Rydym am i’r cyhoedd gael darpariaeth ragorol gan fyrddau iechyd, llywodraeth leol neu Lywodraeth Cymru a’i hasiantaethau.
 Ariannu Addysg yng Nghymru yn Llawn

Mae angen ariannu’r system addysg yng Nghymru yn llawn.

Mae’r Gyngres yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymrwymo i system addysg gyhoeddus sy’n arddel ethos ac egwyddorion y system gynhwysfawr, sy’n cael ei staffio gan athrawon cymwysedig ac sy’n atebol yn ddemocrataidd drwy awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, mae’r Gyngres yn nodi bod bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr am flynyddoedd lawer a bod addysg yng Nghymru wedi cael ei thanariannu’n gyson ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ddiwygiadau yn y Cwricwlwm, Cymwysterau ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae ein haelodau’n gweld cynnydd cynyddol mewn ymddygiad heriol ar draws ysgolion a cholegau, sy’n cael ei waethygu gan anghenion heb eu diwallu.

Dywedodd wyth deg y cant (80%) o’r ymatebwyr mewn arolwg undeb nad oes digon o adnoddau ar gael yn eu hysgol / coleg i ddarparu’r addysg y mae’r myfyrwyr yn ei haeddu. Dywedodd dwy ran o dair o’r aelodau y byddai cynyddu nifer y staff cymorth yn yr ystafell ddosbarth a darparu mwy o gymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn helpu ymddygiad disgyblion.

Mae’r Gyngres o’r farn bod dyheadau Llywodraeth Cymru wedi methu oherwydd diffyg buddsoddiad mewn ysgolion, colegau, gwasanaethau canolog a’r gweithlu addysg.

Mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru i ymgyrchu ar ran Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

  • Buddsoddi yng ngwasanaeth addysg Cymru;
  • Gwerthuso gwir gost addysg yng Nghymru a’i hariannu’n llawn; gan wireddu addewid y Cwricwlwm i Gymru, fel bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad at y system addysg y maent yn ei haeddu
  • Neilltuo cyllid addysg i Awdurdodau Lleol i sicrhau bod yr arian yn cael ei wario ar addysg yn y mannau mae’n cael ei darparu
  • Ariannu’n llawn codiad uwch na chwyddiant mewn cyflogau
  • Adfer lefelau cyflog athrawon, darlithwyr a staff cymorth, eu cadw rhag gadael y proffesiwn, a chyflwyno cydfargeinio â’r gweithlu.
  • Rhoi diwedd ar y cylch niweidiol o ddileu swyddi mewn ysgolion a cholegau.
  • Datgymalu’r Drefn Rheoli Ysgolion yn Lleol
  • Ymchwilio i wastraff arian cyhoeddus mewn Awdurdodau Lleol drwy brosesau cyflogaeth gwael fel ataliadau estynedig a thribiwnlysoedd aflwyddiannus
  • Ariannu diwygiadau ADY yn llawn
  • Sicrhau bod pob disgybl yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
  • Ariannu’n llawn athro cymwysedig ym mhob ystafell ddosbarth
  • Gwneud yn siŵr bod athrawon llanw yn gallu cael yr un cyflog ac amodau ag athrawon ysgol – gan gynnwys pensiynau.

Cyflwynwyd gan NASUWT Cymru a NEU Cymru

Darparu cyllid wedi’i glustnodi i Awdurdodau Lleol ar gyfer llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden lleol

Mae’r Gyngres yn cydnabod y rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd lleol a chanolfannau hamdden yn ei chwarae mewn cymunedau bach, yn enwedig i blant, pobl ifanc, pobl hŷn a phobl ag anableddau, y mae costau teithio a logisteg yn aml yn golygu ei bod yn anodd neu’n amhosibl iddynt gyrraedd canolfannau yng nghanol y dref.

Mae’r Gyngres yn nodi bod Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd wedi llunio adroddiad yn 2023 a oedd yn dweud ei bod yn ‘ymddangos’ bod awdurdodau lleol yn rhoi ‘pwyslais annigonol ar werth cymdeithasol wrth benderfynu ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau llyfrgell a hamdden’. Roeddent yn galw am gefnogaeth ar unwaith i lyfrgelloedd lleol a chanolfannau hamdden a strategaeth hirdymor i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol. Nid yw hyn wedi digwydd – er gwaethaf eu canfyddiad y gellid ystyried y gwasanaethau hyn yn ‘fesur ataliol allweddol a buddsoddiad ar gyfer ein hiechyd a’n gofal’.

