helpu i siapio’r diwylliant yn y gwaith, gan roi iechyd meddwl ar yr agenda, a sicrhau bod gwrando ar ein gilydd a rhoi gofal a chymorth yn rhan allweddol o fywyd gwaith bob dydd.

Iechyd meddwl dynion yn y gwaith

Rydym yn treulio rhan helaeth o’n hamser yn gweithio, ac os nad yw’ch gweithle yn poeni am iechyd meddwl, bydd y gweithlu’n mynd yn sâl. Mae polisïau a phapurau’n ddechrau da, ond mae angen gweithio ar weithredu a siarad.

Mae trafodaethau grŵp a chyfleoedd i gael cymorth yn bwysig, a mynediad at therapi am ddim yn allweddol. Mae hyrwyddo lles da a hunanofal yn hanfodol, yn ogystal â chael cymryd absenoldeb â thâl, heb boeni am golli eich swydd, pan fydd pethau’n anodd.

Gwyliwch ein fideos ar gyfer Ymdopi gyda Covid i gael cyngor ar les a hunanofal yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Cyn bo hir, bydd TUC Cymru yn lansio pecyn cymorth iechyd meddwl. Mae’n cynnwys cymorth a gwybodaeth ar wneud eich gweithle’n lle mwy cefnogol ac iach o ran iechyd meddwl. Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i gael gwybod pan fydd y pecyn cymorth iechyd meddwl yn cael ei gyhoeddi.

Mae’n iawn i beidio bod yn iawn, ac mae angen i’ch gweithle wybod hyn a gwneud rhywbeth amdano.