Ers iddo gael ei sefydlu yn 1999, mae WULF wedi cefnogi dros 200 o brosiectau dysgu. Mae miloedd o weithwyr mewn pob math o ddiwydiannau wedi cymryd rhan yn y cynllun. Dyma rai prosiectau:
Dywedodd Deri Bevan, Pennaeth Dysgu TUC Cymru, “Does dim geiriau i ddisgrifio effaith a gwaddol WULF. Mae’n esiampl ardderchog o sut gall perthynas gref rhwng partneriaid undebau llafar a’r Llywodraeth gefnogi gweithwyr, ac yn y pen draw, economi Cymru”
Mae gennym straeon arbennig gan ddysgwyr WULF i’w rhannu’r mis yma. Straeon gan bobl fel Mark Church a benderfynodd yn ei 40au i geisio help gyda’i broblemau darllen. Fe ddechreuodd gwrs Sgiliau Hanfodol WULF ac mae’n disgrifio'r gwahaniaeth mae’r cwrs wedi’i wneud i’w fywyd fel “dianc o’r cadwyni”. Bellach, mae’n hyderus wrth gwblhau tasgau fel llenwi ffurflenni a defnyddio meddalwedd ar y cyfrifiadur. Mae hefyd yn gallu helpu ei ferch gyda’i gwaith cartref.
Gallwch weld y straeon hyn ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn ystod mis Tachwedd. Rydym hefyd yn creu arddangosfa ryngweithiol sy’n sôn am ugain o straeon am sut mae WULF wedi gwneud gwahaniaeth enfawr ym mywydau pobl. Bydd cyfle i weld yr arddangosfa yng nghynhadledd cynrychiolwyr dysgu TUC Cymru yng Nghasnewydd ar 27 a 28 o Dachwedd.
Os ydych chi’n gynrychiolwr dysgu’r undeb, mae dal cyfle i chi gofrestru ar gyfer y gynhadledd.
Mae Deri Bevan o’r farn bod WULF yn esiampl arbennig sy’n profi pa mor bwysig yw partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Mae’n dweud: Rydym yn hynod o ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i WULF. Mae’n amlygu beth y gellir ei gyflawni gyda phartneriaeth gymdeithasol go-iawn. Yn gyfnewid am y gefnogaeth ariannol, mae’r undeb wedi darparu ei hamser a’i harbenigedd gan fanteisio ar ei safle unigryw i roi cyfle i’r rhai mwyaf bregus ac anodd eu cyrraedd ddatblygu eu hunain ac eraill. Mae’n darparu cyfle cyfartal i bobl, ac yn ein helpu i wneud safleoedd gwaith sy’n cydnabod undebau llafur yn lleoedd tecach a mwy cynhyrchiol.
Rydym eisiau clywed eich stori chi! Os ydych wedi cymryd rhan mewn prosiect WULF neu wedi dysgu drwy’r undeb llafur yn y gorffennol, mae croeso i chi gysylltu â ni ar-lein:
Byddem hefyd yn falch o glywed gennych os oes gennych gyfarchion pen-blwydd i WULF!