Mae’n ofid gan y Gyngres weld bod Cymru yn safle 24 allan o 25 o wledydd Ewrop am wariant diwylliannol (sy’n cynnwys llyfrgelloedd), gan ddyrannu 32% o’r swm cyfartaledd. Ac eto, nid yw llyfrgelloedd yn costio llawer. Yng Nghaerffili, lle mae’r cyngor llafur lleol wedi bod yn brwydro i gadw deg llyfrgell leol ar agor. Dim ond £477,492 fyddai’n cael ei arbed dros dair blynedd - yn ôl ffigurau’r cyngor ei hun - petai bob un o’r deg llyfrgell yn cau.

Mae’r Gyngres yn credu mai’r ffordd orau o ddiogelu dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yw eu cadw o dan reolaeth awdurdodau lleol.

Felly, mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth Cymru i glustnodi digon o gyllid ychwanegol i sicrhau bod yr holl lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden presennol yn aros ar agor.

Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Caerffili

Provide earmarked funding to Local Authorities for local libraries and leisure centres - Caerphilly Trades Council
Ymgyrch cyllid llawn i Gymru (gwasanaethau cyhoeddus)

Mae’r gyngres hon yn nodi:

  • Y diffyg cynnydd o ran sicrhau fformiwla gyllido sy’n seiliedig ar anghenion a fyddai’n darparu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ledled Cymru ac yn atal ac yn gwrthdroi’r toriadau
  • Y cyfraddau cyflog isel cyffredinol yng Nghymru sy’n cael eu gwaethygu gan gyfyngiadau cyflog yn y sector cyhoeddus.
  • Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i roi pwysau enfawr ar ein haelodau a’n cymunedau

Mae’r gyngres yn cyfarwyddo’r Cyngor Cyffredinol i wneud y canlynol:

  • Creu ymgyrch effeithiol dan arweiniad undebau llafur ar gyfer cyllid llawn i Gymru i ddiwallu anghenion pobl yn ein cymunedau, ar gyfer adfer a darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da sydd wedi’u staffio’n llawn. Er mwyn cyflawni cynnydd ar ein gofynion, rydym yn cydnabod bod angen i ni arwain fel mudiad undebau llafur.
  • Gweithio gyda chyrff cysylltiedig i gyfrifo’r ffigur cyffredinol sydd ei angen i adfer cyflogau ar gyfer y sector cyhoeddus datganoledig heb unrhyw weithiwr yn disgyn yn is na galw’r TUC o £15 yr awr. Bydd y ffigur hwn yn cael ei gynnwys yn ein hymgyrch am y cyllid sydd ei angen arnom yng Nghymru.
  • Cynhyrchu deunyddiau ymgyrchu cyn cyllideb Llywodraeth Cymru i gyrff cysylltiedig a chynghorau masnach eu defnyddio i ysgogi canghennau, ymgyrchwyr ac aelodau i gymryd rhan weithredol yn yr ymgyrch a hyrwyddo ein gofynion.
  • Rhoi pwysau ar wleidyddion ar bob lefel yng Nghymru i ymuno â’n hymgyrch a chymryd camau i roi’r gorau i wneud toriadau.
  • Cefnogi ymgyrchu i gyflwyno dewisiadau eraill heb doriadau gan gynnwys galw ar gynghorau i lunio cynlluniau i ddefnyddio cronfeydd wrth gefn a phwerau benthyca yn effeithiol i wrthbwyso unrhyw doriadau pellach eleni wrth frwydro i gael y cyllid sydd ei angen.

Cyflwynwyd gan PCS

Cyllid Tymor Byr ac Effaith Penderfyniadau Gohiriedig y Llywodraeth (staff y Gronfa Twf Lleol)

Bu oedi sylweddol cyn cyflwyno’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda’r bwriad o gymryd lle cyllid strwythurol Ewropeaidd hirsefydlog. Ei ddyddiad dechrau technegol oedd 1 Ebrill 2022, ond ni ddechreuodd y ddarpariaeth ymarferol tan 1 Awst, gan orfodi sefydliadau fel Menter Môn i gadw staff a darparu rhaglenni “mewn perygl” am sawl mis, gan ddibynnu ar wybodaeth am gyllid rhannol.

