Dyddiad cyhoeddi
Pan ddywedodd y cynorthwyydd cymorth dysgu, Dan Phillips, wrth ei ysgol yn Sir Benfro ei fod am ddod allan fel person traws, helpodd tîm Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) UNSAIN i drefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth draws i bob un o'r 220 o aelodau o staff.

Roedd yn hynod ddefnyddiol pan oedd UNSAIN yn gallu cynnig yr hyfforddiant ymwybyddiaeth.

Dan Phillips
Dan Phillips

Yn ogystal ag addysgu holl gydweithwyr Dan, mae'r rhaglen hyfforddi bellach wedi gwreiddio ymwybyddiaeth draws yn y cwricwlwm ar gyfer pob un o'r 1,200 a mwy o ddisgyblion, gydag adnoddau newydd ar gael i bawb yn yr ysgol.

Cysylltodd Dan â Rheolwr Busnes Ysgol Uwchradd Hwlffordd, Julie Foss (sydd hefyd yn aelod o UNSAIN) ynglŷn â’i gyfnod trawsnewid y llynedd.  Ar ôl canfod nad oedd polisïau ar waith i'w gefnogi, cysylltodd Julie â Changen Sir Benfro i gael cymorth.

Fel cadeirydd, roedd Manuela Hughes, yn gwybod bod prosiect WULF eisoes yn trefnu hyfforddiant poblogaidd iawn ar ymwybyddiaeth o bobl draws drwy elusen Mermaids LHDTC+, cysylltodd â'r Rheolwr Prosiect Jenny Griffin i gynnwys y tîm yn rhan o’r prosiect.

Bu’r ysgol, y gangen a phrosiect WULF yn gweithio gyda Mermaids, a darparodd ei staff raglen hyfforddiant bwrpasol ar ymwybyddiaeth draws i holl staff yr ysgol trwy gyfres o weithdai ar-lein a ddaeth i ben ym mis Medi.

Cefnogaeth yr undeb efo hyfforddiant ymwybyddiaeth drawsryweddol

"Roedd yn hynod o ddefnyddiol pan oedd UNSAIN yn gallu cynnig yr hyfforddiant ymwybyddiaeth," meddai Dan. "Dydych chi ddim yn gwybod sut mae pobl yn mynd i gymryd hyn, felly er bod pawb wedi bod yn neis iawn am y peth, roedd yn gysur mawr gwybod bod yr undeb y tu cefn i mi.”

Gyda'r undeb a'r ysgol yn cymryd cyfrifoldeb am hyfforddi staff ar realiti bywydau traws, doedd dim rhaid i Dan ysgwyddo'r baich o orfod delio ei hun â materion a allai godi ymhlith ei gydweithwyr yn sgil trawsnewid.

"Mae pobl yn dal i ofyn cwestiynau i mi, ond maen nhw'n tueddu i fod yn fwy am fy nhaith bersonol fy hun yn hytrach na materion cyffredinol," meddai Dan.

Ac o ganlyniad i'w phrofiad cadarnhaol o weithio gyda'r undeb ar ddysgu, mae Julie Foss wedi dod yn gynrychiolydd dysgu'r undeb yn yr ysgol, hefyd.

Diffyg cynrychiolaeth o bobl draws

Pan oedd Dan yn tyfu i fyny yng nghefn gwlad Sir Benfro, roedd diffyg cynrychiolaeth o bobl draws yn gyffredinol - a dynion traws yn arbennig - yn golygu ei bod hi wedi cymryd amser hir iddo ddeall yn iawn pwy oedd o.

"Pan o'n i'n tyfu lan, do'n i ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod traws yn rhywbeth oeddech chi'n gallu bod, yn enwedig oherwydd bod yr holl gynrychiolaeth o bobl draws yn y cyfryngau - os oedd e'n bodoli o gwbl – fwy neu lai yn tueddu i fod y ffordd arall: doeddech chi byth yn gweld dynion traws," meddai.

"Ro'n i wastad wedi teimlo bod rhywbeth ychydig yn wahanol amdana i, ond fe gymerodd hi dipyn o amser i fi weithio allan beth oedd hynny - wrth i mi fynd yn hŷn, yn y bôn y rhyngrwyd wnaeth fy achub! "

Clwb LHDTC+ i'r genhedlaeth nesaf o blant traws ac anneuaidd

Un o’r manteision sydd wedi deillio o'r rhaglen ymwybyddiaeth yn yr ysgol yw na fydd y genhedlaeth nesaf o blant traws ac anneuaidd efallai yn teimlo mor ynysig, yn enwedig gan fod Dan wedi helpu i lansio clwb LHDTC+ yn yr ysgol, o'r enw Ystafell yr Enfys, gyda chymorth un o gwnselwyr yr ysgol.

"Mae'n ddyddiau cynnar ond dw i'n meddwl bod o'n gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc LHDTC+ wybod eu bod nhw'n cael eu cefnogi a’u cydnabod o fewn yr ysgol ac i ddod o hyd i’w cymuned eu hunain o fewn yr ysgol, sydd yn amhrisiadwy yn fy marn i," meddai Dan.

Yn ôl Jenny Griffin mae'r rhaglen ymwybyddiaeth wedi gallu ymgysylltu nid yn unig â staff yr ysgol ond hefyd â disgyblion a'r gymuned leol ehangach - a'r cyfan am fod pawb oedd ynghlwm â'r fenter yn cydweithio mor effeithiol.

"Mewn sefyllfa arall, gallai rhywun fel Dan fod wedi dweud, 'Mae hyn yn digwydd' a gallai'r ysgol fod wedi dweud, 'Diolch am adael i ni wybod' ac fe allai'r cyfan fod wedi stopio yno," mae Jenny yn nodi.

"Ond yn Hwlffordd, roedd pawb yn gweithio mewn partneriaeth i gael y gorau o’r sefyllfa, felly yn ogystal â chefnogi Dan, rydym wedi codi ymwybyddiaeth ymhlith staff a disgyblion, sydd wedi cael effaith ehangach ar y gymuned leol ac mae hynny'n dangos beth allwch chi ei gyflawni pan fyddwch chi i gyd yn gweithio gyda'ch gilydd."