Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod offeryn asesu risg newydd yn cael ei gyhoeddi i gefnogi gweithwyr duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Byddwn yn parhau i weithio gydag undebau iechyd, Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i sicrhau bod hyn yn cael ei gymhwyso'n briodol ar draws y sector.
Rydym yn argymell bod yr offeryn hwn yn cael ei addasu ar gyfer pob sector ac yn rhan o asesiadau risg penodol yn y gweithle ar gyfer pob gweithiwr sy’n agored i niwed, gan gynnwys gweithwyr beichiog ac anabl.
Defnyddiwch adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu gan Lywodraeth Cymru.