Dyddiad cyhoeddi
Heddiw, adnewyddodd TUC Cymru eu galwad i iechyd a diogelwch gweithwyr fod wrth wraidd cynlluniau ailagor economi Cymru.

Daw'r alwad hon yn dilyn cynhadledd i'r wasg gan Lywodraeth Cymru lle cyhoeddodd Eluned Morgan  MS, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, y bydd rheolau a luniwyd i gadw pobl yn ddiogel yn cael eu gorfodi gan yr heddlu. Eglurodd hefyd y gallai busnesau sy'n diystyru'r rheolau gael eu gorfodi i gau.

Croesawodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ond codwyd pryderon am weithwyr yn y sector lletygarwch sy'n cael eu rhoi mewn perygl:

"Rydym yn croesawu'n fawr y ffordd ofalus y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i leihau'r cyfyngiadau ac ailagor sectorau fel lletygarwch dan do, rhywbeth rydym wedi galw amdano'n ddiogel yn y gorffennol. Rydym yn pryderu y  bydd rhai cyflogwyr, wrth i ni ailagor, yn anwybyddu neu'n rhoi llai o bwyslais ar iechyd a diogelwch eu staff.

"Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn rhannu ein pryder am ddiogelwch gweithwyr. Yn anffodus, ni all Gweinidogion ddibynnu bob amser ar gyflogwyr i wneud y peth iawn, felly mae safiad caled Llywodraeth Cymru ar gyflogwyr gwael yn ein calonogi."

Cyfeiriodd y Gweinidog at yr wybodaeth a gasglwyd gan  TUC Cymru drwy ei ffurf chwythu'r chwiban iechyd a diogelwch, gan addo gweithredu ar sail y wybodaeth a ddarparwyd. Mae Shavanah Taj wedi croesawu'r addewid hwn ar ran mudiad yr undebau llafur yng Nghymru.

"Mae iechyd gweithwyr yn  bwysicach nag elw. Mae gwaith undebau llafur gyda Llywodraeth Cymru yn allweddol i ddeall lle nad yw cyflogwyr yn cydymffurfio â chanllawiau ac maent yn rhoi gweithwyr,  a'r cyhoedd, mewn perygl.

"Mae ein ffurflen chwythu'r chwiban anhysbys wedi derbyn cannoedd o  ymatebion ers dechrau’r cyfnod clo, gan bobl sy'n gweithio ar draws Cymru mewn llawer o wahanol ddiwydiannau.

"Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau yn y gwaith, ac mae ein gwefan (www.TUC.org.uk/wales) yn dal cyfoeth o wybodaeth hygyrch, gan gynnwys sut i ddod o hyd i'r undeb llafur cywir i chi. Rydym yn annog unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd a'u diogelwch i  siarad â'u hundeb llafur neu i lenwi ein ffurflen chwythu’r chwiban."

Gellir dod o hyd i ffurflen TUC Cymru ar www.TUC.org.uk/news/covid-19-Health-and-Safety-concerns-work.

Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei rhannu'n ddienw â Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd & diogelwch (HSE). Nid oes angen i ymatebwyr fod yn aelodau o undeb llafur; y cyfan sydd angen iddynt ei wneud yw gweithio yng Nghymru. 

Nodyn y golygyddion

TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o aelod undeb, mae TUC Cymru yn cynrychioli ychydig dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.

Ar 31 Gorffennaf ymatebodd TUC Cymru i gynlluniau Llywodraeth Cymru i ailagor y diwydiant lletygarwch dan do https://www.TUC.org.uk/News/Wales-TUC-welcomes-reopening-indoor-Hospitality-industry.

Mae gwefan TUC Cymru yn cynnwys mwy o wybodaeth am iechyd a diogelwch yn ystod coronafeirws: