Athrawon cyflenwi yng Nghymru yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd gan ysgolion ac asiantaethau

Dyddiad cyhoeddi
Nid yw addysgwyr gweithgar ac ymroddedig yn cael cyflog sy’n cydnabod eu blynyddoedd o brofiad. Ar ben hynny, ni all athrawon asiantaeth gael cyfraniadau at gronfa bensiwn athrawon.

Yn awr, diolch i bwysau gan undebau athrawon, mae Llywodraeth Cymru wedi addo mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Mewn llythyr at TUC Cymru, dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg:

“Mae darparu sylfaen decach a mwy cynaliadwy ar gyfer athrawon cyflenwi yn flaenoriaeth i mi fel Gweinidog Addysg ac i Lywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd:

“Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser i ganfod sut gallwn ddiwygio’r system bresennol, gan gynnwys edrych ar oblygiadau cyfreithiol ac ariannol cyflwyno modelau amgen.”

Yn TUC Cymru, rydyn ni am weld athrawon cyflenwi yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan eu cynghorau lleol, yn hytrach na gan asiantaethau preifat sy’n cymryd rhan o ffioedd athrawon fel elw. Mae’r gwahaniaeth rhwng gweithio i’r cyngor lleol ac asiantaeth yn amlwg. Mae asiantaethau’n talu cyfradd safonol nad yw’n ystyried profiad. Er enghraifft, gwelodd un athro ei gyflog yn gostwng o dros £200 y dydd i oddeutu £90 y dydd. I roi halen ar y briw, ni fyddai’r asiantaeth yn talu tâl gwyliau chwaith.

Siaradais ag un athro yng Nghymoedd y de a ddywedodd y byddai dychwelyd i gyflogaeth yng ‘nghronfa’ yr awdurdod lleol yn fendith fawr iddi. Dywedodd wrtha i:

“Pe bai’r system gronfa’n dod yn ôl, byddai’n wych. Nid mater o gyflog ac amodau gwaith yn unig yw hyn, rwy’n sôn am barch a balchder proffesiynol. Byddai’r awdurdod lleol yn arfer fy ffonio’n uniongyrchol a neilltuo ysgol yn lleol i mi. Byddwn yn mynd i’r un ysgolion yn rheolaidd. Drwy’r gronfa, byddai’r ysgolion yn dod i adnabod eich cryfderau ac yn dyrannu gwaith yn unol â hynny.

“Pan oeddech chi’n cael eich cyflogi o’r gronfa, roedd lefel eich cyflog yn seiliedig ar eich blynyddoedd o brofiad fel athro. Ynghyd â’r cyflog priodol, cawsom hefyd gyfraniad tuag at ein pensiwn, a roddodd inni’r sicrwydd ariannol i’r dyfodol y dylai pob gweithiwr ei gael.”

“Gofynnodd fy mam wrtha i ‘pam ar y ddaear wyt ti’n fodlon gweithio am gyflog pitw?’ Dywedodd ‘dylet gael dy dalu fel gweithiwr proffesiynol cymwysedig ac am dy flynyddoedd o wasanaeth.’ Esboniais iddi mai dewis Hobson ydyw – rydw i naill ai’n gweithio i’r asiantaeth ar gyfraddau sydd ddim yn cydnabod fy sgiliau a’m profiad, neu dydw i ddim yn gweithio o gwbl”

Rydyn ni wedi ysgrifennu eto at Jeremy Miles i bwyso arno i ddatrys y mater. Rydyn ni’n gofyn iddo sicrhau bod athrawon cyflenwi’r wlad yn cael y cyflog a’r pensiwn y mae ganddyn nhw hawl iddo, ac maen nhw’n eu haeddu.