Pan gyrhaeddodd argyfwng Covid, yn y lle cyntaf cynigiodd GMB eu cyfleoedd dysgu ar-lein. Er hynny, sylwodd staff y prosiect, cynrychiolydd dysgu’r undeb a’r tiwtoriaid yn fuan iawn bod gostyngiad yn y nifer o bobl a oedd yn cofrestru ar eu cyfer. Roedden nhw’n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw addasu.
Gwnaethon nhw gytuno bod angen dull dysgu cymysg. Gwnaethon nhw ddechrau drwy addasu’r cyrsiau a oedd yn cael eu cyflwyno mor llwyddiannus mewn ystafell ddosbarth cyn Covid-19. Gwnaethon nhw wneud y cyrsiau hyn ar gael drwy gymysgedd o adnoddau ar-lein a ffrydio’r sesiynau a oedd yn cael eu harwain gan diwtoriaid yn fyw. Mae hyn wedi bod yn boblogaidd i’w ryfeddu ac mae’r niferoedd sy’n ymgysylltu â’r rhaglen wedi dychwelyd i’r hyn sy’n arferol.
Roedd yn rhaid i’r tiwtor addasu, a thalodd y prosiect am rywfaint o gyfarpar arbenigol a hyfforddiant er mwyn hwyluso’r newid hwn. Mae’r tiwtor Sarah Bridgeman yn gwybod ei fod yn werth pob ceiniog. Dywed hi:
“Mae’r dysgwyr wedi adrodd eu bod yn mwynhau’r cyrsiau cymaint ag o’r blaen. Maen nhw’n hoffi beth maen nhw’n ei ddysgu yn ogystal â gwerthfawrogi y gallan nhw ddysgu yn ystod amser gwaith, gan ryddhau amser ar gyfer eu bywydau prysur gartref. O ganlyniad, maen nhw wedi magu llawer o hyder. Mae rhai ohonyn nhw wedi dweud y bydden nhw’n ceisio datrys mwy o broblemau gwaith eu hunain lle y bo’n briodol, yn lle disgwyl i rywun eu helpu nhw”.
“Mae ein dysgwyr yn dweud eu bod wedi magu cymaint o hyder mewn TG a bod hyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i rannau eraill o’u bywydau, fel cyllidebu yn y cartref.”
Mae’r prosiect hefyd yn cynnig sesiwn boblogaidd iawn ar gyfathrebu a hyder. Mae dysgwyr sydd ar gyrsiau sgwrsio yn Saesneg i gyd wedi adrodd bod eu sgiliau sgwrsio wedi gwella yn aruthrol. Maen nhw’n awr yn teimlo yn fwy hyderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae hyn wedi cael effaith drawiadol yn nhermau morâl yn y gweithle.
Mae’r rhaglen wedi trawsnewid y gweithlu yno mewn cymaint o wahanol ffyrdd a bydd yn parhau i wneud hyn, er gwaethaf y cyfyngiadau ers dyfodiad Covid.
Ni fu hi bob amser mor hawdd i weithwyr Panasonic ymgysylltu â dysgu.
Dywed Mark Pearce, Cynrychiolydd Dysgu Undeb (CDU) y GMB yn Panasonic ers dwy flynedd, fod y tîm rheoli dros amser wedi ymgysylltu mwy a mwy â’r rhaglen ddysgu. Cymaint felly, fel eu bod wedi neilltuo lle yn y ffatri ar gyfer canolfan ddysgu newydd.
Gŵyr Marc pa mor bwysig yw swyddogaeth y CDU. Dywed ef:
“Mae’r buddion i’r cyflogwr yn eglur ac roedden nhw’n cydnabod hynny yn gyflym iawn. Serch hynny, y rhan fwyaf boddhaus i mi yw gweld pobl yn tyfu a datblygu. Bu cymaint o enghreifftiau o gydweithwyr o lawr y ffatri sydd yn awr yn mynd adref a dysgu gyda’u teuluoedd. Diolch i’n rhaglen ni, roedd un o’n dysgwyr yn mynd adref ac yn helpu ei hwyrion gyda’u gwaith ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud a byddan nhw’n parhau i ddysgu gyda’i gilydd fel teulu.”
Mae Mark wedi gweithio’n ddiflino i helpu dros gant o gydweithwyr gael cyfleoedd dysgu ac mae llawer o’r dysgwyr hyn yn mynd ymlaen i ddysgu mwy. Er enghraifft, mae 78 o weithwyr wedi magu digon o hyder gyda’u sgiliau TG i gofrestru ar borthol dysgu ar-lein GMB arall a dilyn cyrsiau ar-lein yn annibynnol yn eu cartrefi. Bydd hyder mewn sgiliau TG yn hanfodol ar gyfer pob gweithiwr wrth i’r ffordd yr ydym yn gweithio ac yn dysgu newid yn dilyn Covid.
Dywed ef, “Y gwir amdani yw nad yw bobl yn rhoi’r gorau iddi ar ôl y cwrs cyntaf. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau galwedigaethol lefel uwch drwy’r rhaglen WULF ac mae llawer o’n dysgwyr ar y cyrsiau cyntaf yn awr ynghlwm ag ennill cymwysterau uwch ac yn symud ymlaen o bosibl at gyfleoedd swyddi newydd.”
Mae Panasonic yn cydnabod cyflawniadau Marc a thîm dysgu’r GMB. Dywed Lynne Haines, arweinydd AD sy’n gweithio gyda’r GMB:
“Mae’r gefnogaeth yr ydym wedi’i derbyn gan Brosiect WULF y GMB wedi darparu ymateb cadarnhaol gan ein gweithwyr. Gobeithiwn y bydd y gweithgaredd hwn yn gallu parhau, oherwydd mae’n cael canlyniad cadarnhaol iawn ar forâl y staff wrth iddyn nhw ennill sgiliau a magu hyder yn eu galluoedd.”
“Mae hon yn enghraifft wych o sut yr addasodd prosiect dysgu yn y gweithle a oedd eisoes yn llwyddiannus i’r heriau a gyflwynwyd gan Covid-19. Nid yn unig y mae’r rhaglen wedi parhau ar gyfer y gweithwyr yn Panasonic, ond mae hi wedi tyfu a bydd yn parhau i wneud hynny.”
Lle bynnag yr ydych chi’n gweithio yng Nghymru, gallwch chi ymgeisio i fod yn rhan o brosiect dysgu WULF. Edrychwch sut y gallwch chi gael eich hyfforddiant gan WULF yn ystod y coronafeirws.
A ydych chi eisiau rhoi cymorth dysgu i’ch cydweithwyr? Ystyriwch fod yn Gynrychiolydd Dysgu i’r Undeb – darllenwch am beth mae CDUau yn ei wneud a siaradwch ag ysgrifennydd eich cangen.