Dyddiad cyhoeddi
- Dengys canlyniadau arolwg dysgwyr 2020/21 fod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) wedi darparu hyd yn oed mwy o hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda dros 8000 o weithwyr yn cael mynediad at ddysgu yn y gweithle, sy’n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, a chynnydd o ran bodlonrwydd dysgwyr.

- Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod model dysgu'r undeb yn arbennig o dda am gefnogi gweithwyr i symud ymlaen o ran dysgu ac yn eu gwaith. Dywedodd 16 y cant o'r ymatebwyr fod y dysgu wedi arwain at newid rôl y swydd a dywedodd 52 y cant ei fod wedi arwain at godiad cyflog.

- Mae WULF yn darparu ar gyfer gweithwyr sy'n agored i niwed a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae 70 y cant o ddysgwyr yn WULF yn ferched a dywedodd 22 y cant o'r rhai a holwyd fod ganddynt namau corfforol, synhwyraidd, dysgu neu iechyd meddwl.

Dengys ymchwil gan Wavehill a gomisiynwyd gan TUC Cymru fod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn ystod 2020-21 wedi cefnogi mwy o gyfranogiad, gwella mynediad cyfartal a galluogi gweithwyr i symud ymlaen yn eu datblygiad personol eu hunain ac yn eu gyrfaoedd. 

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi hyfforddiant oedolion yn y gweithle a arweinir gan undebau. Mae holl weithwyr Cymru yn cael cyfle i gael mynediad i'r gronfa i fanteisio ar y cymorth, y cyngor a'r arweiniad a'r cynigion hyfforddi sydd ar gael drwy brosiectau WULF.

Yn yr un flwyddyn ag y dilëwyd y rhaglen gyfatebol yn Lloegr (ULF) gan Lywodraeth y DU, darparodd WULF hyfforddiant i nifer uwch nag erioed o weithwyr. Cafodd dros 8000 o bobl gymorth gan WULF ar 2020/21 a dangosodd arolwg dysgwyr a gynhaliwyd gan Wavehill fod 98 y cant o'r farn bod yr hyfforddiant yn ddefnyddiol.

Dywedodd 91 y cant fod yr hyfforddiant yn berthnasol i'w swydd a dywedodd 69 y cant fod yr hyfforddiant wedi gwella eu perfformiad gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir bod yn rhaid i degwch fod yn allweddol i adferiad economaidd. Mae'r adroddiad diweddar hwn yn dangos bod tegwch wrth wraidd model WULF. Un enghraifft o hyn yw'r dystiolaeth o effaith bargeinio ar y cyd. 

Oherwydd y pandemig, cynhaliwyd tua 75 y cant o'r dysgu ar-lein, ond cafodd 41 y cant eu rhyddhau o’r gwaith gyda thâl i ddysgu. Hefyd cafodd dros un o bob pump o ddysgwyr WULF wybodaeth a chymorth ynghylch eu hawliau yn y gweithle tra oedden nhw’n cymryd rhan mewn dysgu WULF.

Mae WULF yn parhau i gyrraedd y rhannau na all rhaglenni dysgu a sgiliau eraill eu cyrraedd. Roedd tua hanner y gweithwyr a holwyd yn newydd i WULF a doedden nhw erioed wedi cymryd rhan yn y rhaglen o'r blaen. Dywedodd 87 y cant mai prif ganlyniad eu profiad oedd mwy o hyder. Mae ei ddull unigryw a'i fodel ariannu hyblyg wedi annog nifer dda o weithwyr anhraddodiadol a nodweddiadol. Er enghraifft, roedd 11 y cant o ddysgwyr yn llawrydd ac, o'r rheini, llwyddodd 65 y cant i gael hyd i waith newydd o ganlyniad i gymorth WULF.

