Dychwelyd i Weithleoedd Diogel yng Nghymru

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
P'un a ydych chi'n gweithio gartref, eisoes yn ôl yn y gwaith neu'n paratoi i ddychwelyd, rydyn ni i gyd yn wynebu cyfnod heriol. Mae agor siopau, busnesau ac ysgolion yn golygu nid yn unig bod angen i ni sicrhau bod ein gweithleoedd yn ddiogel ond bod ein ffordd o gymudo i’r gwaith yn ddiogel hefyd.

Rydym yn awyddus i helpu cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch i chwarae eu rôl wrth sicrhau bod gweithwyr yng Nghymru yn ddiogel a bod gweithleoedd yn Covid- ddiogel. I’ch helpu, rydym wedi rhoi rhai adnoddau at ei gilydd fel y gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym.

Beth ddylai cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch yng Nghymru ei wybod am wneud Cymru yn Covid-ddiogel?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd agwedd ofalus tuag at ddiogelu pobl yng Nghymru. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod os ydych chi'n gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch mewn gweithle yng Nghymru.

Darllenwch am yr hyn y gall unigolion a busnesau ei wneud neu ddim ei wneud yn ystod yr argyfwng 

Darllenwch gyngor Llywodraeth Cymru ar Coronafeirws

Rheol pellter 2 fetr

Mae'r gyfraith yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol cymryd mesurau rhesymol i gynnal pellter corfforol o 2 fetr wrth weithio yng Nghymru.

Darllenwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal pellter corfforol yn y gweithle

Gorchuddion wyneb neu PPE

Rydym yn croesawu argymhellion Llywodraeth Cymru ar wisgo gorchuddion wyneb yn gyhoeddus. 

Cofiwch nad Cyfarpar Diogelwch Personol (PPE) yw gorchudd wyneb. Os yw eich cyflogwr wedi cymryd pob mesur rhesymol i'ch amddiffyn rhag coronafeirws ac yn dal i fethu â lliniaru'r risg y mae'n rhaid iddyn nhw roi PPE i chi sy'n addas ac yn ddigonol.

Gweithwyr BME

Mae cymunedau BME yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan coronafeirws.

Darllenwch ein canllaw ar beth gall eich cyflogwr ei wneud i ddiogelu gweithwyr BME.

Beth gall cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch ei wneud i sicrhau bod gweithleoedd yn Covid-ddiogel?

Os yw eich cyflogwr yn gofyn i gydweithwyr ddychwelyd i'r gwaith y tu allan i'r cartref, rhaid iddo sicrhau ei fod yn ddiogel er mwyn diogelu iechyd gweithwyr, cwsmeriaid a'r cyhoedd.

Asesiadau risg Covid-19

Mae asesiad risg Covid-19 yn hanfodol. Ond sut rydych chi'n gwybod bod eich cyflogwr yn gwneud y pethau iawn? Mae’r canllaw cyflym hwn i asesiadau risg Covid yn edrych ar sut y dylai gael ei wneud.

Yn ogystal, darllenwch ein blog ar beth gall cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch ei wneud i gefnogi cydweithwyr yn y gweithle neu gartref.

Os ydych yn gweithio yn y GIG neu ofal cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio adnodd asesu risg unigol Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi ystyriaeth i’r risg ychwanegol i weithwyr BME.

Canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Gallwch ddod o hyd i’r holl ganllawiau diweddaraf am Covid-19 o wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).

Gwyliwch ein gweminar gyda’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ynglŷn â beth gall cynrychiolwyr a chyflogwyr eu gwneud i wneud y gweithle’n ddiogel.

Gweithio gartref

Mae eich cyflogwr yn gyfrifol am ddiogelu iechyd a diogelwch galwedigaethol staff sy'n gweithio gartref yn ogystal â gweithwyr swyddfa. Mae yna rai ffactorau pwysig y mae'n rhaid i chi eu hystyried os ydych chi'n gweithio gartref, am rywfaint o'ch wythnos waith neu'r wythnos waith gyfan. Yn benodol, os yw eich sefydliad yn newydd i weithio gartref, edrychwch ar ein blog ar weithio gartref yn ddiogel.

Dylai’r rheini sy’n gweithio gartref gael asesiad risg hefyd. Defnyddiwch y canllaw cyflym hwn ar asesiadau risg gweithio gartref i weld sut dylai gael ei wneud. 

Gwyliwch ein Gweminar ar weithio gartref yn ddiogel.

Iechyd meddwl

Mae’r coronafeirws wedi effeithio ar weithwyr mewn sawl ffordd, ond un o’r pethau sy’n gyffredin i ni gyd yw’r effaith ar ein hiechyd meddwl. Ymhlith y problemau sy'n effeithio ar weithwyr yw poeni am ddiogelwch swydd, cael eich gorfodi i weithio mewn amgylchedd gwaith anniogel neu addasu i'r heriau o weithio gartref a bod gyda'r teulu 24/7.

Ond mae yna ffyrdd i ddiogelu eich iechyd meddwl a hyd yn oed gwella eich lles meddyliol. Fel cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch, byddwch yn brysur yn helpu eraill ond mae'n bwysig cymryd amser i gadw llygad ar eich lles meddyliol eich hun hefyd.

Ymunwch â’n sesiynau fideo wythnosol Ymdopi â Covid. Bydd pob sesiwn yn dysgu technegau a ffyrdd i’ch helpu chi i edrych ar ôl eich hun ac ymdopi â'r cyfnod heriol hwn.

Darllenwch ein blog am awgrymiadau ynglŷn ag edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Gwyliwch ein gweminar ar fynd i’r afael â theimlo’n ynysig.
 

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl hefyd wedi cynhyrchu canllaw defnyddiol ar edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn ystod yr argyfwng Covid-19.

Pa hawliau sydd gan gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch?

Mae gan undebau llafur yr hawl o dan Reoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977 i benodi cynrychiolwyr Iechyd a Diogelwch yn y gweithle. Mae'r rheoliadau hyn yn rhoi hawliau amrywiol i gynrychiolwyr Diogelwch. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr sefydlu pwyllgor diogelwch ac i hysbysu ac ymgynghori â chynrychiolwyr Diogelwch mewn da bryd ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Darllenwch ein canllaw i’ch hawliau fel cynrychiolydd Iechyd a Diogelwch.

Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 Rhan 1 Eitem 2.  Darllenwch y ddeddfwriaeth yn llawn.

Beth yw eich hawliau os ydych yn gwrthod gweithio oherwydd pryderon diogelwch  am coronafeirws yn eich gweithle?

Mae gan bob gweithiwr hawl i fod yn ddiogel yn y gwaith, ble bynnag maen nhw'n gweithio a beth bynnag maen nhw'n ei wneud. Adran 44.1 o’r gyfraith sy'n diogelu gweithwyr sy'n gwrthod gweithio oherwydd pryderon diogelwch.

Darllenwch ein blog sy’n egluro eich hawl i wrthod gweithio.

Cofiwch – mae’n rhaid i chi siarad â’ch swyddog undeb llawn amser am gyngor cyn cymryd unrhyw gamau o dan Adran 44.

Cyrsiau ar-lein newydd TUC Cymru i gynrychiolwyr yn ystod Covid-19

Mae Gwasanaeth Addysg TUC Cymru yn lansio amrywiaeth newydd o gyrsiau ar-lein gan ein tiwtoriaid arbenigol. Bydd y cyrsiau’n cynnwys:

  • Asesu risg a Covid-19 mewn gweithleoedd
  • Ymwybyddiaeth iechyd meddwl
  • Effaith Covid-19 ar gydraddoldeb – effaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig  
  • Diswyddiadau, Covid-19 a’r Gyfraith

Bydd taflen wybodaeth am y cyrsiau ar gael ar-lein yn fuan.  Ymunwch â’n rhestr bostio ar e-bost i gael gwybod pryd fydd ar gael.

Adnoddau Covid-19 gan undebau llafur

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych hefyd ar gyngor eich undeb eich hun ar Coronafeirws.