Mae deall rôl undebau yn y gweithle yn hynod o bwysig i bobl ifanc wrth iddynt ddechrau ar eu bywyd yn y gweithle.

Mae gweithwyr ifanc yn fwy tebygol o fod mewn swyddi ansicr, mewn swyddi sydd â chyflog isel a heb gyfleoedd i symud ymlaen yn y gwaith nag unrhyw grŵp oedran arall.  

I helpu i fynd i’r afael â hyn, mae undebau llafur wedi gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r rhaglen newydd Undebau a Byd Gwaith. 

Pam defnyddio adnoddau Undebau a Byd Gwaith?

Mae'r rhaglen yn darparu adnoddau o ansawdd uchel i athrawon i helpu myfyrwyr i archwilio:

•    hawliau pobl ifanc yn y gwaith  
•    rôl undebau llafur 
•    deallusrwydd artiffisial a thechnolegau digidol 
•    Newid yn yr hinsawdd 
•    Tegwch a chydraddoldeb ym myd gwaith 
•    Sut i ddysgu sgiliau newydd wrth weithio 

Mae’r rhaglen drawsgwricwlaidd hon yn ymwneud â'r agwedd Gyrfaoedd a Phrofiad sy’n Gysylltiedig â Gwaith (CWRE) yn y cwricwlwm newydd yng Nghymru. 
Mae’r adnoddau’n hyblyg, a gellir eu cyflwyno fel gwersi ar eu pen eu hunain neu mewn ffordd drawsgwricwlaidd.  

Trefnwch siaradwr gwadd ar gyfer eich ysgol 

Gall TUC Cymru drefnu i undebwr llafur profiadol ddod i’ch ysgol fel siaradwr gwadd fel rhan o’r rhaglen 

Beth am gynnal y rhaglen Undebau a Byd Gwaith yn eich ysgol?  

I dderbyn yr adnoddau, neu i drefnu siaradwr gwadd, llenwch ein ffurflen gofrestru ar gyfer Undebau a Byd Gwaith.

Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â ni ar youthwales@tuc.org.uk 

Dyfodol y rhaglen Undebau a Byd Gwaith

Nod prosiect Undebau a Byd Gwaith yw creu rhaglen gynaliadwy hirdymor ar gyfer ysgolion (rhwng 14 ac 19 oed, CA4 ac ôl-16). Bydd y rhaglen yn seiliedig ar gynllun tebyg sy'n cael ei gynnal gan STUC o'r enw Unions Into Schools sy’n cael ei gynnal ledled yr Alban. Bydd yn gweithio'n agos â chynlluniau tebyg sy’n cael eu cynnal ledled y DU gan ein hundebau cysylltiedig, megis y prosiect ‘Unite in Schools’.  

Os ydych chi wedi defnyddio’r adnoddau ac eisiau cynnig adborth i ni neu rannu lluniau o’ch sesiynau, anfonwch neges e-bost i youthwales@tuc.org.uk