Mae gweithwyr GIG Cymru yn parhau i’w chael hi’n anodd ymdopi â chostau byw cynyddol ac mae’r Gyngres yn nodi gyda phryder mawr fod cyflogau wedi gostwng yn sylweddol mewn termau real ers 2008. Er ein bod yn cydnabod bod Undebau wedi bod ar flaen y gad o ran diogelu’r rhai sy’n cael y cyflogau isaf yn y GIG, mae’r gweithlu wedi gweld gostyngiad sydyn yn eu safonau byw. Mae hyn wedi gorfodi gweithwyr y GIG i ddefnyddio banciau bwyd, wedi arwain at forâl gwael ac wedi achosi anawsterau o ran cadw a recriwtio staff ar bob lefel. Mae wedi gorfodi aelodau undebau i weithredu’n ddiwydiannol mewn ffordd na welwyd ei debyg o’r blaen, sy’n angenrheidiol oherwydd y trafferthion a wynebir, ond mae’n rhoi rhagor o bwysau ar y GIG yr ydym i gyd yn dibynnu arno yng Nghymru.
Ac eto, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn canfyddiadau Corff Adolygu Cyflogau anatebol y GIG unwaith eto ac wedi argymell cynnydd o 3.3% ar gyfer 2026/27, cynnig sy’n is o lawer na’r lefel chwyddiant bresennol. Bydd hyn yn arwain Cymru tuag at fwy fyth o erydu cyflogau.
Mae’r Gyngres hon yn credu nad yw Corff Adolygu Cyflogau’r GIG yn addas i’r diben ac na all gynnig llwybr at adfer cyflogau i lefelau termau real 2008 yr ymrwymodd Llywodraeth Cymru iddynt yn 2023.
Mae’r Gyngres yn croesawu’r ffaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ychwanegu’r Cyflog Byw Gwirioneddol at y bandiau isaf. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu bod staff sy’n gweithio ar wahanol fandiau ar yr un gyfradd, sy’n anghynaladwy.
Yn yr Alban, telir 3.5% yn fwy i weithwyr y GIG na gweithwyr cyfatebol yng Nghymru drwy drafodaethau teirochrog uniongyrchol.
Mae’r Gyngres hon yn galw ar TUC Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddull y Corff Adolygu Cyflogau a symud i gydfargeinio’n llawn ag Undebau Llafur Cymru.
Cyn bo hir, bydd corff negodi newydd yn cael ei sefydlu ar gyfer gweithwyr gofal yng Nghymru, ac mae’r Gyngres yn credu y dylid ymestyn cydfargeinio i staff y GIG hefyd.
Mae’r Gyngres yn credu y gall Llywodraeth newydd Cymru osgoi anghydfod cyflog niweidiol drwy ddechrau trafodaethau cyflog uniongyrchol gydag undebau A4C ar unwaith i wella dyfarniad cyflog 2026-27 ac ymrwymo i drafodaethau cyflog uniongyrchol yn y blynyddoedd dilynol.
Mae’r Gyngres yn galw ar y Cyngor Cyffredinol i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan: UNSAIN Cymru ac UNITE
Mae’r Gyngres yn cydnabod bod llawer o berfformwyr a gweithwyr creadigol yng Nghymru yn parhau i wynebu cyflogau sy’n gyfystyr â thlodi, ansicrwydd cronig, amodau gwaith anniogel, a gorfod gadael y sector. Mae’r amodau hyn yn gwanhau cymunedau, yn tanseilio darpariaeth ddiwylliannol, ac yn gwastraffu buddsoddiad cyhoeddus, er gwaethaf y cyfraniad hanfodol y mae diwylliant yn ei wneud at lesiant, economïau lleol a bywyd cenedlaethol.
Mae’r Gyngres yn cadarnhau bod diwylliant yn waith medrus ac yn rhan greiddiol o economi sylfaenol Cymru, wedi’i gwreiddio mewn lle, iaith, cymuned a gwerth cyhoeddus, a bod ennill gwaith teg i bob gweithiwr diwylliannol yn hanfodol i’w gynaliadwyedd.
Mae’r Gyngres yn croesawu creu Partneriaeth Gymdeithasol Gweithlu’r Celfyddydau, y Sector Creadigol a’r Cyfryngau, sy’n dod â chyflogwyr, gweithwyr ac undebau at ei gilydd i hyrwyddo gwaith teg i weithwyr cyflogedig, llawrydd a hunangyflogedig. Fodd bynnag, rhaid i’r Bartneriaeth sicrhau newid pendant a chanlyniadau mesuradwy, nid trafodaeth yn unig.
Mae’r Gyngres yn nodi bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb datganoledig dros ddiwylliant, cyllid cyhoeddus, partneriaeth gymdeithasol ac amodoldeb y sector cyhoeddus, a bod yn rhaid defnyddio’r pwerau hyn i sicrhau gwaith creadigol teg, cynhwysol a chynaliadwy.
