Amser cydnabod ‘arwyr tawel’ ysgolion

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Ar ddechrau 2022 mae cynorthwywyr addysgu yn cael eu galw i mewn i ysgolion eto i oruchwylio plant sy'n agored i niwed. A fydd y gweithwyr caled hyn byth yn cael y ganmoliaeth a'r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu?

Cynorthwywyr addysgu yw arwyr tawel system ysgolion. Maent yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael addysg lawn a gwerth chweil. Roeddent yn allweddol wrth weithredu hybiau ysgol ar gyfer plant agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol ar ddechrau’r pandemig. Ond yn rhy aml, mae ymroddiad ac ymrwymiad cynorthwywyr addysgu i’w gwaith yn cael ei gymryd yn ganiataol, a gelwir arnynt i wneud tasgau nad ydynt yn rhan o’u rôl. Efallai nad oes ganddynt y profiad na’r cymwysterau perthnasol os ydynt yn camu i’r adwy yn lle athrawon absennol ac nad ydynt yn cael eu talu’n iawn i gyflawni llawer o’r tasgau mae disgwyl iddynt eu gwneud. Roedd hyn yn arbennig o wir yn ystod y pandemig ond mae’n dal i ddigwydd. Er enghraifft, mewn un achos diweddar yn Sir Gaerfyrddin, roedd cynorthwyydd addysgu yn gweithredu fel athro am sawl wythnos heb gael y cyflog ychwanegol yr oedd ganddi hawl i’w gael. Yn anffodus, nid yw enghreifftiau o’r fath yn anghyffredin.

Yn ôl adroddiad ‘Unsung Heroes’, a gomisiynwyd gan UNSAIN pan oedd y pandemig ar ei waethaf, er bod llawer o bobl yn gweithio gartref, roedd bron i hanner y cynorthwywyr addysgu yn llenwi bylchau pan oedd staff yn absennol, gan alluogi ysgolion i aros ar agor i blant agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol. Roedd ychydig dros hanner yn rheoli dosbarth cyfan neu swigen ar eu pen eu hunain. Roedd ychydig dros chwarter yn arwain dosbarthiadau mwy.

Mae tâl yn broblem hefyd. Gall cynorthwywyr addysgu fod ar eu colled drwy weithio ochr anghywir i ffin siroedd. Ar hyn o bryd, mae pob cyngor yn gosod ei gyfraddau cyflog ei hun ar gyfer cynorthwywyr addysgu. O ganlyniad, gall gweithiwr mewn un sir ennill hyd at £3,000 yn llai na chydweithiwr sy’n gwneud yr un gwaith mewn sir arall. Rydym am weld cyflogau cyson i gynorthwywyr addysgu fel nad ydynt ar eu colled.

Ein pryder mwyaf un yw bod cynorthwywyr addysgu yn weithlu sy’n cael eu talu’n wael. Yn wahanol i athrawon, nid ydynt yn cael eu talu yn ystod gwyliau ysgol, ac mae hyn yn aml yn achosi caledi ac ansicrwydd. Mae’r cyflogau isel hyn yn effeithio ar fenywod yn fwy na dynion gan fod mwy o fenywod yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu. Yn ôl dadansoddiad diweddar, mae cyflog cynorthwyydd addysgu a hysbysebir ar gyfradd pro rata o £18,000 yn werth dim ond £13,000 y flwyddyn gan nad yw staff yn cael eu talu yn ystod gwyliau’r ysgol.

Mae cynorthwywyr addysgu ar eu colled hefyd am nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd ag eraill i hyfforddi a gwella eu gyrfaoedd. Fel grŵp sydd wedi’i gofrestru’n broffesiynol, dylai fod gan gynorthwywyr dysgu hawl i hyfforddiant priodol a llwybr gyrfa iach.  Er enghraifft, nid ydynt yn cael amser i ffwrdd gyda thâl ar gyfer hyfforddiant, ar wahân i ddiwrnodau HMS. Dyna pam, yn ei Gyngres eleni, y galwodd TUC Cymru am drin cynorthwywyr addysgu yn deg ac yn gyfartal.

Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at rôl hollbwysig cynorthwywyr addysgu yn ein hysgolion ac at y ffordd anghyson ac afresymol y mae cynorthwywyr addysgu’n cael eu rheoli, eu hyfforddi a’u talu. Cafwyd cytundeb ysgubol, gan gynorthwywyr addysgu, cynrychiolwyr undebau, llywodraeth Cymru, arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol, fod angen gwneud rhywbeth. Dyna pam ein bod yn falch iawn bod is-grŵp wedi cael ei ffurfio fel rhan o fforwm Partneriaeth Ysgolion Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn.

Dan arweiniad Gerry McNamara, pennaeth o Flaenau Gwent, mae’r grŵp wedi cyflwyno cyfres o argymhellion a fyddai’n gwella bywyd gwaith cynorthwywyr addysgu ac yn gwella addysg yng Nghymru.

Mae argymhellion yn cynnwys:

  • Cyfathrebu gwell i sicrhau bod penaethiaid ac uwch arweinwyr yn rhoi gwybod i gynorthwywyr addysgu am y cyfleoedd hyfforddi priodol sydd ar gael;
  • Diweddaru hyfforddiant i arweinwyr ysgolion ynghylch lleoli cynorthwywyr addysgu yn gysylltiedig â chyfrifoldebau eu swydd;
  • Edrych ar gyfleoedd i gael mwy o gysondeb o ran graddfeydd cyflog cynorthwywyr addysgu ledled Cymru.

Mae’r argymhellion hyn a gwaith y grŵp yn dangos mantais y ffordd Gymreig o fynd i’r afael â phroblemau anodd. Mae fforwm partneriaeth gymdeithasol ysgolion yn dod â gweithwyr, cyflogwyr a’r llywodraeth at ei gilydd i gydweithio er budd pawb.

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg, yn cefnogi’r argymhellion. Ein cyfrifoldeb ni’n awr yw cydweithio ar lefel leol a chenedlaethol i fwrw ymlaen â’r camau hyn.

Lleisiau o’r ystafell ddosbarth Mae Wendy Lewis yn gynorthwyydd addysgu ac yn gynrychiolydd gweithle GMB yn ne-ddwyrain Cymru gan helpu i ysgrifennu’r cynigion yn adroddiad y staff cymorth.

“Mae cynorthwywyr addysgu wedi cael eu defnyddio drwy gydol y pandemig i gefnogi plant agored i niwed” meddai, “ond dydy ein rôl ni ddim yn cael ei chydnabod yn llawn ac rydyn ni’n teimlo nad ydyn ni’n cael ein gwerthfawrogi.”

“Rydw i wrth fy modd gyda’r hyn rydw i’n ei wneud ond alla i ddim fforddio gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud. Nid penderfyniad economaidd yw gwneud y gwaith hwn.”
Dylid cynnig contractau amser llawn i gynorthwywyr addysgu fel sy’n digwydd gydag aelodau eraill o staff yr ysgol. Rydyn ni’n aelodau medrus a gwerthfawr o weithlu’r ysgol ac mae angen i ni gael ein trin felly.”

Mae Jan Murray yn gynorthwyydd addysgu ac yn gynrychiolydd gweithle UNSAIN o Abertawe ac yn aelod o’r grŵp a luniodd yr argymhellion ar gyfer eu gweithredu.  
“Ar draws Cymru, dylai ein sgiliau a’n galluoedd proffesiynol gael eu cydnabod a’u defnyddio’n briodol. Dylem dderbyn cyflog cyson sy’n cydnabod ein gwerth ym mhob rhan o’r wlad. Gallwn weithio tair neu bedair milltir i ffwrdd mewn sir wahanol a chael cyflog ac amodau cwbl wahanol.

“Fel cynorthwywyr addysgu, mae gennym set unigryw o sgiliau y dylid eu cydnabod. Er enghraifft, mae cynorthwywyr addysgu yn aml yn fedrus iawn wrth ddarparu cefnogaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.”