Mae’r TUC a Hope Not Hate wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg mawr newydd sy’n dangos bod mwyafrif y pleidleiswyr yng Nghymru – gan gynnwys pleidleiswyr y Ceidwadwyr a Reform – yn cefnogi’r polisïau allweddol ym Mil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU.
Daw’r arolwg o dros 21,000 o bobl ar ôl beirniadaeth o’r Bil Hawliau Cyflogaeth gan arweinydd y Blaid Geidwadol Kemi Badenoch, arweinydd Reform Nigel Farage a rhannau o’r lobi busnes.
Dywedodd TUC Cymru ei fod yn dangos bod gwrthwynebwyr y Bil Hawliau Cyflogaeth “yn bell i ffwrdd” o’r cyhoedd ym Mhrydain.
Mae’r arolwg mawr yn dangos y canlynol am Gymru:
• mae 72% o bobl yn cefnogi gwaharddiad ar gontractau dim oriau
• mae 73% o bobl yn cefnogi rhoi’r hawl i bob gweithiwr gael tâl salwch statudol, gan sicrhau ei fod yn cael ei dalu o ddiwrnod cyntaf ei absenoldeb salwch
• mae 73% o bobl yn cefnogi amddiffyn pob gweithiwr rhag diswyddo annheg o’r diwrnod cyntaf
• mae 72% o bobl yn cefnogi ei gwneud yn haws i weithwyr gael gweithio’n hyblyg
Roedd yr MRP newydd yn modelu cefnogaeth ar lefel etholaeth ar gyfer dau bolisi allweddol o’r ddeddfwriaeth – gwahardd contractau dim oriau a rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf – ac mae’n datgelu y rhagwelir y byddai pleidleiswyr ym mhob etholaeth yn cefnogi’r polisïau.
Bydd rhagor o fanylion am y canlyniadau pleidleisio yn cael eu rhannu yng nghynhadledd Trefnu Nawr TUC Cymru ym mis Mawrth. Darganfyddwch fwy am y gynhadledd sy'n cael ei chynnal mewn dau leoliad:
Mae canfyddiadau cenedlaethol yr arolwg yn dangos bod cefnogwyr pob un o’r prif bleidiau gwleidyddol yn cefnogi polisïau allweddol yn y Bil Hawliau Cyflogaeth.
Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gan bron i ddwy ran o dair o bleidleiswyr Reform a’r Ceidwadwyr yn etholiad 2024 ar gyfer rhai o brif bolisïau’r Bil:
• mae 65% o bleidleiswyr Reform a 63% o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 64% o bleidleiswyr Reform a 62% o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn cefnogi rhoi’r hawl i bob gweithiwr gael tâl salwch statudol, a sicrhau ei fod yn cael ei dalu o’r diwrnod cyntaf
• mae 62% o bleidleiswyr Reform a 62% o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn cefnogi amddiffyn pob gweithiwr rhag diswyddo annheg o’r diwrnod cyntaf yn y swydd
• mae 63% o bleidleiswyr Reform a 64% o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yn cefnogi ei gwneud yn haws i weithio’n hyblyg
Dywedodd TUC Cymru fod yr arolwg yn dangos sut mae Reform yn herio ei bleidleiswyr a’i etholwyr drwy wrthwynebu’r Bil Hawliau Cyflogaeth.
Mae’r arolwg newydd yn dangos bod cyfreithiau hawliau gweithwyr yn hynod o boblogaidd ymysg pleidleiswyr Reform o 2024 yn ogystal â phleidleiswyr sy’n gogwyddo at Reform (y rheini a fyddai’n pleidleisio am Reform pe bai etholiad yfory).
Ym mhob sedd y daeth Reform yn ail yng Nghymru, mae cefnogaeth sylweddol dros wahardd contractau dim oriau a rhoi tâl salwch i bawb o’r diwrnod cyntaf.
Aberafan Maesteg:
• mae 77% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 70% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Alun a Glannau Dyfrdwy:
• mae 72% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 73% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Pen-y-bont:
• mae 71% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 76% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Llanelli:
• mae 73% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 73% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Merthyr Tudful ac Aberdâr:
• mae 75% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 73% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Maldwyn a Glyndŵr:
• mae 71% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 70% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Castell-nedd a Dwyrain Abertawe:
• mae 74% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 71% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Dwyrain Casnewydd
• mae 71% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 72% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Gorllewin Casnewydd ac Islwyn
• mae 74% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 73% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Rhondda ac Ogwr:
• mae 75% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 72% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Pontypridd:
• mae 73% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 73% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Gorllewin Abertawe:
• mae 73% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 73% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Torfaen:
• mae 72% yn cefnogi gwahardd contractau dim oriau
• mae 77% yn cefnogi rhoi tâl salwch i bob gweithiwr o’r diwrnod cyntaf
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Does dim amheuaeth. Mae Bil Hawliau Cyflogaeth nodedig y Llywodraeth yn ennill pleidleisiau.
“Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu’r Bil yn bell i ffwrdd o’r cyhoedd yma yng Nghymru. Mae’r polisïau hyn yn eithriadol o boblogaidd ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
"Ar ôl cyfnod aflwyddiannus y Ceidwadwyr o economi gyda hawliau isel, cyflogau isel a thwf isel, mae pleidleiswyr yn gallu gweld pwysigrwydd gwneud i waith dalu a rhoi terfyn ar y pla o waith ansicr.
“Dyna pam mae’n rhaid i’r Llywodraeth anwybyddu’r sŵn a chyflwyno’r Bil Hawliau Cyflogaeth yn llawn.
“Mae’r rheini sy’n amddiffyn y sefyllfa sydd ohoni yn rhoi eu buddiannau personol eu hunain uwchben pobl sy’n gweithio.”
O ran Reform yn herio eu pleidleiswyr, ychwanegodd Shavanah:
"Mae Reform yn herio ei gefnogwyr ynghylch hawliau gweithwyr. Pleidleisiodd ASau Reform yn erbyn y Bil Hawliau Cyflogaeth ar bob cam.
“Ac nid ar hawliau gweithwyr yn unig y mae byd o wahaniaeth rhwng Reform a phobl Cymru – mae Farage wedi siarad yn agored am breifateiddio’r GIG.
“Dydy Nigel Farage a Reform ddim ar ochr pobl sy’n gweithio – maen nhw ar ochr rheolwyr drwg, contractau dim oriau a chwmnïau gofal iechyd sy’n gwneud elw.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Hope Not Hate, Nick Lowles:
“Mae Reform UK yn dod i’r amlwg fel grym gwleidyddol sylweddol ym Mhrydain, ac mae’n fygythiad difrifol i fwyafrif y llywodraeth Lafur.
"Dydy pleidleiswyr Reform ddim yn floc unffurf - mae nifer sylweddol o'r pleidleiswyr hyn yn cefnogi amlddiwylliannaeth a mewnfudo mewn gwirionedd.
“Ond un peth sy’n gyffredin i’r rhan fwyaf o bleidleiswyr Reform yw eu cefnogaeth am hawliau cryfach yn y gwaith – o wahardd contractau dim oriau i’w gwneud yn haws i weithwyr weithio’n hyblyg.
“Mae mesurau fel y rhain yn lleddfu’r ymdeimlad o besimistiaeth sy’n temtio pleidleiswyr at Reform UK”
Nodiadau i olygyddion:
Mae data etholaethau llawn i’w cael yma: https://www.tuc.org.uk/blogs/huge-support-governments-plan-make-work-pay
MRP: Cynhaliodd Focaldata arolwg o 21,270 o oedolion yn y DU rhwng 30 Tachwedd ac 8 Ionawr 2025 gyda’r nod o gynrychioli’r boblogaeth genedlaethol yn ôl demograffeg ac ymddygiad pleidleisio yn y gorffennol. Cafodd y data o’r arolwg ei ddadansoddi gan ddefnyddio dull atchweliad lluosog ac ôl-haenu (MRP) i ganfod amcangyfrifon ar lefel etholaeth ar gyfer canlyniadau cwestiynau allweddol gan gynnwys bwriad pleidleisio.
- Gwybodaeth am TUC Cymru: TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Rydym yn creu Cymru lle mae gan bawb lais drwy eu hundeb ac incwm y gallant adeiladu bywyd arno. Rydym yn credu bod gan bob gweithiwr yr hawl i fod yn ddiogel, i gael ei werthfawrogi a’i barchu.
Pan fydd gweithwyr yn gweithredu ar y cyd, mae gennym y grym i greu newid cadarnhaol mewn cymdeithas. Rydym yn dod â gweithwyr at ei gilydd drwy 48 undeb i frwydro dros swyddi gwell a gwlad sy’n fwy cyfartal a ffyniannus.