Mae’r adroddiad hwn, a gynhyrchir bob dwy flynedd, yn adlewyrchu’r cyfnod dwys o waith ers i ni gyfarfod ddiwethaf yn 2024. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi parhau i ddelio ag effeithiau parhaus yr argyfwng costau byw, wrth i weithwyr a chymunedau wynebu pwysau parhaus ar safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus. Ond drwy’r cyfan, mae undebau yng Nghymru wedi arwain y gad o ran amddiffyn hawliau, gwella cyflogau ac amodau, a rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar bobl sy’n gweithio i ffynnu.

Rydym wedi parhau â’n hymrwymiad i greu Cymru fwy cyfartal drwy ehangu cyfranogiad a chefnogi cenedlaethau newydd o ymgyrchwyr. Mae ein Rhaglenni Datblygu Ymgyrchwyr Du ac Ymgyrchwyr sy’n Fenywod, ein Rhaglen Gweithwyr Ifanc, a’n cefnogaeth gynyddol i rwydweithiau gweithwyr sy’n bobl anabl, pobl LHDTC+ a gweithwyr mudol yn helpu i feithrin arweinyddiaeth hyderus ac amrywiol sy’n barod i gryfhau ein mudiad ar gyfer y dyfodol.

Mae paratoi gweithwyr ar gyfer y dyfodol yn dal yn ganolog i’n cenhadaeth. Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn parhau i drawsnewid cyfleoedd i filoedd o weithwyr bob blwyddyn - yn enwedig y rheini a allai fod wedi cael eu heithrio o gyfleoedd hyfforddi a datblygu yn y gorffennol. Gyda newid technolegol cyflym yn ail-lunio gweithleoedd, mae ein gwaith ar ddeallusrwydd artiffisial, hawliau digidol, a thrawsnewid y gweithle yn bwysicach nag erioed.

Rydym hefyd wedi cryfhau ein cyfraniad at bontio teg yng Nghymru. Mae ein hymchwil, ein partneriaethau a’n hymgyrchu yn sicrhau bod gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn arwain at fanteision amgylcheddol yn ogystal â swyddi da, cymunedau cryf a thegwch i weithwyr - yn enwedig y rheini mewn diwydiannau sy’n wynebu’r newid mwyaf.

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) bellach wedi’i sefydlu’n gadarn ar draws y sector cyhoeddus. Mae’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol yn garreg filltir bwysig yn y daith a ddechreuodd cynifer yn ein mudiad ddegawdau’n ôl: sicrhau bod lleisiau gweithwyr yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. Ein tasg nawr yw sicrhau bod y fframwaith hwn yn sicrhau gwelliannau ystyrlon i weithwyr a chymunedau ledled y wlad.

Dim ond mudiad undebau llafur cryf a hyderus all sicrhau cyfiawnder cymdeithasol i weithwyr. Wrth i ni edrych ymlaen, mae ein hymrwymiad yn dal yn gadarn: adeiladu ein mudiad, cryfhau undod rhwng undebau, a sicrhau dyfodol tecach i bob gweithiwr yng Nghymru.

Cyngres TUC Cymru 2026 - Cyngres TUC Cymru 2026 - Myfyrio ynghylch ein gwaith ers Cyngres 2024
Cyngres TUC Cymru 2026 - Cyngres TUC Cymru 2026 - Myfyrio ynghylch ein gwaith ers Cyngres 2024
Partneriaeth Gymdeithasol

Mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn parhau i dyfu yng Nghymru. Mae’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) wedi’i sefydlu ers dros ddwy flynedd ac mae’n gwneud gwaith mewn sawl maes.

Mae’r Cyngor wedi cael y rownd gyntaf o adroddiadau dyletswydd partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae aelodau undebau llafur y Cyngor wedi nodi’r angen am gysondeb a gwelliant o ran adrodd, a fydd yn cael ei ystyried yn ystod tymor nesaf Llywodraeth Cymru.

Mae is-grŵp caffael y Cyngor wedi cael ei sefydlu ac mae cydweithwyr undebau llafur o bob rhan o’r mudiad wedi cael eu penodi i’r grŵp. Mae gweithgor ar ddeallusrwydd artiffisial wedi cael ei sefydlu, ac mae rhaglen waith wrthi’n cael ei datblygu.

Mae’r Cyngor wedi rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar grantiau busnes gyda phwyslais ar bwysigrwydd cryfhau gwaith teg ac ymgysylltu ag undebau llafur drwy’r broses grantiau.

Mae TUC Cymru wedi datblygu a darparu hyfforddiant partneriaeth gymdeithasol i gynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer darparu ar lefel y gweithle.

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu blaenorol wedi cael ei ddiddymu ac mae Fforwm Gweithlu’r Sector Cyhoeddus yn y Dyfodol wedi cael ei sefydlu yn ei le, sy’n ceisio bod yn fwy deinamig a hyblyg i ddiwallu anghenion y gweithlu.

Mae strwythurau Partneriaeth Gymdeithasol newydd bellach ar waith yn y sectorau trafnidiaeth a chreadigol.

Mae trefniadau Partneriaeth Gymdeithasol ym maes gofal cymdeithasol yn parhau i fynd i’r afael â materion craidd undebau llafur.

Mae cytundebau cydnabod enghreifftiol wedi cael eu cymeradwyo a’u hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a chynrychiolwyr cyflogwyr. Mae gwaith yn parhau ar wella llais y gweithwyr yn y sector yn ogystal ag ar faterion iechyd a diogelwch allweddol y gweithlu.

Y Siarter Afiechyd Marwol

Mae Siarter Afiechyd Marwol y TUC yn addewid gwirfoddol gan gyflogwyr i gefnogi gweithwyr sy’n cael diagnosis terfynol. Lansiodd TUC yr ymgyrch yn 2016, a chafodd ei hysbrydoli gan Jacci Woodcock, rheolwr gwerthu a oedd yn wynebu bygythiadau o ddiswyddo ar ôl cael diagnosis o ganser terfynol ar y fron. Nod y siarter yw dileu “straen ychwanegol ac y gellir ei osgoi” yn sgil ansicrwydd swyddi, gan sicrhau bod gweithwyr sy’n wynebu diwedd eu hoes yn cael eu trin ag urddas a thosturi, yn hytrach na chael eu gorfodi allan drwy weithdrefnau galluogrwydd sy’n achosi straen.