Felly, mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru, gan weithio gydag undebau creadigol cysylltiedig, i annog Llywodraeth newydd Cymru i wneud y canlynol:
Mae’r Gyngres yn cadarnhau bod yn rhaid i ddiwylliant sy’n cael arian cyhoeddus warantu cyflog teg, urddas, cydraddoldeb a mynediad i bawb.
Cyflwynwyd gan Equity
Mae’r Gyngres yn cydnabod yr anawsterau y mae gweithwyr llawrydd a hunangyflogedig ledled Cymru yn parhau i’w hwynebu, gan gynnwys cyflog gwael, ansicrwydd ac amodau gwaith anniogel.
Felly, mae’r Gyngres yn croesawu’r ddogfen newydd ‘Engaging Creative Freelancers: Best Practice Guide’ a gyhoeddwyd gan Undeb y Cerddorion, Bectu ac Urdd Awduron Cymru drwy CULT Cymru, sy’n cynnig arweiniad ymarferol i sefydliadau, ymgysylltwyr ac unigolion ar sut y gellir ymgysylltu â gweithwyr llawrydd yn deg ac yn gynhyrchiol.
Mae’r Gyngres yn cytuno bod canllawiau fel hyn yn gadarnhaol i weithwyr ac ymgysylltwyr da ar draws pob sector ac ymgysylltwyr, nid dim ond y diwydiannau creadigol.
Mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan Undeb y Cerddorion
Rydym yn gweld cynnydd mewn ffederasiynau, cydweithrediadau a phrifathrawiaeth weithredol yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi bod y diwygiadau hyn, mewn rhai achosion, o fudd mawr i ddysgwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod y newidiadau hyn yn cael eu dilyn mewn rhai achosion i arbed arian ac, yn eu tro, i roi ein harweinwyr canol mewn sefyllfa anodd.
Prin hefyd yw’r ymchwil ar yr effeithiau ar arweinwyr sy’n ymgymryd ag ysgolion sydd â chyfrifoldebau ychwanegol sylweddol ar draws nifer o safleoedd heb fawr o dâl ychwanegol.
Ar hyn o bryd, nid oes mecanweithiau i dalu na chefnogi swyddi arwain newydd sy’n cael eu creu yn y ffederasiynau a’r modelau cydweithio hyn – fel pennaeth cyfnod neu bennaeth ysgol.
Nid oes cefnogaeth yn ei lle i sicrhau bod arweinwyr canol presennol, fel dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol, yn cael eu diogelu yn y strwythurau newydd hyn ac, yn eu tro, nad oes cyfleoedd i ddatblygu gyrfa mewn ffederasiynau.
Rydym yn galw ar y Gyngres i ymgyrchu dros ganllawiau cenedlaethol ar gydweithrediadau/ffederasiynau ac i newidiadau gael eu gwneud i Ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) i sicrhau bod arweinwyr canol yn cael eu cydnabod a’u talu’n briodol am y rolau y maent yn ymgymryd â nhw.
Cyflwynwyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT)
Mae’r Gyngres yn credu bod y system gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn argyfwng, gyda dros 20% o refeniw yn mynd i gwmnïau ecwiti preifat, yn aml mewn hafanau treth dramor.
Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod lefelau staffio 20,000 yn brin o’r hyn sydd ei angen. Gan nad yw’r cyflog cyfartalog i weithwyr gofal prin ar lefel yr isafswm cyflog, nid oes fawr o obaith denu’r staff ychwanegol sydd eu hangen.
Mae GIG sydd wedi’i danariannu a’i orymestyn yn dioddef hyd yn oed mwy o brinder gwelyau am nad oes lleoedd gofal cymdeithasol ar gael.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei gweledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 2019 yn 'Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ a oedd yn rhagweld Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, a fyddai’n rhad ac am ddim ac yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr o safon uchel i bawb sydd ei angen. Fodd bynnag, byddai eu strategaeth yn gadael y ddarpariaeth gofal cymdeithasol mewn dwylo preifat yn bennaf. Tra bod gofal cymdeithasol yn parhau i fod mewn perchnogaeth breifat, ni ellir gwireddu’n llawn gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Mae’r Gyngres yn cyfarwyddo’r cyngor cyffredinol newydd i weithio gydag undebau yn y sector gofal cymdeithasol ac aelodau cydymdeimladol o’r Senedd i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Abertawe
Mae'r Gyngres yn nodi bod Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 rhan 3 yn mynnu bod yn rhaid i gaffael cyhoeddus fod yn 'gyfrifol yn gymdeithasol'.
Mae’r Gyngres yn credu bod cyflogwyr sy’n gwrthod cydnabod undebau llafur yn gweithredu mewn ffordd nad yw’n ‘gymdeithasol gyfrifol’. Er gwaethaf hyn, mae llawer o fudiadau nad ydynt yn cydnabod undebau llafur yn cael contractau cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r Gyngres yn credu na ddylid rhoi arian cyhoeddus i fudiadau o’r fath.