Mae'r adroddiad yn dangos bod cynnydd mewn gwaith yn un o fanteision allweddol y model, o ran datblygiad personol a chyfleoedd gyrfa. Dywedodd tua thraean o'r dysgwyr a holwyd eu bod eisoes wedi symud ymlaen i ddysgu pellach ers iddynt ymgymryd â'u cwrs gwreiddiol, a dywedodd 47 y cant arall eu bod yn debygol o wneud hynny yn y dyfodol agos. 

Fodd bynnag, rhaid i hyn arwain at welliannau o ran ansawdd a thâl swyddi. Mae'r arolwg yn dangos bod WULF yn cael effaith glir yma hefyd, gyda 16 y cant o ddysgwyr WULF yn dweud bod yr hyfforddiant wedi arwain at newid swydd ac roedd 52 y cant o'r grŵp hwnnw wedi cael codiad cyflog o ganlyniad.

Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at lwyddiant parhaus Cronfa Ddysgu Undebau Cymru. Gyda chyfres newydd o brosiectau’n dechrau ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi undebau llafur i sicrhau manteision i filoedd o weithwyr o flwyddyn i flwyddyn tan 2025.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj "Mae'n amlwg o'r adroddiad hwn fod WULF yn wirioneddol weithio ac yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Mae llawer o heriau y mae angen mynd i'r afael â nhw er mwyn tyfu ein heconomi mewn ffordd nad yw'n gadael unrhyw weithiwr na chymuned ar ôl, ac sy’n creu swyddi o ansawdd da. Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod y model yr ydym wedi'i feithrin yn WULF dros y ddau ddegawd diwethaf mewn sefyllfa ddelfrydol i gefnogi'r uchelgais hwn.

"Mae undebau llafur yn gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn newid yn briodol i economi werdd, ein bod yn cefnogi gweithwyr, ac yn gynhwysol yn y ffordd yr ydym yn datblygu eu sgiliau digidol i ymdopi â'r cynnydd cyflym mewn technolegau newydd a'n bod yn mynd ati’n gyson i geisio gwella lles gweithlu Cymru. Mae WULF yn sail i lawer o'r gwaith hwn.

"Rwy'n arbennig o falch o weld bod 'natur unigryw' dysgu dan arweiniad undebau Cymru yn amlwg ac yn drawsnewidiol. Cafodd nifer sylweddol o ddysgwyr WULF eu rhyddhau o’r gwaith gyda thâl i ymgymryd â dysgu a chafodd dros un o bob pump ohonynt gyngor ehangach gan eu hundeb ynghylch eu hawliau yn y gwaith wrth gymryd rhan yn y rhaglen. Dangoswyd bod bargeinio ar y cyd yn sail i ddysgu yn y gweithle i'w wneud yn decach ac yn fwy cynaliadwy, mae'n 'ddull gweithio teg' o ran sgiliau.”

WULF works: Wales Union Learning Fund is still the right model to deliver fairness and progression in the workplace, says Wales TUC
Mae WULF yn gweithio: Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yw'r model cywir o hyd i sicrhau tegwch a chynnydd yn y gweithle, meddai TUC Cymru
Nodyn y golygyddion

Ynglŷn â TUC Cymru

Mae TUC Cymru yn bodoli i wella amodau economaidd a chymdeithasol gweithwyr yng Nghymru, ni waeth a ydynt mewn swydd ai peidio ar hyn o bryd.

Mae ei fandad a'i ddiben yn adeiladu ar rôl ei undebau llafur cysylltiedig unigol. Mae gweithwyr yn ymuno ag undebau llafur i gynrychioli eu buddiannau, ac mae'r undebau hyn yn rhan o’r TUC er mwyn sefydlu agenda cyffredin, y cytunir arno'n ddemocrataidd mewn Cyngres a gynhelir bob dwy flynedd ac a reolir gan y Cyngor Cyffredinol sy'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.

Mae tua 400,000 o bobl yn aelodau o undebau llafur yng Nghymru. Mae'r mwyafrif helaeth o'r bobl hyn yn aelodau o undebau llafur sy'n gysylltiedig â TUC Cymru.

TUC Cymru:

Ffion Dean

fdean@tuc.org.uk

07770384363