Mae rhoi dewis a sicrwydd ariannol wrth galon y siarter. Drwy lofnodi’r siarter, mae cyflogwyr yn ymrwymo i beidio â diswyddo unrhyw un oherwydd cyflwr terfynol.

Mae’r warchodaeth hon yn caniatáu i weithwyr benderfynu drostynt eu hunain a ydynt am barhau i weithio - yn aml fel ffordd therapiwtig o dynnu eu sylw neu o gael sefydlogrwydd ariannol - neu adael i dreulio amser gydag anwyliaid. Yn hollbwysig, mae cynnal cyflogaeth yn sicrhau bod teuluoedd yn parhau i fod yn gymwys i gael budd-daliadau “marwolaeth yn y swydd”, y gellir eu colli os bydd gweithiwr sy’n derfynol wael yn cael ei ddiswyddo neu ei orfodi i ymddeol yn gynnar.

Mae’r fenter wedi ennill momentwm sylweddol, ac mae bellach yn cynnwys dros ddwy filiwn o weithwyr ledled y DU. Mae llofnodwyr uchel eu proffil yn cynnwys cwmnïau preifat mawr fel Santander, y Post Brenhinol, a’r Co-op, yn ogystal â chyrff sector cyhoeddus fel NHS Scotland a nifer o gynghorau lleol. Y tu hwnt i’r addewid cychwynnol, mae’r siarter yn annog cyflogwyr i adolygu eu polisïau tâl salwch, darparu hyfforddiant arbenigol i adrannau Adnoddau Dynol a rheolwyr, a chynnig mynediad at raglenni cymorth i weithwyr sy’n cynnwys cwnsela a chyngor ariannol.

Dyma rai o’r sefydliadau sydd wedi llofnodi yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf:

  • Heddlu De Cymru
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
  • Grŵp Llandrillo Menai.
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (y Gronfa) wedi parhau i fod yn un o adnoddau mwyaf effeithiol Cymru ar gyfer rhoi hwb i hyder, sgiliau a chyflogadwyedd gweithwyr yn y tymor hir. Mae Adroddiad Dysgwyr y Gronfa 2025, sy’n seiliedig ar adborth gan dros 800 o ddysgwyr, yn dangos bod 90 y cant o gyfranogwyr wedi dweud bod ganddynt fwy o hyder, gyda llawer hefyd yn sôn am well cyfathrebu, cymhelliant a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Yn hollbwysig, mae’r Gronfa yn agor drysau i weithwyr sy’n wynebu rhwystrau ychwanegol: dywedodd 23 y cant o ddysgwyr fod ganddynt anabledd ac roedd gan 36 y cant gyfrifoldebau gofal plant - llawer uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol - gan ddangos rôl y Gronfa o ran ehangu mynediad at hyfforddiant i’r rheini sydd leiaf tebygol o’i gael mewn mannau eraill.

Mae effaith y Gronfa hefyd wedi cael ei theimlo’n gryf mewn gweithleoedd ledled Cymru. Ymysg y rhai a gymerodd ran mewn cyrsiau achrededig hirach, dywedodd 85 y cant eu bod yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi cydweithwyr yn well, a dywedodd bron i draean fod eu perfformiad yn y gwaith wedi gwella’n amlwg. Llwyddodd 14 y cant i gael swydd newydd yn uniongyrchol oherwydd hyfforddiant y Gronfa, ac o’r rheini, cafodd 76 y cant godiad cyflog - tystiolaeth bod y Gronfa yn cefnogi datblygu, cyflog uwch a gwell sicrwydd swydd yn uniongyrchol. Dywedodd 90 y cant o ddysgwyr eu bod yn fwy hyderus a bod gwelliant sylweddol wedi bod o ran cyfathrebu, cymhelliant a pherfformiad yn y gweithle.

Mae cyfraniad y rhaglen at economi ehangach Cymru wedi bod yr un mor drawiadol.

Mae adroddiad y dysgwyr yn dangos bod cyflogwyr nid yn unig yn elwa o weithlu mwy medrus ac ymrwymedig, ond eu bod hefyd yn fodlon cyd-fuddsoddi: cyfrannodd cyflogwyr dros £2.5 miliwn tuag at hyfforddiant a gefnogir gan y Gronfa yn ystod cyfnod 2022/25, gan ddangos llawer o hyder mewn dysgu dan arweiniad undebau.

Mae’r Gronfa bellach wedi cefnogi dros 100,000 o weithwyr yn y tair blynedd diwethaf yn unig, gan gryfhau’r sylfaen sgiliau genedlaethol ar adeg pan fo Cymru’n wynebu newid cyflym o ran technoleg, yr economi a’r gweithlu. Mae cyfran sylweddol o’r dysgwyr hyn yn weithwyr hŷn - yn bennaf y rheini rhwng 50 a 59 oed - sy’n helpu i gadw profiad a chynhyrchiant gwerthfawr yn y farchnad lafur yng Nghymru, gan fynd yn groes i’r duedd ehangach mai pobl iau fel arfer yw’r rhai sy’n cymryd rhan fwyaf mewn hyfforddiant.

Ers i’r Gyngres gyfarfod ddiwethaf, mae’r dystiolaeth yn dangos bod y Gronfa yn parhau i fod yn drawsnewidiol i Gymru, gan ehangu cyfleoedd i’r rheini sy’n cael eu cloi allan o hyfforddiant yn rhy aml; cryfhau galluogrwydd, llesiant a thegwch yn y gweithle; a chreu manteision economaidd mesuradwy i gyflogwyr ac i economi Cymru. Drwy barhau i gael gwared ar rwystrau i ddysgu a galluogi gweithwyr i ffynnu, mae’r Gronfa yn parhau i fod yn un o’r llwyddiannau pwysicaf mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru - gan sicrhau newid go iawn i weithwyr a gwerth gwirioneddol i’r genedl.