Yn yr un modd, cafodd cronfa bontio 2025/26 ei lleihau a’i gohirio, gan ddechrau ym mis Ebrill ond heb ei chyflawni’n effeithiol tan fis Mehefin, gan fynnu bod sefydliadau’n cyhoeddi rhagor o lythyrau “mewn perygl” ac yn parhau i weithredu heb sicrwydd.

Mae’r sector nawr yn wynebu’r un ansefydlogrwydd gyda’r Gronfa Twf Lleol newydd. Er bod yr ymgynghoriad yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2025 a bod disgwyl iddo gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2026, ni fydd penderfyniadau’n cael eu trafod tan “ddechrau 2026”, gan adael sefydliadau heb eglurder na chynigion mynegol ac ni fyddant yn gallu gwneud gwaith mewn perygl.

Mae’r byrdymhoriaeth eithafol hwn wedi arwain at 18 aelod o staff yn wynebu colli eu swyddi ym Menter Môn, gan fygwth cymorth cymunedol, datblygiad tymor hir, a chynaliadwyedd sefydliadau sy’n dibynnu ar gyllid cyson. Mae pryder pellach y gallai 2026/27 ddod yn “flwyddyn bontio” arall eto fyth, a fyddai’n golygu bod yr ansicrwydd yn parhau.

Mae’r Gyngres yn credu bod oedi dro ar ôl tro a chylchoedd cyllido tymor byr yn achosi niwed y gellir ei osgoi i weithwyr, sefydliadau a chymunedau, a bod y dulliau a ddefnyddir yn yr Alban ac Iwerddon—sy’n seiliedig ar gyfuno ac ymrwymiadau amlflwyddyn—yn darparu model mwy effeithiol sy’n canolbwyntio ar weithwyr.

Felly, mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru i lobïo dros fframweithiau cyllido sefydlog dros nifer o flynyddoedd; gwthio i gael cyfathrebu cynharach a thryloyw ynghylch dyraniadau; ac eiriol dros fodelau cyfunol sy’n cefnogi sefydlogrwydd y gweithlu, cynaliadwyedd sefydliadol, a chanlyniadau cymunedol cryfach.

Cyflwynwyd gan Prospect

Cyllid Gwyddoniaeth

Mae’r Gyngres yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth i adolygu fframwaith gwydnwch y DU, gan gydnabod bod hwn yn gam hanfodol tuag at gryfhau parodrwydd cenedlaethol. Mae’r gofrestr risg genedlaethol yn parhau i dynnu sylw at wendidau sylweddol ar draws diogelwch gwladol, peryglon amgylcheddol a naturiol, seilwaith trafnidiaeth, ac iechyd pobl, anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r heriau hyn yn cael eu gwaethygu gan doriadau parhaus yng nghyllideb y sector cyhoeddus, llai o gapasiti rheoleiddio, a thanfuddsoddi parhaus yn y gweithlu medrus sydd ei angen i weithredu a diogelu systemau a gwasanaethau hanfodol.

Mae Cymru’n chwarae rhan hollbwysig yn y dirwedd hon. Mae ei deg prifysgol, cyrff a noddir gan y llywodraeth, busnesau arbenigol a sefydliadau elusennol yn cynnal ymchwil hanfodol ac yn monitro adnoddau naturiol, gan gyfrannu nid yn unig at wydnwch cenedlaethol ond at ddealltwriaeth Ewropeaidd ehangach o systemau amgylcheddol. Ac eto, mae rheng flaen y gwaith ar wydnwch gwyddonol yn ymddangos ansicr iawn. Boed hynny drwy waith ymchwil, monitro a systemau rhybuddio cynnar, neu ymateb brys, rhaid cryfhau’r capasiti hwn ar frys wrth i Gymru wynebu ystod gynyddol gymhleth ac esblygol o fygythiadau.

Felly, mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru i annog y Senedd i gymryd camau pendant i wneud y canlynol:

  1. Adolygu’r cyd-destun cyllido presennol ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru, gan adeiladu ar adolygiad 2021 y Senedd.
  2. Sicrhau bod cyrff perthnasol, gan gynnwys ymatebwyr i ddigwyddiadau, yn cael yr adnoddau a’r gefnogaeth briodol i gadw a datblygu staff medrus.
  3. Ail-gydbwyso cyllid ymchwil craidd a chystadleuol i sicrhau sefydlogrwydd ariannol hirdymor.
  4. Cryfhau cydweithio ar draws adrannau i wella rhannu gwybodaeth ac arferion gorau.
  5. Arwain trafodaeth gyhoeddus genedlaethol i dynnu sylw at bwysigrwydd y gwaith hwn ac i fynd i’r afael â lledaeniad cynyddol camwybodaeth.

