Mae’r Gyngres yn nodi:
Mae’r Gyngres yn condemnio’r ymosodiadau ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches, gweithwyr mudol a chymunedau Du ac Asiaidd a Mwslimaidd
Mae’r Gyngres yn credu’r canlynol:
Mae’r Cyngor Cyffredinol wedi ymrwymo o hyd i frwydro yn erbyn hiliaeth yng Nghymru. Mae ein hymgyrch Cymru Unedig yn glir – mae amrywiaeth yn cryfhau Cymru ac nad oes croeso i gasineb yng Nghymru.
Mae’r Gyngres yn cyfarwyddo’r Cyngor Cyffredinol i sicrhau trafodaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol i benderfynu ar ei ymateb i brotestiadau’r dde eithafol yng Nghymru.
Mae’n bwysig cael trafodaeth bellach ar iechyd a diogelwch cynrychiolwyr undebau, aelodau a staff mewn perthynas ag ymateb i wrthdystiadau’r dde eithafol yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Caerdydd
Mae’r Gyngres hon yn nodi'r canlynol:
Mae’r Gyngres hon yn condemnio’r toriadau sydd eisoes yn cael eu gwneud:
Mae’r Gyngres yn cyfarwyddo’r Cyngor Cyffredinol i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Caerdydd
Daeth y Cwricwlwm i Gymru i rym yn 2022 i ailwampio’r ddarpariaeth addysg i’n plant.
Mae ethos a gweledigaeth y cwricwlwm yn canolbwyntio ar helpu pob dysgwr i ddod yn ddinesydd galluog, hyderus a thosturiol sy’n gallu ffynnu mewn byd sy’n newid.
Wrth wraidd y Cwricwlwm, mae’r nod o ddatblygu pedwar diben sy’n disgrifio’r math o ddysgwyr mae’n ceisio eu meithrin.
Mae’r rhain yn cynnwys galluogi pob disgybl i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog; yn gyfranwyr mentrus a chreadigol; yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus ac yn unigolion iach a hyderus.
Mae’r uchelgais hwn yn cael ei gefnogi gan ymarferwyr ond mae ofn bod y weledigaeth hon yn cael ei bygwth gan rymoedd ymhell y tu hwnt i gatiau’r ysgol.
Rydym yn gweld ofn yn treiddio i’n cymunedau ledled Cymru, llif cynyddol o safbwyntiau rhanedig ac eithafol; y defnydd o gredoau hiliol, senoffobig ac yn erbyn ymfudwyr, ac ymgyrch camwybodaeth sy’n creu rhaniadau cymdeithasol.
O ystyried yr ansefydlogrwydd gwleidyddol posibl yng Nghymru yn 2026, rhaid i NAHT symud i ddiogelu ac amddiffyn ein haelodau ac, yn bwysicaf oll, gwerthoedd ein hundeb.
Rydym yn galw ar y Gyngres i ymrwymo i sicrhau bod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn parhau i fod ar gael i bob dysgwr; i sicrhau bod hawliau plant i addysg deg a chytbwys yn cael eu gwarchod, a bod deddfwriaeth sy’n ymwneud ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh), Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, sy’n cynnwys datblygu a chyhoeddi canllawiau traws cenedlaethol ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol, yn parhau.
Cyflwynwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT)
Mae’r Gyngres hon yn nodi bod gwendid parhaus sector y cyfryngau yng Nghymru yn peri pryder oherwydd nad yw’n adlewyrchu bywyd yn ein cymunedau, na’r setliad datganoli, yn briodol.
Mae’r diffyg gwybodaeth hwn yn golygu bod pobl yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion a gwybodaeth, sydd wedi caniatáu i grwpiau’r dde eithafol ledaenu camwybodaeth ac yn troi aelodau o gymunedau yn erbyn ei gilydd.
Mae’r Gyngres yn llongyfarch TUC Cymru am ei waith caled i helpu ymgyrchwyr undebau i gael yr adnoddau i wrthsefyll propaganda’r dde eithafol yn y gweithle. Ond byddai cael sector cyfryngau cryfach hefyd yn helpu i fynd i’r afael â chamwybodaeth a chwalu straeon ffug.
Mae newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yn wasanaeth cyhoeddus a dyma sylfaen cymdeithas ddemocrataidd a bywyd diwylliannol Cymru. Mae’r Gyngres yn cefnogi gwaith yr NUJ i gryfhau newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru, ac mae’n cymeradwyo’r defnydd parhaus o gyllid cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r sector.
Mae’r Gyngres hefyd yn nodi sefydlu’r cyngor partneriaeth gymdeithasol ar gyfer y sector diwylliannol yn ddiweddar, ac yn galw arno i gefnogi camau i gryfhau’r sector cyfryngau yng Nghymru.
Mae’r Gyngres yn cytuno i gefnogi’r NUJ yn ei waith ymgyrchu parhaus i gryfhau newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru, a fydd yn helpu i wrthsefyll celwyddau’r dde eithafol.
Mae’r Gyngres yn galw ar y cyngor cyffredinol i lobïo llywodraeth newydd Cymru ar frys i weithredu argymhellion adroddiad O Gymru ac i Gymru i weinidogion yn llawn.