Ymgyrch aflonyddu rhywiol

Fel undebwyr llafur, rydym yn awyddus i wneud gweithleoedd yn decach, yn fwy cyfartal ac yn fwy diogel ym mhob ffordd i weithwyr. Fodd bynnag, mae aflonyddu rhywiol wedi bod yn bla ar brofiadau gweithwyr, ac yn anffodus, nid yw’n duedd sy’n gostwng. Wrth i’n cymdeithas ddod yn fwy ar-lein, mae ffyrdd newydd yn dod i’r amlwg lle mae cynnwys yn troi’n gasineb, ac mae hynny’n treiddio i weithleoedd.

Roedd gennym ddau brif nod yng nghynllun ein hymgyrch ar aflonyddu rhywiol. Yn gyntaf, roeddem am newid polisi ar aflonyddu rhywiol, ac yna roeddem am lansio ymgyrch ar raddfa fawr.

Mae’n bleser adrodd ein bod wedi cyflawni a rhagori ar y ddau nod. Fe wnaethom ymuno â chydweithwyr y TUC ehangach a grwpiau eraill fel Hawliau Menywod a Chymdeithas Fawcett a ffurfio cynghrair o’r enw ‘This is Not Working’.

Bu’r gynghrair honno’n gweithio gyda Wera Hobhouse, Aelod Seneddol, ar y ‘Ddeddf Diogelu Gweithwyr’; darn o ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ar 24 Hydref 2025 ac sy’n mynnu dyletswydd amddiffynnol bod cyflogwyr yn y DU yn cymryd ‘camau rhesymol’ i ddiogelu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol. Mae’n cryfhau amddiffyniadau ac yn caniatáu i dribiwnlysoedd gynyddu iawndal.

Gyda’r ddeddfwriaeth newydd hon, roeddem am roi cyfle i gyflogwyr ddysgu am eu dyletswydd, ac i weithwyr fod yn ymwybodol o’u hawliau cynyddol. Drwy weithio gyda Cowshed PR a chynnal grwpiau ffocws, roeddem yn gallu darganfod bod llawer o bobl yn teimlo i raddau helaeth eu bod yn deall beth oedd aflonyddu rhywiol, ond nad oeddent yn gwybod at bwy i droi am gymorth. Roeddem eisiau gwneud cynrychiolwyr undebau llafur yn bobl allweddol yn y rôl gefnogol honno ac fe wnaethom ddatblygu’r ymgyrch ‘Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di’ - ymgyrch a oedd yn cynnwys deunyddiau’r cyfryngau cymdeithasol ochr yn ochr â chynnig dysgu ar y cyd ag Addysg Oedolion Cymru i gynrychiolwyr ledled Cymru.

Ein fideo cyfryngau cymdeithasol yw un o’r fideos sy’n cael ei wylio fwyaf, ac mae ein cyfle dysgu i gynrychiolwyr wedi cael ei gynnig ledled Cymru. Yn ogystal â’n pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol, mae gennym becyn cymorth ymgyrchu, deunyddiau cyfryngau cymdeithasol, posteri a deunyddiau gwefan.

Gwyddom fod hon yn ymgyrch y byddwn yn parhau i weithio arni, a’n nod yw ymestyn y gwaith hwn i fyd busnes ac addysg.

Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du

Mae trydedd garfan Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru bron â chael ei chwblhau. Disgwylir iddi ddod i ben ym mis Mehefin gyda’r bedwaredd garfan yn dechrau yn gynnar ym mis Gorffennaf ac eisoes yn recriwtio.

Ers dechrau ein Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du yn 2023, rydym wedi cael 28 o gyfranogwyr anhygoel; un dyn a’r gweddill yn fenywod, a phawb o wahanol oed. Mae’r hwylusydd, Humie Webbe, yn darparu modiwlau i ddeall strwythurau undebau, llyfrau rheolau undebau, sut i drechu rhagfarn, sgiliau siarad, ysgrifennu cynigion, ysgrifennu CV a phwysigrwydd cynghreiriaeth.

Roeddem hefyd wedi rhoi cyfleoedd iddynt fynychu digwyddiadau a chyfrannu, gan gynnwys y Cyngor Cyffredinol a Chyngor Menywod yr Ynysoedd. Buom yn dathlu eu llwyddiannau yn y Senedd, dan nawdd Vaughan Gething AS a Jayne Bryant AS. Cynigiodd Jayne Bryant AS brofiad gwaith i’r garfan gyntaf o gyfranogwyr, ac rydym yn gobeithio adeiladu ar y cynnig hwn gyda gweinidogion eraill yn y dyfodol.

Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â chyfranogwyr o’r carfanau blaenorol ac yn dilyn eu datblygiad ar ôl y Rhaglen, gan ddod â nhw at ei gilydd gyda chyfranogwyr y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod gyda’r bwriad o greu gweithgareddau trefnu yn y dyfodol i hyrwyddo undebaeth lafur a meithrin cryfder ac undod ar draws strwythurau gweithredol.

Yn etholiadau diweddar y Senedd, roedd un aelod o bob un o’r tair carfan gyntaf o’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du yn sefyll a dymunwn y gorau iddynt yn y byd gwleidyddol.

Mae datblygiad cyfranogwyr y Rhaglen yn glod i’r hwylusydd Humie Webbe ac mae’r cyfranogwyr yn cyfrannu cymaint i’w gilydd ag y maent yn ei ennill yn y Rhaglen. Mae llawer wedi mynd ymlaen i newid swyddi a llwybrau gyrfa, canolbwyntio ar ddatblygu mewn cymunedau lleol a gwneud newidiadau yn eu gweithleoedd. Gobeithio y bydd hyn yn annog mwy i ymuno â Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du 4 a thu hwnt.

Mis Hanes Pobl Ddu

Mae Mis Hanes Pobl Ddu wedi dod yn ddyddiad pwysig ar galendr TUC Cymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal dau ddigwyddiad Mis Hanes Pobl Ddu arall yn y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Yn 2024, fe wnaethom lansio pecyn cymorth Gwrth-hiliaeth yn y Gweithle TUC Cymru.

Cafodd Mis Hanes Pobl Ddu 2025 ei alw’n “Dathlu Ein Gorffennol a Diogelu ein Dyfodol” a gwahoddwyd undebau llafur a disgyblion o ysgolion lleol i ddweud pam ein bod yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu, yr hyn rydym wedi’i ddysgu a’r hyn y mae angen i ni barhau i ddysgu a gweithio arno.

