Dyddiad cyhoeddi

Yn ei rôl fel Cynrychiolydd Dysgu Drwy Undeb i BT ac Openreach yn Ne Cymru, mae Jan wedi helpu i drefnu cyrsiau a chyfleoedd dysgu ar gyfer cannoedd o’i chydweithwyr. Dros y blynyddoedd, mae hyn wedi cynnwys sgiliau bysellfwrdd a TG, rheoli gwrthdaro, iechyd meddwl, cymorth cyntaf, CPR, ymwybyddiaeth o straen a dementia, a hyd yn oed colur llwyfan. Ond, drwy helpu pobl eraill dysgodd ffaith annisgwyl amdani hi ei hun.

Dyslecsia yn y gweithle

Jan James, Union Learning Rep for BT and Openreach in South Wales
Jan James

Gan ddefnyddio arian gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, sefydlodd Jan ganolfan ddysgu yn y gweithle lle gall staff ddod o hyd i gyrsiau hyfforddiant ar-lein a defnyddio’r llyfrgell. Er mwyn helpu ei chydweithwyr sy’n dod i’r ganolfan gydag anawsterau darllen hyfforddodd Jan fel asesydd dyslecsia.

Eglura: “Drwy ganfod tueddiadau dyslecsig pobl rydyn ni wedi gallu sicrhau eu bod nhw’n cael y cymorth cywir. Mae hyn y gwneud gwahaniaeth anferth. Mewn sawl achos, lle nad oedd gan bobl ddiagnosis, roedd eu rheolwyr wedi camgymryd eu hanawsterau am anallu ac roedd eu swyddi o dan fygythiad. Ond drwy sicrhau bod y cymorth cywir ar gael rydyn ni wedi gallu diogelu swyddi pobl.”
 

Moment ‘Eureka!’

Tra’n mynychu cwrs Ymwybyddiaeth Dyslecsia rai blynyddoedd yn ôl cafodd Jan ei synnu.

Mae’n dweud, “Wnes i ddim yn dda iawn yn yr ysgol. Roedden nhw’n dweud fy mod i’n dwp, ac yn creu miri yn y dosbarth, roeddwn i’n aflonydd iawn. Oherwydd roedd hi’n haws aflonyddu a chael fy hel o’r dosbarth na cheisio gwneud y gwaith. Rydw i wastad wedi cael dysgu yn anoddach ac mae’n cymryd mwy o amser i mi nag y mae i bobl eraill. Roeddwn i’n mynychu cwrs flynyddoedd yn ddiweddarach pan gefais i foment ‘Eureka!’ – sylweddolais nad oeddwn i’n dwp, roeddwn i’n ddyslecsig! Roedd gwybod hyn yn bwysau mawr oddi ar fy ysgwyddau ac roeddwn i’n gallu gweld fy hun mewn goleuni newydd

 

Egni newydd

Bellach mae gan Jan hyder newydd ac mae’n awyddus i ddefnyddio’r egni cadarnhaol hwn i helpu pobl eraill. “Mae mynd trwy’r profiad hwn fy hun yn un o’r rhesymau pam fy mod i eisiau parhau i helpu a chefnogi oedolion i fynd yn ôl at addysg. Rydw i’n gallu cydymdeimlo a chynnig help a chyngor i’r rheini sydd â dyslecsia.”

Bellach mae Jan yn Gyd-drefnydd Dysgu ei changen, yn cynorthwyo Cynrychiolwyr Dysgu Drwy Undeb ar draws De Cymru. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Dysgu Cenedlaethol Cymru’r CWU. Ond mae hi hefyd yn sicrhau bod ganddi amser ar gyfer datblygiad personol. “Yn fy marn i, fel Cynrychiolydd Dysgu Drwy Undeb, rhaid i chi hefyd fod yn llysgennad dros addysg. A’r unig ffordd o wneud hyn yw trwy addysgu eich hunain. Felly bydda i’n cael hyfforddiant pan mae’n bosib, fel seminarau a digwyddiadu rhwydweithio TUC Cymru.”

Mae ymrwymiad Jan wedi cael ei gydnabod gan ei hundeb ar lefel genedlaethol, a chafodd Wobr Dysgu Gydol Oes Ken McKenzie ganddyn nhw.

Ond does gan Jan ddim bwriad arafu! Mae hi wedi hyfforddi fel goruchwyliwr i Learndirect ac wedi gwneud cais am gyllid gan WULF ar gyfer ei chanolfan ddysgu ac ar gyfer cyrsiau i gydweithwyr sydd eisiau ail-hyfforddi. Mae’n dweud, “Trefnais gyllid gan WULF ar gyfer cwpl o fenywod oedd eisiau hyfforddi i fod yn gynorthwywr dosbarth. Roedd yn amseru da iddyn nhw oherwydd ar yr un pryd cyhoeddodd y cwmni eu bod nhw’n trosglwyddo nifer o staff o Gasnewydd i Gaerdydd. Trwy wneud y cyrsiau roedden nhw’n gallu symud i swyddi newydd yn eu hardal, ond heb yr hyfforddiant mae’n bosib y bydden nhw wedi bod yn ddi-waith. Felly roeddwn i’n falch iawn ein bod ni wedi gallu helpu.”

Mae cyflogwyr a gweithwyr ar eu hennill

Dros y ddau gwmni mae cynnydd sylweddol wedi bod ym morâl y staff sydd wedi cael hyfforddiant. Fel mae Jan yn esbonio, “Mae nifer o’r staff wedi dweud bod y cyrsiau wedi rhoi hwb i’w hyder a’u bod nhw’n gynt ac yn fwy effeithiol yn eu gwaith. Felly mae’r cyflogwr wedi elwa hefyd gan fod mwy o gynhyrchiant, morâl gwell a llai o absenoldeb oherwydd salwch.”

Os hoffech chi ddysgu mwy am gyfleoedd dysgu siaradwch â’ch Cynrychiolydd Dysgu Drwy Undeb. Neu helpwch bobl eraill i gael mynediad at addysg drwy wneud yr un peth â Jan a dod yn gynrychiolydd dysgu eich hun! 

Eleni mae WULF (Cronfa Ddysgu Undebau Cymru) yn 20 oed - darllenwch fwy am ddathliadau 20 WULF

Rhannwch eich stori WULF chi

Os ydych chi wedi gwneud cwrs a ariannwyd gan WULF yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf bydden ni wrth ei bodd yn clywed pa effaith mae wedi’i chael arnoch chi: