Wrth i’r Senedd ehangu i 96 aelod a rhoi Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ar waith, rydym yn symud i gam newydd yn ein hanes democrataidd.
Dyfodol Gwleidyddiaeth Flaengar ac Ymgysylltu ag Undebau Llafur yng Nghymru

Mae’r Gyngres yn nodi’r newidiadau gwleidyddol sylweddol sy’n deillio o etholiadau diweddar y Senedd, y bygythiad cynyddol o boblyddiaeth asgell dde, a rôl hanesyddol y mudiad llafur o ran cynrychioli cymunedau dosbarth gweithiol yng Nghymru.

Mae’r Gyngres yn credu bod yn rhaid i bleidiau blaengar sicrhau gwelliannau amlwg i bobl sy’n gweithio a bod yn rhaid i undebau llafur chwarae rhan ganolog yn y gwaith o lunio dyfodol gwleidyddol Cymru. Mae ymdrechion i wrthsefyll y dde eithafol drwy symud ymhellach i’r dde wleidyddol mewn perygl o roi’r gorau i’r gwerthoedd a’r cymunedau a adeiladodd y mudiad llafur.

Mae’r Gyngres hefyd yn credu bod yn rhaid i Lafur fyfyrio ac adnewyddu o ddifrif yn dilyn anawsterau etholiadol diweddar, gan gynnwys ymgysylltu ystyrlon ag undebau llafur cysylltiedig a phobl sy’n gweithio, er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth gyda chymunedau ledled Cymru.

Mae’r Gyngres hefyd yn cydnabod ei bod yn bwysig bod undebau llafur yn parhau i ymgysylltu’n adeiladol ag unrhyw Lywodraeth Cymru er budd gweithwyr, gwasanaethau cyhoeddus a chyfiawnder cymdeithasol.

Felly, mae’r Gyngres yn cyfarwyddo’r Cyngor Cyffredinol i wneud y canlynol:

  • Cynnal a chryfhau strwythurau partneriaeth gymdeithasol presennol yn Llywodraeth newydd Cymru a sicrhau gwelliannau ystyrlon o ran gweithredu yn y gweithle;
  • Annog sgwrs reolaidd rhwng cynrychiolwyr Llafur yng Nghymru, TUC Cymru, ac undebau llafur cysylltiedig;
  • Gwrthwynebu strategaethau gwleidyddol sy’n symud oddi wrth werthoedd blaengar a gwerthoedd undebau llafur mewn ymateb i’r dde eithafol;
  • Ailddatgan rôl ganolog undebau llafur wrth lunio dyfodol gwleidyddol Cymru;
  • Ymgyrchu dros wasanaethau cyhoeddus cryfach, hawliau gweithwyr, cydfargeinio, ac atebolrwydd democrataidd.

Cyflwynwyd gan FBU

Datganoli Dŵr: Diogelu Hawliau Gweithwyr wrth Ddiwygio Sector Dŵr Cymru

Mae’r Gyngres yn nodi:

  • Datganoli dŵr ymhellach a Phapur Gwyrdd Llywodraeth Cymru sy’n cysoni swyddogaethau rheoleiddio a chynllunio ac yn ailwampio’r gwaith o ddiogelu’r amgylchedd a dŵr yfed.
  • Mae angen i weithwyr fod wrth galon y broses o ystyried eu harbenigedd proffesiynol yn hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau diogel, cynaliadwy sy’n atebol i’r cyhoedd.
  • Proses hir hyd at 2030au a fydd yn golygu cyfnod interim hir pan fydd Ofwat a chyrff eraill yn Lloegr yn parhau i reoleiddio gwasanaethau allweddol ac ansicrwydd mawr a ddaw yn sgil hyn i weithwyr 

Mae’r Gyngres yn credu’r canlynol:

  • Rhaid i ddatganoli beidio â lleihau lefelau staffio a thelerau ac amodau gweithwyr sy’n ymwneud â’r diwydiant hwn
  • Ni ddylai newidiadau rheoleiddio trawsffiniol wanhau hawliau, diogelwch, atebolrwydd lleol na llais undebau gweithwyr.

Mae’r Gyngres yn cyfarwyddo TUC Cymru i ymgyrchu dros wladoli dŵr er mwyn cael rheolaeth go iawn dros ein dŵr.