Gyda'r cyd-destun gwleidyddol yn newid, rydym yn gwybod bod hwn yn bwnc y mae’n rhaid parhau i dynnu sylw ato a’i nodi.

Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod

Mae’r ail garfan o fenywod ddwy ran o dair o’r ffordd drwy eu rhaglen. Mae Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod (y Rhaglen) TUC Cymru yn fenter sy’n canolbwyntio ar fagu hyder ac arweinyddiaeth. Ei bwriad yw cefnogi undebwyr llafur sy’n fenywod yng Nghymru i fod yn ymgyrchwyr cryfach a mwy effeithiol. Mae’n helpu cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau ymgyrchu, gwella eu dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb, ac adeiladu rhwydweithiau ar draws mudiad undebau llafur Cymru.

Mae’r Rhaglen yn parhau i fod yn fenter effeithiol a thrawsnewidiol o fewn mudiad undebau llafur Cymru, a hynny i raddau helaeth oherwydd ein cyfranogwyr gwych a’n tiwtor Humie Webbe. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i chynllunio’n benodol i rymuso menywod sy’n ymgyrchwyr, i fagu hyder, ac i gryfhau capasiti arwain, wedi dod yn gonglfaen i waith cydraddoldeb a threfnu TUC Cymru.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfuniad o’r canlynol:

  • Gweithdai a sesiynau hyfforddi ar ymgyrchu, cyfathrebu ac arweinyddiaeth.
  • Dysgu gan gyfoedion, gan alluogi cyfranogwyr i rannu profiadau a meithrin undod.
  • Mentora a chefnogi, gan helpu menywod i ddeall cyfleoedd a strwythurau undebau.
  • Profiad ymarferol o ymgyrchu, sy’n aml yn gysylltiedig â materion cydraddoldeb byw neu faterion yn y gweithle.
  • Gweithgareddau magu hyder, y mae cyfranogwyr yn nodi’n gyson eu bod yn drawsnewidiol.

Mae’r amgylchedd dysgu yn fwriadol gydweithredol, cynhwysol a grymusol, a bydd yn rhoi llwybr i fenywod dyfu o fewn ein mudiad undebau llafur.

Rydym yn falch o'r rhaglen hon, a gobeithio eich bod chithau hefyd. Pan fyddwch chi’n ein gweld ni’n chwilio am gyfranogwyr ar gyfer y drydedd garfan o fenywod i ymuno â ni, gobeithio y byddwch chi’n ystyried enwebu eich hun neu rywun sy’n awyddus i ddatblygu eu gwaith yn y maes undebau llafur.

Academi Gweithwyr Ifanc

Ym mis Ionawr 2026, lansiodd TUC Cymru yr Academi Gweithwyr Ifanc, cyfres feiddgar a dwys o weithdai sydd wedi’u cynllunio i feithrin gallu undebwyr llafur ifanc yng Nghymru i arwain, trefnu ac ymgyrchu.

Nod y rhaglen barhaus hon yw cryfhau gallu ein mudiad i ymateb i raniadau yn ein gweithleoedd a’n cymunedau gydag undod, rhyngwladoldeb a gweithredu.

Cyflwynir y rhaglen mewn partneriaeth â Jarrow Insights a Trademark Belfast, ac mae’n cynnwys pum modiwl penwythnos sy’n ymdrin â’r canlynol:

  • Yr economi wleidyddol i weithwyr ifanc
  • Trefnu digidol a deallusrwydd artiffisial yn y gweithle
  • Gwrthwynebu’r dde eithafol
  • Strategaeth ymgyrchu a gwrando cymdeithasol
  • Undod rhyngwladol ac adeiladu mudiadau

Gan weithio gyda chyrff cysylltiedig, enwebodd TUC Cymru 15 aelod ifanc a oedd yn ceisio mynd ati i ymgysylltu ag arferion newydd ac arloesol i gefnogi’r gwaith o symud a chyflawni yn eu hundebau.

Gyda’r cwrs i fod i ddod i ben ym mis Mehefin 2026, bydd cyfranogwyr yn gallu mynychu cyfle datblygu rhyngwladol drwy gronfa Taith TUC Cymru.

Taith ac adeiladu mudiad rhyngwladol

Rydym wedi cymryd rhan mewn prosiect 24 mis gan ddefnyddio cronfa Taith Llywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd datblygu rhyngwladol i 30 o gyfranogwyr undebau llafur o’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du, y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod a’r Academi Gweithwyr Ifanc.

Pwrpas y rhaglen yw grymuso ymgyrchwyr o’n meysydd cydraddoldeb i archwilio sut mae partneriaid undebau llafur rhyngwladol yn gweithredu yn wyneb byd gwaith sy’n newid.

Mae newidiadau mawr ar y gweill, o ddeallusrwydd artiffisial a Phontio Teg i bartneriaeth gymdeithasol, twf y dde eithafol ar draws Ewrop ac economïau sy’n dod i’r amlwg. Mae effaith y newidiadau hyn yn amrywio ym mhob man. Nod y rhaglen oedd sicrhau bod ein lleisiau’n amrywiol ac yn cynrychioli’r lleisiau mae ein mudiad yn eu cynrychioli, wrth i ni ddatblygu strategaeth i gydnabod undebau llafur o amgylch y newidiadau hyn.

Taith i Wlad Belg:

Ym mis Chwefror 2025, roedd y ddirprwyaeth gyntaf yn cynnwys taith i Gynhadledd ETUI a gynhaliwyd yn Leuven, Gwlad Belg ar 18-22 Chwefror 2025. Roedd y daith yn edrych ar ddyfodol gwaith a deallusrwydd artiffisial. Roedd y daith yn cefnogi ffocws strategol TUC Cymru ar ddeall effaith deallusrwydd artiffisial ar weithwyr yng Nghymru ac yn galluogi ymgyrchwyr i ymgysylltu ag arbenigwyr Ewropeaidd, undebau llafur ac ymchwilwyr gan rannu eu profiadau eu hunain yn y gweithle. Cafodd y cynrychiolwyr hefyd eu briffio ar ymchwil a gomisiynwyd gan TUC sy’n amlinellu sut mae deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar wahanol grwpiau o weithwyr, gan sicrhau eu bod yn gallu cyfrannu’n ystyrlon at drafodaethau ar gydraddoldeb, hawliau a dyfodol gwaith.

