Dywedodd llywydd y gynhadledd, Alok Sharma, ei fod yn "gytundeb hanesyddol oedd yn cadw'r nod o gyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5C yn uwch na'r lefelau cyn-ddiwydiannol o fewn cyrraedd".
Mae Llywodraeth Cymru wedi herio cyrff cyhoeddus i gyrraedd 'sero-net' erbyn 2030. Erbyn hynny dylent fod yn cynhyrchu llai o allyriadau o nwyon tŷ gwydr sy'n llygru nag y maen nhw'n eu hamsugno. Ac, ym marn TUC Cymru, dylent fod yn cyrraedd y targedau hyn heb osod costau ychwanegol – yn ariannol neu fel arall – ar weithwyr.
Rydym wedi edrych ar gynlluniau pob cyngor lleol ar gyfer cyrraedd sero-net. Mae rhai yn well na'i gilydd, yn enwedig o ran diogelu gweithwyr a'u teuluoedd wrth i ni ddatgarboneiddio. Mae'r cynlluniau’n ddiddorol i’w darllen ac yn cynnwys cynlluniau cyffrous. Er enghraifft, mae newid i gerbydau trydan yn rhan fawr o fwyafrif y cynigion o'r fath. Ond dim ond ychydig o gynghorau gyfeiriodd at bwysigrwydd ymgynghori â gweithwyr a darparu sicrwydd o ran hyfforddiant fel bod gweithwyr yn gallu symud i swyddi gwyrdd newydd.
Dyna pam fod TUC Cymru yn gweithio gydag undebau llafur i alw ar gynghorau lleol a phob cyflogwr yng Nghymru i sefydlu 'cytundebau trosiannol'.
Dylai'r cytundebau trosiannol hyn fod ag elfennau allweddol yn ymwneud â datgarboneiddio a'r gweithlu, gan gynnwys:
Yn fyd-eang ac yn lleol, un o'r effeithiau mwyaf ar yr agenda sero net yw rhyfel Rwsia yn Wcráin sydd wedi arwain at chwyddiant byd-eang. Mae hyn wedi arwain at argyfwng costau byw ledled y byd, a wnaed yn waeth yng Nghymru gan effaith Brexit, polisïau llymder llywodraeth y DU a degawd o ostyngiad mewn cyflogau, gan effeithio ar y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Pan rwy’n clywed gan weithwyr am yr heriau o fynd i'r afael â chynhesu byd-eang rwy'n cael fy atgoffa'n gyson am gostau byw cynyddol, gyda phopeth yn codi heblaw am gyflogau. P'un a ydynt yn gweithio gartref neu yn y swyddfa neu’n teithio yma ac acw, mae gweithwyr yn wynebu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ynni. Mae'r rhain yn amrywio o filiau gartref, i'r costau o gyrraedd y gwaith. Mae eu neges yn glir a phendant: ni ddylai gweithwyr, yn enwedig y rhai ar gyflogau isel a'r mwyaf bregus, dalu costau datgarboneiddio. Fel man cychwyn, gadewch i ni godi’r isafswm cyflog cenedlaethol i £15 yr awr, dod â chwmnïau ynni manwerthu o dan berchnogaeth gyhoeddus a gadewch i ni gynyddu credyd a phensiynau cynhwysol yn unol â chwyddiant nawr.
Yma yng Nghymru, rwy'n falch bod cyrff cyhoeddus wedi ymrwymo i newid o gerbydau petrol a disel i ynni trydan. Ond dyma enghraifft arall o faes lle na ddylai gweithwyr fod yn ysgwyddo'r costau am wneud y peth iawn.
Ddylen nhw ddim talu am y gost o newid i gerbydau trydan drwy golli eu swyddi yn y diwydiant cynnal a chadw cerbydau confensiynol. Dyna pam rwyf mor falch bod undebau'n arwain y ffordd i helpu gweithwyr i ailhyfforddi yn y dechnoleg newydd. Er enghraifft, yn Abertawe, bu Unite yr undeb yn gweithio gyda'r cyngor i ailhyfforddi staff y gweithdai ar y peiriannau newydd - gan arbed swyddi a chostau i'r cyngor . Dyma enghraifft dda o bartneriaeth gymdeithasol gydweithredol flaengar ar waith.
Gall maint yr argyfwng hinsawdd deimlo'n sylweddol. Ond, fel undebwyr llafur, rydyn ni'n gwybod pan rydyn ni'n unedig y gallwn ni wneud newidiadau enfawr. Mae cymaint o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn y frwydr dros gyfiawnder hinsawdd byd-eang trwy newid priodol yn eich gweithle.
Barod i gymryd rôl fwy fyth i wneud eich gweithle’n fwy gwyrdd? Dewch i’n cwrs 'sgiliau gwyrdd' nesaf ar gyfer undebwyr llafur yn 2023