Fel undebwyr llafur, rydym yn rhannu gwerthoedd gwrth-hiliaeth, tegwch a chyfiawnder cymdeithasol. Mae’n bwysig i ni ein bod yn ymgyrchu ac yn trefnu i wneud ein gweithleoedd a’n mannau cymunedol yn decach i bob un ohonom.
Er bod llawer o weithleoedd yn cymryd camau cadarnhaol i wella, mae rhai gweithleoedd nad ydynt yn llefydd diogel na chyfartal. Mae angen gweithredu i greu a chyflawni newid cadarnhaol a chynhwysol. Mae undebau’n allweddol i wneud y newidiadau hyn drwy gydfargeinio, trafod a gweithredu’n drefnus.
Yn TUC Cymru, rydym yn dewis sefyll yn erbyn hiliaeth a chasineb lle bynnag y down ar eu traws. Rydym yn hyderus am ein gwerthoedd cyffredin - parch a chydraddoldeb i bawb yng Nghymru.
Rydym wedi datblygu pecyn cymorth newydd sbon ar wrth-hiliaeth yn y gweithle oherwydd ein bod am i weithwyr gael cymorth i symud tuag at wrth-hiliaeth yn y gwaith. Mae hwn yn rhoi enghreifftiau go iawn o gamau gweithredu, gyda gwybodaeth fanwl ar gyfer pob gweithiwr, cynrychiolydd ac aelod undeb.
Rydym yn gwybod pa mor niweidiol yw hiliaeth i bobl ac i’n cymunedau. Rydym wedi siarad â’r llywodraeth, wedi cyfrannu at bolisïau, ac wedi gwneud llawer o newidiadau a chynlluniau. Nawr yw’r amser i weithredu er mwyn i ni allu cymryd camau gwirioneddol tuag at wrth-hiliaeth.
Byddwn yn gweithio tuag at greu rhagor o adnoddau, i helpu i ddadansoddi’r camau gweithredu hyn a rhoi ichi arweiniad cam wrth gam ar sut i gyflawni’r newidiadau hyn. Os ydych yn darllen y pecyn cymorth ac angen rhagor o gymorth, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at cymru@tuc.org.uk
Yn hytrach na cheisio edrych ar y problemau hyn ar eu pen eu hunain, rydym am droi gweithleoedd yn fannau sy’n wrth-hiliol. Mae gweithleoedd sy’n wirioneddol gynhwysol nid yn unig yn cydnabod amrywiaeth, maent yn croesawu ac yn anrhydeddu diwylliant, profiadau, credoau, anghenion a dewisiadau gweithwyr.
Bydd llawer o weithleoedd yn dathlu Mis Hanes Pobl Ddu yn gyhoeddus, heb gymryd camau i gefnogi eu gweithwyr eu hunain.
Un o’r nifer o gamau ymarferol yn y pecyn cymorth gwrth-hiliaeth yn y gweithle yw gweithio gyda’ch cyflogwr i sicrhau nad yw ddim ond yn rhoi’r argraff ei fod yn gwneud rhywbeth a bod ei weithredoedd yn fwy na dim ond perfformiad.
Yn y pecyn cymorth, gallwch ddarllen am sut mae Cangen Bost Gyfun De-ddwyrain Cymru CWU, ar y cyd â’r Post Brenhinol, yn cynnal digwyddiad Mis Hanes Pobl Ddu ym mis Hydref bob blwyddyn.
Maent yn gwahodd siaradwyr o sefydliadau allanol fel TUC Cymru, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a Windrush Generation.
Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at staff i’w helpu i ddeall pam mae Hanes Pobl Ddu yn cael ei ddathlu. Bydd cynrychiolwyr a rheolwyr yn darparu lluniaeth o Dde India hefyd.
Gobeithio y byddwch yn lawrlwytho’r pecyn cymorth gwrth-hiliaeth yn y gweithle ac y bydd yn llawn gwybodaeth y gallwch ei defnyddio wrth ymuno â’r frwydr i wneud ein gweithleoedd yn ddiogel ac yn gyfartal i bawb.