Ar draws cynhadledd ETUI a gweithdy FES, edrychodd y cyfranogwyr ar themâu mawr gan gynnwys rheoli algorithmig, gwaith llwyfan, ansawdd swyddi, diogelu data, gwyliadwriaeth yn y gweithle, rhagfarn wrth wneud penderfyniadau awtomataidd a goblygiadau deallusrwydd artiffisial ar sail rhywedd. Gan weithio’n agos gyda FES, cymerodd y ddirprwyaeth ran mewn trafodaeth bwrdd crwn bwrpasol ar ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle, gan glywed gan arbenigwyr yn y sector am yr heriau sy’n wynebu undebau a’r bylchau rheoleiddio sy’n deillio o newid technolegol cyflym.

Drwy’r gweithgareddau hyn, fe wnaeth y cyfranogwyr wella eu dealltwriaeth o risgiau a chyfleoedd deallusrwydd artiffisial, magu hyder wrth ymgysylltu â dadleuon am drawsnewid digidol, ac adeiladu rhwydweithiau gwerthfawr gydag undebwyr llafur Ewropeaidd sy’n gweithio ar faterion tebyg.

Taith i’r Almaen:

Roedd ymweliad y cynrychiolwyr â’r Almaen yn canolbwyntio ar archwilio sut mae undebau llafur ledled Ewrop yn ymateb i ddylanwad cynyddol ideolegau’r dde eithafol a phoblyddol mewn gweithleoedd ac mewn cymunedau. Drwy gyfarfodydd ag arweinwyr undebau llafur, cynrychiolwyr gwleidyddol, sefydliadau ieuenctid a grwpiau cymdeithas sifil, edrychodd y cynrychiolwyr ar strategaethau ar gyfer cryfhau democratiaeth, hyrwyddo amgylcheddau gwaith cynhwysol, a chefnogi cymunedau sy’n profi trawsnewid economaidd.

Roedd y themâu allweddol yn cynnwys creu cynghrair ar draws cymdeithas ddinesig, cael pobl ifanc i ymwneud â chyfranogiad democrataidd, mynd i’r afael â phryderon cymunedau “a adawyd ar ôl”, a dysgu o ddull yr Almaen o ymdrin â newid strwythurol, trawsnewid gweithwyr, a datgarboneiddio. Roedd y trafodaethau hyn yn galluogi cynrychiolwyr i wneud cymariaethau â’r heriau a wynebir yng Nghymru, yn enwedig cyn etholiadau’r Senedd yn 2026, ac i fyfyrio ynghylch sut gall undebau llafur Cymru ymateb yn rhagweithiol i dueddiadau gwleidyddol a chymdeithasol tebyg.

Ochr yn ochr â sesiynau sy’n canolbwyntio ar bolisi, roedd y rhaglen yn ymgorffori ystod eang o weithgareddau ymarferol a gynlluniwyd i wella dealltwriaeth cynadleddwyr o fudiad llafur yr Almaen. Roedd y rhain yn cynnwys ymweliadau safle, gweithdai strategol, cyfarfodydd ymgysylltu â’r gymuned, a chymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a democrataidd fel gŵyl ieuenctid ffeministaidd a gŵyl Pride Cologne. Roedd cynrychiolwyr hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau briffio dyddiol, sesiynau hyfforddi, a thrafodaethau myfyriol i atgyfnerthu eu dysgu a chryfhau cydlyniant grŵp.

Drwy’r profiadau amrywiol hyn, darparodd y daith gyfleoedd gwerthfawr ar gyfer dysgu ar y cyd, cydweithio trawsffiniol, a datblygu syniadau newydd i gefnogi gwaith TUC Cymru yn y dyfodol ar ddemocratiaeth, cydraddoldeb, a mynd i’r afael â naratifau asgell dde mewn gweithleoedd a chymunedau.

Teithiau sydd i ddod: Yr Almaen, Mehefin 2026 ac Iwerddon 2026

Rydym wedi trefnu dwy daith arall fel rhan o’r prosiect hwn, gan weithio gyda’n sefydliadau partner yn yr Almaen ac Iwerddon. Bydd y ddwy daith yn cael eu cynnig i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein Hacademi Gweithwyr Ifanc a byddant yn canolbwyntio ar themâu’r cwrs: economi wleidyddol, mynd i’r afael â thwf y dde eithafol, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol, yn ogystal â ffyrdd newydd o weithredu.

Siarter Twf

Lansiwyd Siarter Twf - Cael Gwared ar Elw o’r Maes Gofal Cymdeithasol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025 ac mae’n fframwaith galluogi sy’n cynnwys pedair egwyddor graidd. Mae’n helpu gweithwyr, canghennau eu hundebau llafur, a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith. Mae ‘Twf’ yn golygu ‘growth’ neu ‘expansion’ yn Saesneg.

Datblygodd TUC Cymru Siarter Twf fel arf i gynorthwyo gweithwyr, canghennau eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i gefnogi’r gwaith o ddarparu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol fel mater o degwch, cyfiawnder ieithyddol a chydraddoldeb; ac i gynyddu, hwyluso, hyrwyddo, cefnogi a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Caerfyrddin a Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi ymrwymo i weithredu Siarter Twf yn eu sefydliadau gan ymgysylltu’n llawn â changhennau’r undebau llafur.

Cael Gwared ar Elw o’r Maes Gofal Cymdeithasol

Mae TUC Cymru wedi ymgyrchu gyda chwmnïau cysylltiedig sy’n gweithredu ym maes gofal cymdeithasol i gael gwared ar elw o’r sector. Fel mudiad, croesawyd y ddeddfwriaeth i gael gwared ar elw o wasanaethau plant sy’n derbyn gofal. Ond rydym yn dal yn glir bod yn rhaid ymestyn yr ymrwymiad hwn ar draws yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae gweithgarwch yr ymgyrch wedi cynnwys gweithio’n agos gyda’r Ganolfan Atebolrwydd ac Ymchwil Ryngwladol i Dreth Gorfforaethol (CICTAR) i ddangos sut mae elw’n cael ei dynnu’n systematig o’r sector a’i symud i hafanau treth.
Tynnwyd sylw at y dystiolaeth hon mewn sawl ffordd, gan gynnwys gweithgareddau lobïo, digwyddiadau ymylol mewn cynadleddau gwleidyddol amrywiol, a thrwy weminar a oedd yn rhan o raglen Ailennyn Undod yr hydref.

Cafodd TUC Cymru ddiwrnod gweithredu cymunedol ym mis Rhagfyr, yn tynnu sylw at ein digwyddiad neuadd y dref a gynhaliwyd ym Mhontypridd.

Cynhaliwyd arolwg o 1,000 o bobl o bob argyhoeddiad gwleidyddol ledled Cymru i gael cipolwg ar y ddealltwriaeth a’r safbwyntiau presennol ynghylch sut mae gofal cymdeithasol yn gweithredu yng Nghymru. Dangosodd yr arolwg fod 79 y cant o’r cyhoedd eisiau cael gwared ar elw o'r maes gofal a bod 64 y cant yn cefnogi’r uchelgais i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.

Er ein bod yn llwyddo i ennill yr achos cyhoeddus dros gael gwared ar elw o bob maes gofal cymdeithasol, mae’n dal yn bwysig ymgyrchu ar y mater hwn i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith gan Lywodraeth nesaf Cymru.

Mae mwy a mwy o bobl yn dal i lofnodi ein deiseb ar y mater hwn, a bydd yn neges gref i’r llywodraeth nesaf bod cael gwared ar elw o ofal cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth ymgyrchu i’r mudiad undebau llafur yng Nghymru.

Mynd i’r afael â naratifau sy’n peri rhwyg mewn gweithleoedd, ar-lein ac yn ein cymunedau

Roedd TUC Cymru yn cydnabod ac wedi ymateb i’r cynnydd yn y naratif y dde eithafol a phoblyddol yng Nghymru.

Ym mis Medi 2025, fe wnaethom drefnu cynhadledd o’r enw Ailennyn Undod, a daeth 100 o undebwyr llafur i'r digwyddiad. Cawsant glywed am gynnydd Reform yng Nghymru a sut i siarad am faterion penodol fel mewnfudo. Cyfrannodd cynadleddwyr at drafodaeth am y camau nesaf yr hoffent weld undebau llafur yn eu cymryd yn y maes hwn.

Yn ystod gweddill yr hydref, fe wnaethom gynnal cyfres o weminarau, lle gwnaethom groesawu tua 170 o bobl, i roi’r adnoddau i ymgyrchwyr undebau llafur gael sgyrsiau anodd ar bynciau mewnfudo, diwylliant, gofal cymdeithasol a materion gwyrdd. Cawsom hefyd sesiwn yn canolbwyntio ar sut i siarad am y materion hyn ar-lein.

Mae TUC Cymru wedi creu gweithdy newydd i ganghennau i drafod sut i ddeall a herio ideolegau’r dde eithafol a phoblyddol.

Mae’r sesiwn undydd yn archwilio gwreiddiau’r mudiadau hyn, eu heffaith ar gymdeithas, a strategaethau ymarferol i wrthsefyll eu dylanwad. Mae TUC Cymru, ar y cyd ag Addysg Oedolion Cymru, eisoes wedi creu cwrs Addysg Undebau Llafur undydd newydd o’r enw Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Sgyrsiau Anodd. Mae’r cwrs yn helpu cynrychiolwyr i wella eu hyder wrth ddelio â sgyrsiau anodd mewn ffordd sy'n hyrwyddo parch, yn unioni anghydfod, ac yn troi sgyrsiau cynhennus yn gyfleoedd ar gyfer undod a threfn.

Ym mis Mawrth 2026, fe wnaethom lansio ymgyrch newydd o’r enw United Cymru. Pwrpas yr ymgyrch yw cael undebwyr llafur a gweithwyr blaengar eraill yng Nghymru i hyrwyddo gwerth undod yn hytrach nag anghydfod. Dechreuodd yr ymgyrch gyda gwahoddiad i weithwyr archebu posteri a sticeri United Cymru er mwyn dangos faint o bobl sy’n credu mewn Cymru unedig, ofalgar a chroesawgar. Mae’r ymgyrch hefyd yn gwahodd gweithwyr i gymryd rhan yn yr hyfforddiant ar gael sgyrsiau anodd a, thrwy grŵp WhatsApp, mae’n eu grymuso i gael y sgyrsiau hyn mewn bywyd go iawn ac ar-lein gan ddefnyddio negeseuon sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan TUC Cymru. Mae llawer o’r gwaith hwn, ac ymgyrch TUC Cymru i annog pobl i gofrestru i bleidleisio, yn canolbwyntio ar bum etholaeth darged lle credwn y gallwn wneud gwahaniaeth i lefel y naratifau rhwygol mewn cymunedau a gweithleoedd.

Deallusrwydd Artiffisial

Roedd y prosiect “Deallusrwydd Artiffisial: Paratoi’r gweithlu; yn barod ar gyfer y dyfodol”, o dan arweiniad TUC Cymru, yn ceisio sicrhau bod gweithwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy am effaith deallusrwydd artiffisial ar y gweithle ac arfogi undebau i negodi’n effeithiol ar faterion deallusrwydd artiffisial. Deilliodd y fenter hon o benderfyniad Cyngres TUC Cymru yn 2024 ac roedd wedi’i gwreiddio yng nghynllun strategol 2024-26 y sefydliad, gan nodi deallusrwydd artiffisial fel maes blaenoriaeth.

Amcanion a gweithgareddau

Canolbwyntiodd y prosiect ar dri gweithgaredd craidd:

  1. Ymchwil a lledaenu gwybodaeth – ymchwilio i effaith deallusrwydd artiffisial ar weithwyr yng Nghymru a rhannu canfyddiadau drwy ganllawiau, gweminarau, blogiau a fideos.
  2. Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth – datblygu hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer cynrychiolwyr undebau a chefnogi cyrsiau dan arweiniad undebau ar gyfer gweithwyr.
  3. Dylanwad polisi – llunio polisi Llywodraeth Cymru ar ddeallusrwydd artiffisial drwy bartneriaeth gymdeithasol ac eiriolaeth.