Cyflwynwyd gan PROSPECT

Science Funding - PROSPECT
Cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a fformiwla Barnett

Mae’r Gyngres yn nodi canfyddiadau Comisiwn Holtham 2009, sef:

  • Mae’n egwyddor hirsefydlog bod gan Gymru, fel rhan gyfartal o’r DU, hawl i wasanaethau cyhoeddus o’r un ansawdd â’r rhai a ddarperir mewn rhannau eraill o Brydain
  • Felly, dylai’r cyllid y mae Cymru yn ei gael gan lywodraeth y DU adlewyrchu’r gost uwch o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yma, yn union fel y mae rhannau tebyg o Loegr yn cael lefelau uwch o gyllid
  • Mae costau darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys ein hardaloedd gwledig prin eu poblogaeth, ein poblogaeth hŷn a’n lefelau uwch o amddifadedd

Mae’r Gyngres hefyd yn nodi canfyddiadau ac argymhellion adroddiad 2025 gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd:

  • Defnyddir fformiwla Barnett i gyfrifo cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer Llywodraeth Cymru.  Ers 2016, mae’r fformiwla hon yn cynnwys ffactor sylweddol sy’n seiliedig ar anghenion, sy’n adlewyrchu costau uwch darparu gwasanaethau cyhoeddus yma.  Bydd cyllideb Cymru yn 2027-28 dros £500 miliwn yn fwy nag y byddai wedi bod oherwydd ei chynnwys.
  • Mae tystiolaeth bod lefelau gwariant cymharol gwirioneddol yng Nghymru yn is nag amcangyfrifon swyddogol, sy’n tynnu sylw at yr angen am asesiad newydd.
  • Mae Cymru ar ei cholled pan geir anghydfodau ynghylch pryd a sut y dylid defnyddio’r fformiwla.  Er enghraifft, collodd Cymru £845m mewn cysylltiad ag adeiladu rheilffordd gyflym rhwng Llundain a Birmingham, a ddylai fod wedi arwain at gyllid canlyniadol yma.  Dylai anghydfod o’r fath gael ei ddatrys gan drydydd parti annibynnol ac nid gan Drysorlys y DU.
  • Dylid cynyddu’n sylweddol y cap cyffredinol ar fenthyca Llywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf a’i gysylltu â’r gyfran o gyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru sy’n cael ei neilltuo i dalu dyledion. Byddai cyfyngu costau gwasanaethu dyledion i 1% o’r gyllideb o ddydd i ddydd yn awgrymu cap cyffredinol o £3.3 biliwn.  Y cap presennol yw £1 biliwn, a osodwyd yn 2016 ac nad yw wedi cael ei gynyddu ers hynny.
  • Mae gwariant cymharol Cymru yn sylweddol uwch ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig (fel iechyd ac addysg) nag ar gyfer gwasanaethau sy’n dal wedi’u cadw’n ôl i lywodraeth y DU (fel seilwaith rheilffyrdd a chyfiawnder), lle mae’r gwariant yn is na chyfran sy’n seiliedig ar y boblogaeth.  Pe bai’r gwasanaethau hyn yn cael eu datganoli, byddai Cymru’n cael mwy o gyllid ar eu cyfer.

Mae’r Gyngres yn penderfynu galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu cyfran deg o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy gael:

  • Asesiad newydd o’r ffactor seiliedig ar anghenion yn fformiwla Barnett
  • Trydydd parti annibynnol i ddatrys anghydfodau ynghylch dyraniad Barnett
  • Terfyn benthyca cyfalaf newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n gysylltiedig â’r gyfran o’i chyllideb adnoddau sy’n ymwneud â thalu dyled.

Mae’r Gyngres yn nodi:

  • Canfyddiadau adroddiad Dadansoddiad Cyllidol Cymru, sef y byddai fformiwla Barnett yn golygu y byddai Cymru'n cael mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau fel seilwaith rheilffyrdd a chyfiawnder pe baent yn cael eu datganoli.

Cyflwynwyd gan: Y Cyngor Cyffredinol

 

1. Gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now