**Gall cyfranogwyr ddewis naill ai ymuno wyneb yn wyneb neu ar-lein, cofrestrwch i gadarnhau eich presenoldeb.
Y digwyddiad hwn:
Mae’n rhaid i ynni gwyrdd gael ei fabwysiadu gan wahanol ddiwydiannau er mwyn cyflawni targedau sero net erbyn 2050. Bydd y trosglwyddiad yn cael dylanwad enfawr ar wahanol weithleoedd ac ni ddylid gadael unrhyw weithiwr ar ôl. O safbwynt undeb llafur, mae gan ynni gwyrdd fanteision eraill ar wahân i’r rhai amgylcheddol amlwg: gall greu mwy o swyddi ar y safle neu yn niwydiant ynni adnewyddadwy’r DU, ac mae’r buddsoddiad y mae cwmni’n ei wneud yn arwydd da o’i ymrwymiad i’w ddyfodol.
Sut bydd ynni’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yn y dyfodol a sut gallai effeithio ar swyddi aelodau o undebau?
Mae’r Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd yn cynnig rhai gweledigaethau radical o economi gynaliadwy yn y dyfodol er mwyn sbarduno trafodaeth ar sut gallai hyn effeithio ar weithleoedd a gweithwyr.
Bydd Mary Williams o Unite Wales yn trafod barn undebau am faterion sy’n ymwneud â phweru diwydiannau trwm a gweithgynhyrchu, yn ogystal â barn y gweithwyr yn y diwydiant ynni.
Mae gan Stuart Caron o USDAW lawer iawn o arbenigedd ym maes rheoli gwastraff ac ynni o wastraff ar ôl gweithio i amrywiaeth o gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau i awdurdodau lleol ac eraill. Bydd yn siarad am ynni o wastraff a'i effaith ar swyddi.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
Bydd y digwyddiad o ddiddordeb arbennig i gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch. Ond bydd hefyd yn berthnasol i swyddogion amser llawn, swyddogion cangen, stiwardiaid llawr gwaith, cynrychiolwyr eraill, yn ogystal â’r holl undebwyr llafur sydd â diddordeb yn nyfodol byd gwaith a dyfodol y blaned. Rhannwch yn eang â chydweithwyr mewn Undebau Llafur.
Gwybodaeth am y Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach
Bydd y grŵp yn cwrdd bob yn ail fis. Bydd pob cyfarfod yn cynnwys siaradwyr gwadd i archwilio gwahanol bynciau, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu arferion da, ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf gan TUC Cymru a’n cydweithwyr undebol.
Eich rhwydwaith chi yw hwn, felly ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad hwn a rhowch eich barn ynghylch y ffordd y dylem fynd ati i siapio ein dyfodol. Er mwyn rhannu eich awgrymiadau ar gyfer trafodaethau yn y dyfodol, anfonwch e-bost at Stanley Ho o TUC Cymru yn swaihongho@tuc.org.uk.
Os hoffech chi gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am yr hyn mae undebau’n ei wneud i greu gweithleoedd gwyrddach, lawrlwythwch ein pecyn cymorth Gweithleoedd Gwyrddach ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn yma ac ewch i dudalen ein hymgyrch lle gallwch ddod o hyd i fideos yr ymgyrch a rhagor o wybodaeth.
Bydd capsiynau byw yn cael eu darparu yn y digwyddiad ar-lein hwn.
Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd eraill y dylen ni fod yn gwybod amdanynt, cysylltwch â ni yn swaihongho@tuc.org.uk neu rhowch wybod i ni ar eich ffurflen gofrestru.