Our General Secretary Shavanah Taj at the Anti-Racism march in Cardiff on 21 March 2022
i
Gavin Pearce / Wales TUC

Sut all mudiad yr undebau llafur godi ein lleisiau i weithredu yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil?

Dyddiad cyhoeddi
Y penwythnos diwethaf, roedd 700 o bobl ar strydoedd Caerdydd mewn gwrthdystiad arall yn y frwydr gwrth-hiliaeth. Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru yn y Rali Gwrth-Hiliaeth, “mae’n dangos bod Mae Bywydau Du o Bwys yn fudiad ac nid yn foment”.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig eleni ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil oedd ‘lleisiau yn y frwydr yn erbyn hiliaeth’. Nawr ein bod wedi codi ein lleisiau, pa gamau y gall mudiad yr undebau llafur eu cymryd i sicrhau eu bod yn codi ein lleisiau yn erbyn hiliaeth, ac nad yw ein gweithredoedd yn eiriau gwag?

Y peth cyntaf y dylwn ei wneud yw dweud, fel menyw sy’n wyn, nad ydw i wedi profi hiliaeth, ac ni wnaf byth. Felly, yn y mudiad hwn, fy rôl i yw mynd i’r afael â’r camau y mae gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ei ddweud sydd eu hangen. Ni ddylai’r rheini sy’n dioddef y pandemig hiliaeth gael y dasg bennaf o’i ddiddymu.  Mae’r blinder o wynebu hiliaeth, ac yna gweithio i gael gwared ohono, yn faich trwm ac yn un y dylid ei rannu.

Rhaid i weithleoedd gael polisïau a gweithdrefnau i ddelio â hiliaeth, wrth reswm. Ac mae yna bethau cyflym y gall gweithleoedd eu gwneud fel dileu polisïau gwallt, sy’n effeithio’n anghymesur ar Fenywod Du. Ond nid yn y gwaith papur y daw hiliaeth i ben – mae angen i’n mudiad weithredu. Rhaid i wersi ein hundebau llafur weithredu i ddad-drefedigaethu’r dysgu. Mae angen i’n cefnogaeth i weithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gynyddu. Mae angen i'n dulliau cyfathrebu fod yn gliriach ac mae angen i'n neges i gyflogwyr fod yn gryfach. Ni fyddwn yn goddef hiliaeth, ac mae ein mudiad, mudiad aelodaeth anllywodraethol fwyaf y DU, yn gefnogol i ni.

Gwneud y gweithle yn hygyrch, yn ddiogel ac yn groesawgar i weithwyr Du

Yn union fel y byddem yn disgwyl addasiadau rhesymol yn y gweithle ar gyfer gweithwyr Anabl, rhieni neu bobl â chyfrifoldebau gofalu, gellir addasu gwaith yn hawdd i wneud yn siŵr ei fod yn fwy hygyrch, diogel a chroesawgar i weithwyr Du. Mae hyn yn golygu darparu gofod diogel i weithwyr Du fel y gall cynrychiolwyr yr undeb ymgorffori’r newidiadau angenrheidiol i gytundebau cyd-fargeinio. Mae’n golygu estyn allan a dod o hyd i dalentau du ac ymgysylltu â nhw – a dyw hynny erioed wedi bod yn haws diolch i dechnoleg.

Mae’n golygu sicrhau bod cyflog a datblygiad gyrfa wastad ar yr agenda. Ac mae'n golygu bod cynrychiolwyr wastad yn gwybod ble mae gweithwyr Du o fewn strwythurau’r sefydliad. Dydyn ni ddim eisiau cydraddoldeb tâl o ran cyflogau fesul awr yn unig ond mathau o gontractau fel nad yw contractau dim oriau yn effeithio’n anghymesur ar weithwyr Du, fel sydd wedi digwydd hyd yma. Ac mae hefyd yn golygu sicrhau nad yw paneli o arbenigwyr yn y gweithle wastad yn cynnwys bobl wyn yn unig.

Bydd dad-drefedigaethu’r gweithle yn wahanol ym mhob gweithle, a'r ychydig enghreifftiau yw man cychwyn y gwaith hwnnw. Mae angen ymgysylltu priodol a diogel gyda gweithwyr Du ac ymdrechion pawb i’w gyflawni.

Felly, yn y flwyddyn rhwng nawr a Diwrnod Rhyngwladol nesaf y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil, gadewch i ni godi ein lleisiau yn erbyn hiliaeth. A gadewch i ni ddefnyddio’n lleisiau’n ddoeth. Beth allwch chi ei wneud heddiw i gyfathrebu â’ch tîm a dechrau gweithio tuag at Gymru gwrth-hiliaeth?