Cyflawniadau Allweddol

  • Allbynnau ymchwil: roedd yr adroddiad blaenllaw AI Inequalities at Work gan y Data Justice Lab yn edrych ar effeithiau gwahaniaethol deallusrwydd artiffisial ar draws dimensiynau fel anabledd, oedran, ethnigrwydd, ac iaith.
    Roedd blogiau ategol a fideos cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu ymgysylltiad.
  • Gweithdai a phecynnau cymorth: drwy weithio ar y cyd â Connected by Data, mae pecyn cymorth wedi cael ei greu ar gyfer gwreiddio llais gweithwyr ym maes caffael deallusrwydd artiffisial. Roedd gweithdai ychwanegol yn hyrwyddo dulliau deallusrwydd artiffisial sy’n canolbwyntio ar weithwyr, sy’n cyd-fynd ag adborth gan y llywodraeth a’r TUC ar lefel y DU.
  • Datblygu hyfforddiant: mae cwrs newydd i gynrychiolwyr undebau ar ddeallusrwydd artiffisial a chydraddoldeb wedi’i drefnu ar gyfer gwanwyn 2026, gan ategu’r hyfforddiant presennol i weithwyr dan arweiniad undebau a gefnogir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.
  • Llwyddiannau polisïau: Llwyddodd TUC Cymru i ddylanwadu ar ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru, gan sicrhau addewidion i undebau gymryd rhan yn y gwaith o gyflwyno deallusrwydd artiffisial a sefydlu canolfannau rhagoriaeth deallusrwydd artiffisial. Cafodd canllawiau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus eu negodi a’u dosbarthu, er bod y broses o’u mabwysiadu gan gyrff lleol yn dal yn anghyson. Mae is-grŵp Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar ddeallusrwydd artiffisial a sgiliau wedi cael ei sefydlu hefyd.

Gwerthuso a Gwersi

Dangosodd y prosiect gydweithio cryf ar draws timau a gyda phartneriaid allanol, gan atgyfnerthu gwerth rheoli prosiectau strategol a grwpiau cyfeirio.

Er bod hygrededd ymchwil a dylanwad polisi yn llwyddiannau nodedig, mae heriau’n parhau o ran sicrhau bod canllawiau’n cael eu mabwysiadu’n eang a chynnal ymgysylltiad ar lefel cangen.

Yn gyffredinol, datblygodd y prosiect gapasiti undebau ar ddeallusrwydd artiffisial, cryfhau dylanwad polisi, a gosod sylfeini ar gyfer hyfforddiant ac eiriolaeth yn y dyfodol, gan roi TUC Cymru ar flaen y gad o ran gweithredu deallusrwydd artiffisial moesegol yng Nghymru.

Diogelu diwydiant a sgiliau ar gyfer y dyfodol

Mae TUC Cymru wedi gweithio gyda chwmnïau cysylltiedig i sicrhau bod llais gweithwyr yn parhau i fod wrth galon y newid i ddiwydiant newydd yng Nghymru.

Drwy weithio gydag undebau mewn diwydiannau trwm a gweithgynhyrchu, mae TUC Cymru wedi nodi safleoedd allweddol sy’n peri pryder lle gallai cynlluniau i newid i ddiwydiant gwyrddach effeithio ar weithwyr yn y safleoedd hynny neu gael effaith negyddol arnynt.

Mae safleoedd o’r fath yn cynnwys diwydiannau carbon-ddwys a’r rheini sy’n mynd ati i ddilyn llwybr at weithrediadau gwyrddach. Yn achos y cyntaf, rydym wedi nodi’n glir na all methiannau’r blynyddoedd diwethaf o ran cynllunio diwydiannol effeithiol barhau ac rydym wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod safbwynt gweithwyr yng Nghymru yn cael ei ystyried yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.

Yn achos yr olaf, rydym wedi parhau i gefnogi cwmnïau cysylltiedig a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru i bwysleisio’r pwynt bod yn rhaid i weithwyr presennol allu cael mynediad at swyddi gwyrdd newydd ac elwa ohonynt. Rydym yn dal i gredu na all gweithlu allanol neu deithiol wasanaethu diwydiant newydd.

Er mwyn rhoi’r gorau i ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol, mae angen buddsoddiad a chyfleoedd diwydiant newydd arnom i wasanaethu gweithwyr yng Nghymru a’u cymunedau.

Un maes allweddol ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y môr a diwydiant newydd yng Nghymru oedd datblygu Porthladdoedd Rhydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TUC Cymru wedi cydlynu ymdrechion undebau i sicrhau bod Porthladdoedd Rhydd Cymru yn cael cefnogaeth undebau llafur ac ymrwymiadau i Waith Teg. Rydym wedi cymryd camau breision yn y maes hwn, gan weithio’n agos gyda’r Porthladd Rhydd Celtaidd i sefydlu Fforwm Ymgynghorol Gweithwyr.

Drwy gydweithio â’n cwmnïau cysylltiedig a’r Porthladd Rhydd, mae’n ymddangos bod y fframwaith drafft yn llwyfan effeithiol i weithwyr yn y parth Porthladd Rhydd.

Addysg TUC Cymru

Ers y Gyngres ddiwethaf yn 2024, mae disgwyl y bydd Addysg TUC Cymru wedi darparu hyfforddiant a sesiynau briffio i dros 3500 o gynrychiolwyr.*

Mae TUC Cymru yn cefnogi ac yn darparu cyllid ar gyfer cyrsiau TUC (aml-undebau) a chyrsiau rhaglenni undebau unigol, gan gynnwys y rheini sy’n cael eu cynnig gan Unite, UNSAIN, GMB, USDAW, PCS a CWU.

Rydym wedi gallu darparu rhaglen amrywiol o hyfforddiant achrededig ffurfiol drwy weithio’n agos gyda’n dwy ganolfan astudiaethau undebau llafur partner yng Ngholeg Gwent ac Addysg Oedolion Cymru. Yn fwy cyffredinol yn TUC Cymru, rydym hefyd wedi cynnig cyfleoedd dysgu anffurfiol i gynrychiolwyr drwy amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gweminarau, rhwydweithiau, gweithdai a digwyddiadau eraill.