Cyflwynwyd gan yr NUJ
Mae’r Gyngres yn cydnabod bod gofal sy’n ddiwylliannol gymwys, sy’n ddiogel yn ddiwylliannol, yn wrth-hiliol ac sy’n ystyriol o drawma yn hanfodol i ddiogelwch cleifion a gofal iechyd teg sy’n canolbwyntio ar unigolion yng Nghymru. Mae tystiolaeth gan Diverse Cymru ac argymhellion MBRRACE UK yn dangos bod gofal sy’n anniogel yn ddiwylliannol yn arwain at gam-gyfathrebu, camddiagnosis a niwed y gellir ei atal, gyda menywod a babanod Du, Asiaidd a mwyafrif byd-eang yn profi canlyniadau llawer gwaeth. Mae data Safon Cydraddoldeb Hil y Gweithlu yn dangos hiliaeth, gwahaniaethu a diffyg cynnydd ar gyfer staff mwyafrif byd-eang.
Mae rhai Byrddau Iechyd yn ymgysylltu â mentrau cymhwysedd diwylliannol, gan gynnwys cynlluniau ardystio, ac mae’r ddarpariaeth yn dal yn anghyson ledled Cymru. Mae annhegwch yn rhoi menywod a babanod mewn perygl y gellir ei osgoi. Yn y gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, mae bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth yn gweld sut mae arferion sy’n anniogel yn ddiwylliannol a diwylliant sefydliadol gwael yn tanseilio ymddiriedaeth, diogelwch a chanlyniadau i deuluoedd.
Felly, mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r holl Fyrddau Iechyd i orfodi gwrth-hiliaeth a diogelwch diwylliannol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, wyneb yn wyneb ac yn fyfyriol, gan gynnwys uwch arweinwyr. Rhaid i’r hyfforddiant hwn gynnwys amser wedi’i neilltuo, gwerthusiad effaith cadarn ac atebolrwydd clir. Mae’r Gyngres yn galw am safonau ar draws y sefydliad sy’n hyrwyddo amgylcheddau cynhwysol, recriwtio cynrychioladol a chydgynhyrchu ystyrlon gyda chymunedau amrywiol, a chyfrifoldeb arwain clir dros degwch diwylliannol. Rhaid i’r disgwyliadau hyn gyd-fynd â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Datganiad Ansawdd Mamolaeth a Newyddenedigol a’r Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol.
Mae’r Gyngres wedi penderfynu bod yn rhaid i Fyrddau Iechyd adrodd yn gyhoeddus ar gynnydd blynyddol a dangos newid mesuradwy y tu hwnt i ardystio. Mae’r Gyngres yn cyfarwyddo TUC Cymru i ymgyrchu dros safonau cyson ar draws iechyd, datblygu adnoddau traws-undebol ac eiriol dros gyllid parhaus i ddarparu gofal sy’n ddiogel yn ddiwylliannol ledled Cymru.
Cyflwynwyd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM)

Mae’r Gyngres yn nodi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru fel ymrwymiad hanfodol i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a hyrwyddo cyfiawnder hiliol ledled Cymru. Mae’r cynllun yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer cyrff cyhoeddus, cyflogwyr a sefydliadau, ac mae ei lwyddiant yn dibynnu ar ewyllys wleidyddol barhaus, ymgysylltiad ystyrlon â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a buddsoddiad hirdymor. Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad yw’r gweithredu’n digwydd mor gyflym nac mor ddwfn ag y mae’r Undebwyr Llafur wedi brwydro drosto.
Mae’r Gyngres hefyd yn cydnabod bod gan undebau llafur rôl ganolog wrth sicrhau bod gweithleoedd ledled Cymru yn dod yn weithredol wrth-hiliol, a bod gweithwyr y mae hiliaeth yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi, eu cynrychioli a’u clywed. Fodd bynnag, heb gyllid cadarn, monitro tryloyw, a gweithredu parhaus, mae perygl y bydd uchelgeisiau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cael eu gwanhau neu eu gohirio.
Mae’r Gyngres felly’n galw ar y Cyngor Cyffredinol i lobïo Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Mae’r Gyngres yn cytuno y bydd TUC Cymru yn parhau i hyrwyddo arferion gwrth-hiliol yn y mudiad undebau llafur, yn cefnogi cymdeithion i herio hiliaeth o bob math, yn ymgyrchu’n frwd i Lywodraeth y dydd ar lefel y Senedd, ac yn gweithio gyda’i gilydd i greu Cymru decach a mwy cyfartal i bawb.
Cyflwynwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru

Mae’r Gyngres hon yn cydnabod y nifer cynyddol o weithwyr niwrowahanol, gan gynnwys y rheini sy’n awtistig, yn ddyslecsig, yn ddyspracsig neu’r rheini sydd ag ADHD a chyflyrau eraill. Er gwaethaf mesurau diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae llawer yn dal i wynebu gwahaniaethu, prosesau recriwtio anhygyrch, a diffyg cymorth yn y gweithle.
Mae’r Gynhadledd yn croesawu cynyddu ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth ar draws undebau a chyflogwyr ond mae’n credu bod angen gweithredu ar frys yng Nghymru i sicrhau bod gweithwyr anabl yn cael yr addasiadau rhesymol hanfodol sydd eu hangen arnynt yn brydlon.
Dylai canlyniadau addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr niwrowahanol fod yn gyfartal â chanlyniadau eu cydweithwyr sydd ag amhariadau corfforol.
Mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru