Undebau a'r Byd Gwaith
Mae undebau llafur yng Nghymru yn bartner cymdeithasol allweddol ac mae deall rôl undebau yn y gweithle yn eithriadol o bwysig i bobl ifanc wrth iddynt ddechrau ar eu bywydau gwaith.

Nod y cynllun peilot ‘Undebau a'r Byd Gwaith’ yw darparu adnoddau o ansawdd uchel i athrawon sy’n canolbwyntio ar elfennau allweddol o undebaeth lafur fodern, hawliau pobl ifanc yn y gwaith a manteision bod mewn undeb llafur. Mae Gyrfaoedd a Phrofiad sy’n Gysylltiedig â Gwaith (CWRE) yn thema allweddol a thrawsbynciol ar gyfer y cwricwlwm newydd yng Nghymru ac mae’r adnoddau hyn wedi’u hanelu at helpu athrawon i ymgorffori undebaeth lafur a hawliau yn y gweithle yn eu haddysgu.

Gellir cyflwyno’r adnoddau hyn fel gwersi annibynnol neu eu defnyddio’n drawsgwricwlaidd wrth gynllunio ac addysgu. Mae’r deunyddiau wedi’u hanelu at flwyddyn 10 a hŷn. Fel rhan o’r cynllun peilot, bydd TUC Cymru yn gallu darparu undebwyr llafur profiadol i ddod i ysgolion fel siaradwr gwadd i gefnogi’r sesiynau hyn.

I gofrestru i gymryd rhan yn y peilot, neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni ar youthwales@tuc.org.uk