Trefnwch Nawr – Gogledd Cymru
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 19 Mar 2025 - 09:30 to 16:00
Cost
Am ddim
Trosolwg

Trefnwch Nawr: Cynhadledd i undebwyr llafur yn yr 21ain ganrif

Ymunwch â ni am ddiwrnod o sgyrsiau ysbrydoledig a gweithdai ymarferol i’ch helpu i drefnu yn eich gweithle.

Mae’r digwyddiad hwn yn agored i gynrychiolwyr ac ymgyrchwyr o bob undeb a sector yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfle i wneud y canlynol:

  • Dysgu tactegau trefnu newydd
  • Gwrando ar brofiadau cynrychiolwyr a swyddogion
  • Rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda i undebwyr llafur mewn undebau a gweithleoedd eraill
  • Gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig o bob rhan o’n mudiad

Byddwn yn cyhoeddi'r siaradwyr cyn bo hir ond byddent yn trafod y pynciau perthnasol o:

  • Mynd i'r afael â'r dde eithafol
  • Trefnu digidol
  • Ymgysylltu â gweithwyr ifanc
  • Trefnu mewn mannau newydd

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a darperir cinio.

Mae gan gynrychiolwyr undebau llafur hawl i gael amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant. Gofynnwch i’ch undeb am ragor o gyngor os oes angen cymorth arnoch i gael amser i ffwrdd i fynychu.

Hygyrchedd

Rydym am i bawb sy'n mynychu digwyddiadau TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.