Bydd Siarter Twf newydd TUC Cymru yn helpu gweithwyr, canghennau eu hundebau llafur, a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.
Mae Twf yn fframwaith galluogi sy'n cynnwys pedair egwyddor graidd a ddatblygwyd ar gyfer gweithleoedd ym mhob sector, i'w helpu i sicrhau cyfiawnder ieithyddol ac amodau a chanlyniadau teg i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg a’i dysgu yn y gwaith.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Dylai pawb gael y cyfle i ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Hoffem weld mwy o weithleoedd dwyieithog cynhwysol lle gall gweithwyr ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg a gweithio yn Gymraeg o ddydd i ddydd.
“Mae creu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol yn mynd law yn llaw â sicrhau cynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith a chyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru. Mae gan undebau llafur rôl hollbwysig i ddiogelu a hyrwyddo hawliau gweithwyr o ran y Gymraeg, a sicrhau bod gweithleoedd yn lleoedd diogel lle nad oes rhagfarn na beirniadaeth.
“Gall gweithwyr, canghennau undebau llafur a chyflogwyr ddefnyddio Twf i gefnogi’r broses o greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol fel mater o degwch a chydraddoldeb.”
Mae gweithleoedd yn lleoliadau strategol i hyrwyddo a hwyluso mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg. Ac mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle ym mhob sector yn un o flaenoriaethau allweddol strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru.
Roedd Osian Llywelyn, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, yn croesawu lansiad Siarter Twf, gan ddweud: "Mae defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn un o'n blaenoriaethau strategol. Mae'n bwysicach nag erioed bod sefydliadau’n mynd ati'n frwd i gynllunio i’w defnyddio o ddydd i ddydd – nid yn unig i gryfhau arferion mewnol o ran y Gymraeg, ond hefyd i feithrin gallu'r gweithlu i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel i'r cyhoedd.
Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â TUC Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, a hoffem weld Siarter Twf yn cael ei mabwysiadu ym mhob gweithle yng Nghymru."
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, "Rwy'n falch iawn bod TUC Cymru wedi cymryd y cam arloesol a rhagweithiol hwn i ddatblygu Siarter Twf i gefnogi'r broses o ddarparu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith. Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhelliad 25 yn fy adroddiad ar gyfer 2025, sy'n galw ar bob corff cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu cynllun clir i gynyddu'r defnydd mewnol o'r Gymraeg mewn cyrff cyhoeddus.
“Mae hyn yn galluogi staff i fyw eu bywyd gwaith fwy a mwy drwy gyfrwng y Gymraeg, gan feithrin diwylliant dwyieithog cryfach yn y gweithle. Mae Siarter Twf yn ddatblygiad strategol a blaengar sy'n ategu’r broses o gyflawni'r nodau hyn. Rwy'n argymell bod gweithleoedd ledled Cymru yn ei mabwysiadu. Mae hyn yn dangos eu hymrwymiad i weithredu er mwyn sicrhau diwylliant dwyieithog cynhwysol."
Gall Twf hefyd roi help llaw gyda'r gwaith cynllunio, a sicrhau bod gweithleoedd dwyieithog cynhwysol y dyfodol yn fannau lle gall pobl ifanc ddefnyddio eu sgiliau dwyieithog wrth ymuno â byd gwaith.