Mae’r rhan fwyaf o’r cynrychiolwyr sy’n dod drwy’r rhaglen dros y ddwy flynedd diwethaf wedi mynychu cyrsiau cam 1 cychwynnol (neu gyrsiau sy’n cyfateb i undeb unigol) sydd wedi’u hanelu at gynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch. Aeth llai ymlaen i fynychu cyrsiau cam 2. Cynigiwyd cyrsiau cydraddoldeb rheolaidd hefyd fel rhan o’r rhaglen, gyda llai o gyrsiau cynrychiolwyr dysgu undebau a chyrsiau byr neu sesiynau briffio eraill ar amrywiaeth eang o bynciau.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Addysg TUC Cymru wedi datblygu cyrsiau hyfforddi newydd i helpu i feithrin hyder a sgiliau cynrychiolwyr i fynd i’r afael â materion pwysig yn y gweithle fel Mynd i’r Afael ag Aflonyddu Rhywiol a’i Atal, Deallusrwydd Artiffisial a Thechnoleg Ddigidol, Anabledd yn y Gweithle, Creu’r Achos dros Dynnu Gwaith i Mewn a Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Sgyrsiau Anodd. Mae cyrsiau Cynrychiolwyr Undebau Cam 1 a Cham 2 a Chynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch Cam 1 a 2 a Chynrychiolwyr Dysgu Undebau Cam 1 wedi cael eu hailysgrifennu’n llawn i’w moderneiddio a’u diweddaru i adlewyrchu cyd-destun Cymru. Mae cwrs Cam 2 Cynrychiolwyr Dysgu Undebau newydd hefyd wedi cael ei dreialu’n llwyddiannus, i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus Cynrychiolwyr Dysgu Undebau.

Mae cwrs hyfforddi Partneriaeth Gymdeithasol ac arweiniad dysgu rhyngweithiol ar-lein i gynrychiolwyr wedi cael eu datblygu ac wedi cael ymateb cadarnhaol. Adeiladwyd ar hyn yn fwy diweddar gyda gwaith i ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant ar y cyd ar gydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar gyfer rheolwyr a chynrychiolwyr mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Ers y Gyngres ddiwethaf, mae Addysg TUC Cymru wedi addasu ei hyfforddiant craidd ar gyfer cynrychiolwyr undebau a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch. Mae hyn drwy ddarparu cwrs modiwlaidd er mwyn i gynrychiolwyr allu cael gafael ar yr un hyfforddiant a chymwysterau o ansawdd uchel ond bellach mewn modiwlau byrrach. Felly ceir mwy o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion cynrychiolwyr yn well.

Mae TUC Cymru nawr hefyd yn cynnig cyrsiau ystafell ddosbarth cenedlaethol ar-lein ledled Cymru dan arweiniad tiwtoriaid i sicrhau bod cynrychiolwyr ar hyd a lled Cymru yn gallu cael gafael ar hyfforddiant ac i gefnogi hyfywedd y cynnig hyfforddi i gynrychiolwyr o undebau llai ac ardaloedd mwy anghysbell yng Nghymru, gan gynnal ansawdd y ddarpariaeth dan arweiniad tiwtor yn llawn ar yr un pryd.

Canfu dadansoddiad o gynrychiolwyr a oedd yn mynychu’r rhaglen hyfforddi ffurfiol rhwng mis Ebrill 24 a mis Mawrth 25** lefelau cymharol dda o gynrychiolaeth (o’i gymharu â chyfartaleddau aelodau’r undeb/y boblogaeth genedlaethol) o gynrychiolwyr o grwpiau oedran iau, cynrychiolwyr o gefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig a chynrychiolwyr anabl. Mae hyn yn galonogol a gellir ei ystyried yn arwydd o effaith gadarnhaol y rhaglenni datblygu ymgyrchwyr y mae TUC Cymru wedi’u cynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Fodd bynnag, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli’n sylweddol yn y rhaglen hyfforddi ffurfiol. Mae hyn yn dangos bod angen gwneud mwy o waith i gynyddu nifer y menywod sy’n dod ymlaen fel cynrychiolwyr ac yn ymgymryd â hyfforddiant i helpu i wneud ein mudiad yn fwy cynrychioliadol o’r aelodau a’r gweithlu ehangach.

*Amcangyfrif o’r niferoedd ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, gan nad oedd yr ystadegau terfynol ar gyfer Ionawr-Mai 2026 ar gael eto.

**Nid yw data ar gyfer Ebrill 25 - Mawrth 26 wedi’i gynnwys gan nad yw’r data llawn ar gael adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn

Cyfryngau Cymdeithasol

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae TUC Cymru wedi cyrraedd mwy o weithwyr ac ymgyrchwyr ledled Cymru nag erioed o’r blaen. Rydym yn darparu pecyn rheolaidd o gynnwys diddorol o ansawdd uchel ar draws amrywiaeth o naw sianel cyfryngau cymdeithasol (i fyny o saith sianel yn 2024). Mae ein hallbynnau yn cynnwys: Facebook, Instagram, TikTok, YouTube, X, Threads, Bluesky a LinkedIn.

Mae ein 7.0K o ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol yn 2024 wedi cynyddu i 9.5K o ddilynwyr ar draws ein llwyfannau yn 2026, ac rydym wedi creu cyfrifon LinkedIn a Bluesky newydd. Rydym wedi sefydlu defnyddio Linktree hefyd, fel adnodd ar draws llwyfannau i sicrhau, ni waeth ble mae ein cynulleidfa’n dod o hyd i ni, bod cynigion TUC Cymru bob amser yn weladwy.

Rydym wedi cynhyrchu amrywiaeth eang o ffilmiau ysbrydoledig ac ymgyrchoedd difyr ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n denu cannoedd o filoedd o wylwyr, fel ein Hymgyrch Fe Wnawn Ni Dy Gefnogi Di, a lwyddodd i ddenu 200K o ymweliadau ar draws llwyfannau.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu cynnwys feirol annibynnol, newyddion pwysig a hysbysebion difyr sydd wedi torri recordiau unigol ar gyfer gwylwyr ar draws ein llwyfannau.

Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith i gefnogi ymdrechion a lleisiau undebau ac ymgyrchwyr ledled Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.

8. Cyngres TUC Cymru 2026 - Myfyrio ynghylch ein gwaith ers Cyngres 2024
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now