Yn y sefyllfa sydd ohoni, rydym hefyd yn cyfarwyddo TUC Cymru i wneud y canlynol:

  • Ymgyrchu dros y canlynol:
  1. gwarantau statudol;
  2. i waith aros yn y gwasanaeth sifil sy’n cael ei wneud gan weision sifil a gyflogir ar un set o delerau ac amodau heb unrhyw niwed, y cytunwyd arno drwy drafodaethau partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur cydnabyddedig
  • Mynnu bod unrhyw reoleiddiwr yng Nghymru yn ymgorffori gwaith teg fel dyletswydd graidd, yn cydnabod undebau llafur, ac yn blaenoriaethu cynllunio’r gweithlu, sgiliau ac Iechyd a Diogelwch.
  • Sicrhau gwarchodaeth yn ystod y cyfnod pontio, gan gynnwys dim swyddi’n cael eu colli, dim diswyddiadau gorfodol, diogelu cyflog a graddio, cyfyngiadau clir ar lwythi gwaith ychwanegol, a sicrwydd o fynediad at ailhyfforddiant.
  • Gwrthwynebu unrhyw ymdrechion i dynnu gwaith allan o’r gwasanaeth sifil neu ei roi ar gontract allanol.
  • Mynnu cael digon o staff a buddsoddiad yng ngwydnwch y gwasanaeth cyhoeddus allweddol hwn.

Cyflwynwyd gan PCS

Devolution of Water: Protecting Workers’ Rights During Welsh Water Sector Reform - PCS
Datganoli carchardai, yr heddlu a chyfiawnder i Gymru

Mae’r Gyngres yn croesawu Papur Gwyn y DU O’r lleol i’r cenedlaethol: model newydd ar gyfer plismona fel cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i ddiwygio plismona a datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru fel y cynigir yng Nghomisiynau Silk, Thomas a Williams.

Mae’r Gyngres yn nodi:

  • roedd maniffesto Llafur y DU 2024 yn addo edrych ar ddatganoli gwasanaethau prawf ac ystyried datganoli cyfiawnder ieuenctid.
  • mae comisiwn Thomas yn argymell y dylai materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac arolygu’r heddlu, carchardai a’r gwasanaeth prawf, ynghyd ag agweddau eraill ar y seilwaith cyfiawnder, gael eu penderfynu yng Nghymru.
  • mae cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu dros £100 miliwn mewn gwariant ar gyfer plismona er nad yw’n faes cyfrifoldeb datganoledig, yr effaith gadarnhaol y mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi’i chael ar ddiogelwch cymunedol, atal troseddu a chefnogi dioddefwyr troseddau.

Felly, mae’r Gyngres yn:

  • cyfarwyddo’r Cyngor Cyffredinol i ddatblygu ymgyrch sy’n eiriol dros ddatganoli plismona, carchardai a chyfiawnder gan ddatganoli gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid fel cam cyntaf i wella bywydau pobl sy’n gweithio yng Nghymru.

Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Rhondda Cynon Taf

Devolution of prisons, police and justice for Wales - RCT Trades Council
Llywio Tirwedd Wleidyddol Newydd yng Nghymru

Yn ôl polau piniwn, gallai etholiadau’r Senedd eleni weld newid dramatig yn nhirwedd wleidyddol Cymru, gyda llywodraeth glymblaid bosibl, yn ogystal â nifer fawr o aelodau Diwygio’r Senedd yn cael eu hethol, gan ledaenu eu hagenda hiliol a gwrth-undebau llafur. Gallai hyn arwain at newid yn y berthynas rhwng TUC Cymru a’r Senedd.

Os cadarnheir y senario tebygol hwn ar 7 Mai, mae’r gyngres yn cadarnhau’n gryf y bydd perthynas barhaus TUC Cymru â gweinyddiaeth newydd y Senedd yn seiliedig yn llwyr ar amddiffyn a hyrwyddo cyflog, llesiant a thelerau ac amodau ein haelodau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’n gweithwyr yn y sector cyhoeddus mewn meysydd lle mae gan y Senedd gyfrifoldeb uniongyrchol, ond hefyd i’r holl weithwyr eraill yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru sy’n parhau i wynebu difrod economaidd a chymdeithasol cyni a’r argyfwng costau byw. Mae’r Gyngres yn nodi’r Gynhadledd ar Gynrychiolaeth Wleidyddol a gychwynnwyd gan gynghorau llafur Cymru ym mis Hydref 2025

I baratoi ar gyfer y tymor newydd hwn, a allai fod yn anwadal, mae’r gyngres yn addo paratoi i gael cefnogaeth pob undeb cysylltiedig i wrthsefyll unrhyw ymosodiadau yn y dyfodol neu danseilio safonau byw gan y Senedd.  Mae’r Gyngres yn cyfarwyddo’r cyngor cyffredinol i ddod â’n holl bolisïau at ei gilydd i frwydro yn erbyn cyni er mwyn llunio rhaglen gynhwysfawr o ofynion i’w rhoi ar lywodraeth newydd Cymru.

Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Abertawe

Partneriaeth Gymdeithasol

Wrth i TUC Cymru lywio perthynas â Llywodraeth Cymru sydd newydd ei hethol, mae’r Cyngor Cyffredinol yn ailddatgan ymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yng Nghymru. 

Mae’r Cyngor Cyffredinol yn nodi datblygiad pellach gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ers pasio Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 sydd wedi cynnwys:

  • Sefydlu’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog
  • Cyflwyno’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ar draws cyrff cyhoeddus rhestredig yng Nghymru
  • Parhau i gymryd rhan yn strwythurau partneriaeth gymdeithasol Llywodraeth Cymru gan gynnwys Fforwm Partneriaeth y GIG, y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, y Fforwm Manwerthu, a’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Ysgolion
  • Hyfforddiant peilot Partneriaeth Gymdeithasol

Yn ogystal â chynnyrch penodol gan gynnwys:

  • Cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a rheoli algorithmig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • Cyhoeddi canllawiau i wreiddio Gwaith Teg ym mhroses grantiau busnes y llywodraeth
  • Datblygu polisi sy’n ystyried niwed i weithwyr fel rhan o’r broses ymchwilio yn GIG Cymru. 

Rhaid peidio â cholli’r cynnydd a wnaed ar yr agenda partneriaeth gymdeithasol. Gyda’r ddeddfwriaeth a’r strwythurau ar waith, mae’n bwysig ein bod nawr yn adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i sicrhau canlyniadau gwell i bobl sy’n gweithio ledled y wlad. 

Rhaid i waith Partneriaeth Gymdeithasol fod yn fwy nag ymarfer ticio blychau. Mae’n adnodd i gryfhau llais y gweithiwr wrth wneud penderfyniadau. Mae’n eistedd y tu allan i drefniadau bargeinio sefyllfaol traddodiadol heb danseilio cryfder diwydiannol undebau llafur. Mae’n hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn cael eu dal i gyfrif drwy fecanweithiau undebau llafur lleol er mwyn iddo arwain at effeithiau mesuradwy ac ystyrlon i weithwyr. Rhaid i fanteision y ffordd hon o weithio fod yn glir ac yn ddealladwy. 

Felly, rydym yn galw ar TUC Cymru i wneud y canlynol:

  • lobïo dros ragor o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol fel cyfrwng darparu sy’n cynhyrchu canlyniadau mesuradwy ar gyfer pobl sy’n gweithio
  • cyflwyno’r rhaglen hyfforddi beilot ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru
  • gweithio gydag undebau i wreiddio partneriaeth gymdeithasol ar lefel leol

Cyflwynwyd gan y Cyngor Cyffredinol

Dyddiad Cyngres TUC Cymru

Mae rheolau TUC Cymru yn datgan bod yn rhaid i’n Cyngres gael ei chynnal yn nhrydedd wythnos mis Mai bob yn ail flwyddyn. Mae hyn yn golygu unwaith bob pedair blynedd bod y Gyngres yn cael ei chynnal bythefnos ar ôl etholiadau’r Senedd. Mae’r amseru’n anfantais strategol gan ei fod yn atal TUC Cymru rhag defnyddio ei ddigwyddiad uchaf ei broffil i ddylanwadu cyn etholiad y Senedd. Ar ben hynny, mae goblygiadau o ran adnoddau i staff TUC Cymru sy’n gorfod cymryd rhan mewn gwaith ymgyrchu etholiadol ar yr un pryd â pharatoi ar gyfer y Gyngres.

Gyda’r ffactorau hyn mewn golwg, mae’r Gyngres yn penderfynu sefydlu gweithgor i ymchwilio i’r posibilrwydd o newid rheolau TUC Cymru er mwyn gallu cynnal y Gyngres rywbryd eto.  Bydd y grŵp yn cael ei benodi gan y Cyngor Cyffredinol a bydd yn adrodd yn ôl i’r Cyngor Cyffredinol ym mis Medi 2027, er mwyn gallu drafftio unrhyw newid i’r rheolau mewn pryd ar gyfer Cyngres 2028.

Cyflwynwyd gan y Cyngor Cyffredinol

4. Llywodraethu ar gyfer y dyfodol
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now