Mae symiau enfawr o arian yn gysylltiedig â hyn, gyda Llywodraeth Cymru yn unig yn gwario tua £675 miliwn ar nwyddau a gwasanaethau bob blwyddyn (gov.uk). Mae miloedd lawer o weithwyr yn gweithio mewn gwasanaethau sydd wedi cael eu hallanoli, gan arwain yn gyffredinol at ras i’r gwaelod a diffyg hawliau cyflogaeth. Mae’r Gyngres yn credu bod angen i ni frwydro dros hawliau’r gweithwyr hyn, a bod cydnabod undebau yn gam cyntaf tuag at hyn.
Mae’r Gyngres yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan Gyngor Masnach Rhondda Cynon Taf
Mae’r Gyngres yn nodi cyhoeddi Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol (Chwefror 2025), sy’n tynnu sylw at gymhlethdodau cynyddol beichiogrwydd, gan gynnwys cyfraddau uwch o ddiabetes, BMI uwch, ac anghenion iechyd meddwl amenedigol cynyddol, ochr yn ochr â gwahaniaethau parhaus ac annerbyniol sy’n effeithio ar fenywod Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Mae’r Gyngres hefyd yn nodi rhybuddion gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd bod gofal diogel o ansawdd uchel yn gofyn am niferoedd digonol o staff sydd â’r sgiliau, yr addysg a’r hyfforddiant cywir, yn enwedig wrth i fydwragedd wynebu aciwtedd clinigol cynyddol ac anghenion cymdeithasol a diogelu mwy cymhleth.
Mae’r Gyngres yn bryderus iawn am ganfyddiadau nifer o adolygiadau, gan gynnwys adolygiad annibynnol mis Chwefror 2026 o fethodoleg Birthrate Plus ac adolygiadau Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol diweddar, sy’n nodi methiannau difrifol a systemig sy’n gysylltiedig â phwysau staffio, heriau cymysgedd sgiliau, llai o gapasiti ar gyfer addysg a goruchwyliaeth, a materion diwylliannol mewn gwasanaethau mamolaeth.
Mae’r Gyngres yn credu bod staffio diogel yn hanfodol i ddarparu gofal diogel, teg a thosturiol i fenywod, pobl sy’n geni, babanod a’r gweithlu.
Felly, mae’r Gyngres yn galw ar TUC Cymru i wneud y canlynol:
Cyflwynwyd gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM)

Mae’r Gyngres o’r farn ei bod yn warth bod y miloedd o staff cymorth ysgolion sy’n gyfrifol am les ein plant ac am gefnogi eu haddysg yn cael eu dal mewn tlodi mewn gwaith.
Mae llawer o’r gweithlu, sy’n fenywod yn bennaf, yn gweithio ail swyddi i oroesi neu’n cael eu gorfodi i ddibynnu ar fudd-daliadau mewn gwaith.
Mae’r Gyngres yn cytuno na allai ysgolion weithredu hebddynt ac mae Cymru’n eu methu.
Mae’r Gyngres yn nodi bod cyflog isel yn gyffredin a bod staff cymorth dan anfantais bellach am eu bod yn cael cyflog yn ystod y tymor ysgol yn unig.
Mae cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa yn gyfyngedig, a gall disgrifiadau swydd fod yn amwys. Mae staff cymorth yn gwneud tasgau staff sydd ar gyflog uwch yn rheolaidd heb gael unrhyw dâl ychwanegol, ac mae contractau cyfnod penodol yn arwain at ansicrwydd swyddi.
Mae’r Gyngres yn credu os ydym am gael system addysg sy’n darparu’r gorau i bobl ifanc, mae angen i ni sicrhau bod staff cymorth ysgolion yn cael eu trin a’u gwobrwyo’n deg.
Mae’r Gyngres yn canmol UNSAIN Cymru am ei adroddiad awdurdodol a gomisiynwyd gan yr Adran Ymchwil Llafur sy’n dod i’r casgliad mai creu Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion Cymru yw’r ffordd fwyaf effeithiol o godi cyflogau a gwella amodau staff cymorth, a fydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y system addysg. Y partïon negodi ar gyfer Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion Cymru fydd y tri undeb a gydnabyddir at ddibenion cydfargeinio ar gyfer staff cymorth ysgolion yn y Cyd-gyngor Cenedlaethol presennol.
Mae’r Gyngres yn galw ar lywodraeth newydd Cymru i godi staff cymorth allan o dlodi drwy greu Corff Negodi Staff Cymorth Ysgolion Cymru ac ymrwymo, fel mater o frys, i roi diwedd ar ennill cyflog yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Cyflwynwyd gan UNSAIN
